BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Mobek

Nadia Becker

Rydym wedi cael cymorth gan Busnes Cymru mewn nifer o ffyrdd. Roedd y cynghorwyr bob amser yn barod i helpu ac yn meddwl am lawer o syniadau i dyfu ein busnes.

Mae Mobek yn fusnes teuluol, sy’n eiddo i Nadia a Ralph Becker. Wedi’u lleoli ym Mae Colwyn, maent yn arbenigo mewn cyflenwi dodrefn awyr agored eco o’r radd flaenaf, sydd wedi’u hadeiladu i bara. Maent yn cynnig ystod o gynhyrchion modern a chynhyrchion cynllunydd o gadeiriau Adirondack, o feinciau i seddi dwfn, lle gallwch chi greu eich trefniant soffa eich hun gan ddefnyddio system fodiwlar.

Ar ôl cael cymorth busnes blaenorol ychydig cyn y pandemig coronafeirws, ers hynny mae Nadia a Ralph wedi cael cymorth dilynol gennym ni yn Busnes Cymru i annog twf cynaliadwy.

Gyda chyfuniad o gefnogaeth gan eu cynghorydd busnes a mentor, rhoddwyd cyngor ar Adnoddau Dynol; yn benodol wrth drafod gwiriadau cyn cyflogaeth, costau recriwtio a gweithredu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Er mwyn helpu'r busnes i symud yn ei flaen, cawsant eu cynghori ar werthu a marchnata’r busnes ac i ddatblygu eu strategaeth cyfryngau cymdeithasol a’u gwefan ymhellach.

Hoffech chi gael cymorth dilynol i addasu a thyfu eich busnes yn yr hinsawdd newydd? 

Dysgwch sut y gallwn ni eich cefnogi chi Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.