BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Snowdonia Candles

Snowdonia Candles

Mae Busnes Cymru wedi fy ngalluogi i droi diddordeb yn fusnes cynaliadwy, ac ymestyn mwy arno.

Penderfynodd Sky Irvine, entrepreneur ifanc uchelgeisiol, droi ei diddordeb yn fusnes. Felly, aeth ati i sefydlu Snowdonia Candles sy’n gwerthu toddion cwyr a chanhwyllau cwyr soia a arllwysir â llaw a chanddynt berarogleuon a ysbrydolwyd gan dirwedd Eryri. Mae hi’n gwerthu’r rhain ar hyd a lled Gogledd Cymru.

Yn dilyn llwyddiant cychwynnol ei busnes, bu Sky yn gweithio gydag un o gynghorwyr Busnes Cymru er mwyn iddi gael y cymorth angenrheidiol i gynnal y twf sydyn yn ei busnes. Fe wnaeth y cynghorydd ei helpu i gyflwyno cais llwyddiannus am Grant Adnewyddu Busnes a chreu gweithle mawr, er mwyn ei galluogi i gadw mwy o stoc a chael mwy o le o bacio archebion.

Hefyd, pwysleisiodd y cynghorydd busnes pa mor bwysig yw llunio polisïau cynaliadwyedd, cydraddoldeb ac amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r twf yn y cwmni, ynghyd â’i werthoedd a’i uchelgeisiau.

Felly, cyflwynodd Sky gyfres o bolisïau newydd o fewn y busnes, yn cynnwys polisi amgylcheddol sy’n adlewyrchu’r arferion cadarnhaol a roddir ar waith.

Hefyd, bydd yn parhau i fonitro’r defnydd a wneir o adnoddau naturiol er mwyn dod o hyd i feysydd lle gellir cyflwyno gwelliannau parhaus yn y dyfodol.

Hoffech chi gael cymorth ar gyfer rheoli twf eich busnes? Cysylltwch â’r tîm heddiw Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.