Mae datblygiad busnes, rhwydweithiau ac atgyfeiriadau yn offer cynaliadwyedd allweddol i weithwyr busnes cyfreithiol a’u sefydliadau. Eto, mae’r modd y mae’r sector cyfreithiol yng Nghymru yn adeiladu perthnasoedd a chynhyrchu gwaith wedi newid, diolch i weithio o bell, digido a’r newid mewn disgwyliadau cleientiaid.
Bydd ein harbenigwyr yn rhannu sut maent wedi siapio eu practis i fodloni gofynion cleientiaid modern a’r genhedlaeth nesaf - gan drawsnewid eu practis gyda thechnoleg, marchnata digidol a mwy. Byddwch yn gallu manteisio wrth iddynt ddweud sut maent wedi gwneud eu busnesau cyfreithiol yn fwy cynaliadwy ac o ganlyniad yn fwy atyniadol i gleientiaid.
Mae ein siaradwyr yn cynnwys;
- Edward Friend, Carreg Law
- Kevin Harrington, Ymgynghorydd Cyfreithiol
- Paul Jones, CPM 21
- Chris Sweetman, Sweetmans and Partners
Dogfennau
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni am sgwrs un i un gydag ymgynghorydd arbenigol ynghylch sut all eich busnes recriwtio a chadw staff yn effeithiol a dod yn fwy gwydn.
Cymerwch ran yn y sgwrs ar Twitter: #BCSesiynauArbenigol