Dau yn unig o'r pryderon sydd gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal plant yw cyflogau isel a diffyg cyfleoedd i hyfforddi, ond mae'r pethau hyn yn gallu peri iddynt ailystyried eu lle yn y diwydiant. Gyda chyfraddau colli staff yn codi, beth gall cwmnïau gofal plant ei wneud i ddenu a chadw staff er mwyn sicrhau cadernid eu busnesau at y dyfodol?
Yn y Sesiwn Arbenigol Gofal Plant yma, bydd ein siaradwyr yn archwilio strategaethau ar gyfer recriwtio a chadw staff, gyda ffocws arbennig ar ddenu pobl rhwng 25 a 40 oed. Byddan nhw'n trafod y sialensiau o ran amrywiaeth yn y sector, gan gynnwys y diffyg dynion, ac yn rhoi sylw i bwysigrwydd contractau a llawlyfrau staff hefyd.
Mae ein siaradwyr yn cynnwys:
- Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cadeirydd Cwlwm
- Tony Gibbons, Meithrinfa Ddydd Kiddies Corner
- Andrew Bell, WeCare Cymru
Dogfennau
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni i gael sgwrs un i un gyda chynghorydd arbenigol ynghylch sut all eich busnes recriwtio a chadw staff yn y sector gofal plant.
Cymerwch ran yn y sgwrs ar Twitter: #BCSesiynauArbenigol