BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Busnes Cymru Sesiynau Arbenigol: Cyfreithiol

Cyflwyno Sesiynau Cyfreithiol Arbenigol Busnes Cymru; dwy sesiwn fydd yn archwilio heriau cyflogaeth a chynaladwyedd yn y sector cyfreithiol.

Yn ystod pob sesiwn rithiol, bydd ein siaradwyr yn rhannu eu profiadau eu hunain ac yn darparu cyngor a chefnogaeth i fod o gymorth i chi oresgyn yr heriau cyffredin hyn a datblygu busnes mwy gwydn.

Gellir gwylio’r sesiynau isod ac yna lawrlwytho ein pecynnau adnoddau pwnc ar gyfer bob sesiwn, fel eich bod chi'n gallu deall sut allwch gymryd camau cadarnhaol i ysgogi newid o fewn eich busnes.



Rydym yn gwybod bod yr hinsawdd economaidd sy’n newid ac arferion gwaith wedi effeithio ar sawl busnes, gan gynnwys y sector cyfreithiol. Gwrandewch ar Clive Thomas, rheolwr gyfarwyddwr Watkins & Gunn wrth iddo egluro sut mae ei gwmni ef a sawl un arall ar draws Cymru, wedi addasu i sicrhau dyfodol arloesol, cynhwysol a ffyniannus i’r sector cyfreithiol yng Nghymru:

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Gallwn hefyd gynnig sesiynau cyngor un i un, felly, os ydych chi'n cael eich ysbrydoli gan yr hyn rydych yn ei wylio, cysylltwch  â’r tîm i drefnu'ch sesiwn rhad ac am ddim gydag un o’n hymgynghorwyr busnes arbenigol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.