BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

By the Wye

By the Wye

Roedd ymgynghorwyr Busnes Cymru yn fwy na pharod i helpu gyda’n busnes glampio newydd, yn ein cefnogi gyda’u harbenigedd, cysylltiadau, cyrsiau ac adnoddau, roeddynt yn codi ein hysbryd, yn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i ganolbwyntio a’n tywys bob cam o’r ffordd.

Darparwr glampio coed yn y Gelli Gandryll yw By the Wye

Mae Dawn ac Edith Farnworth wedi gweithio gydag amrywiaeth o’n cynghorwyr arbenigol i ddatblygu eu busnes, gan ganolbwyntio’n enwedig ar sut y gallant wella eu heffeithiau amgylcheddol. 

Gyda’r gefnogaeth a dderbyniwyd, maent wedi cyflwyno polisi amgylcheddol newydd. Nid oes plastig untro ar y safle ac maent hefyd wedi annog ymwelwyr i ddefnyddio siopau a chynnyrch lleol a chyfleusterau teithio cyhoeddus lle bo hynny’n bosibl. Mae bioamrywiaeth y safle wedi cynyddu’n sylweddol ers i Dawn fod yn rhan o bethau, yn ogystal â’u rhaglenni rheoli coetiroedd a phlannu coed parhaus.   

Mae’r busnes wedi ennill nifer o wobrau oherwydd ei ethos a’i ddull rhagorol o ymdrin â Chynaliadwyedd a rheoli safleoedd. 

Sgwrsiwch ag un o’n cynaliadwyedd ymgynghorydd heddiw Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.