BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Clybiau Plant Cymru Kids Club - Aros a Chwarae Casnewydd, De Dwyrain Cymru

Aros a Chwarae Casnewydd, De-ddwyrain Cymru: Cefnogaeth fusnes i sefydlu Clwb Gofal Plant Ôl-Ysgol  yng Nghasnewydd.

Mae Aros a Chwarae, Casnewydd yn glwb all-ysgol cyfrwng-Cymraeg newydd a gynhelir gan ddarparwr preifat yn Sir Casnewydd yn y De-ddwyrain.  Mae'r clwb wedi'i leoli yn Ysgol Gymraeg Casnewydd ac yn gweithredu ar gyfer y plant sy’n ei mynychu, plant oed 3-12. 

Mae'r clwb yn cynnig amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y plentyn gan ddiwallu anghenion corfforol cymdeithasol, deallusol, creadigol ac emosiynol pob plentyn unigol. 

Mae Nic Speight perchennog Aros a Chwarae wedi bod yn brysur iawn yn ystod misoedd yr haf yn gweithio tuag at gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a'r gobaith yw y bydd yn fan gofal plant cyfrwng-Cymraeg cofrestredig yn fuan, yn cynnig lleoedd Gofal Plant cyfrwng-Cymraeg Allysgol am y tro cyntaf yn y sir. 

 Mae'r clwb yn cael ei redeg gan Gynorthwywyr Dysgu’r ysgol, rhai sy’n siaradwyr Cymraeg, ac yn Weithwyr Chwarae cymwysedig a phrofiadol iawn; ac mae’r plant yn dwlu arnyn nhw.  Ond fel siaradwr Saesneg, teimlai Nic mai ei her fwyaf oedd sicrhau y byddai hi fel y person cyfrifol yn cyflawni holl ofynion AGC fel lleoliad Cymraeg.  Gyda chefnogaeth ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant(SDBG) yng Nghasnewydd, llwyddodd Nic i dderbyn cefnogaeth amhrisiadwy gyda chofrestru ag AGC yn ogystal â chefnogaeth ein SDBG iaith-Gymraeg gyda chael mynediad at a diwygio polisïau dwyieithog. Sicrhaodd meddylfryd creadigol Ceri Innes-Parry, Prifathrawes Ysgol Gymraeg Casnewydd, y byddai gan Casnewydd nid yn unig glwb Cymraeg ond clwb cyfrwng-Cymraeg sydd â llywodraethiad cadarn. 

"Mae wedi bod yn flaenoriaeth i mi ailgychwyn Clwb Cymraeg y tu allan i oriau ysgol am sawl rheswm. Fel ysgol lle nad oes ond 2% o'r rhieni yn medru'r Gymraeg, mae'n hanfodol i'r plant fod yn medru'r Gymraeg mewn awyrgylch gwahanol i un addysgol, a gweld y Gymraeg yn iaith fyw, lle mae'r plant yn gallu chwarae gyda'i gilydd a chyfathrebu ag eraill. 

Yn ogystal, mae'r ardal hon dan anfantais, ac felly, mae ceisio cynorthwyo rhieni/gofalwyr i allu dychwelyd i'r gwaith, neu wneud cyrsiau coleg neu addysg uwch yn rhan hanfodol o gydweithio gyda'n rhieni/gwarchodwyr. Roedd yn flaenoriaeth i'r Clwb gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel y gallai'r rhieni/gwarcheidwaid fanteisio ar help ariannol Llywodraethau Cymru, sydd ar gael ar gyfer gofal plant. 

Gloi... Mae gallu cynnig mwy o oriau i'r Cynorthwywyr Addysgu ar ben eu cyflog fel Cynorthwywyr yn yr Ysgol, yn ein helpu ni fel Ysgol i gadw ein gweithlu. Mae unrhyw help i'w cadw, a dangos iddyn nhw fy mod i'n meddwl yn greadigol am ffyrdd i'w helpu i godi eu cyflogau yn hanfodol er mwyn cynnal ethos a morâl y gweithlu. 

Fy mlaenoriaeth wrth chwilio am ddarparwr oedd fy mod eisiau i'r darparwr arwain o ran trefniadau a thaliadau. Mae'r rhieni/gwarchodwyr yn talu'r darparwyr yn uniongyrchol, felly does dim angen i mi fod yn rhan o gwbl. Ro'n i hefyd eisiau i'r darparwyr fod yn wybodus o ran Diogelu plant er mwyn bod â ffydd ynddyn nhw i ddilyn trefniadau pwrpasol a chywir. 

Roedd yr help a gefais gan Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn wych! Fe wnaeth Siân a Clare fy arwain drwy'r broses reoleiddio yn ogystal â darparu llythyron dwyieithog er mwyn hysbysebu. Byddai hefyd yn helpu gyda chwestiynau posib yn ogystal ag atgyfeiriadau. Fe wnaethon nhw fy arwain drwy'r broses o gasglu arian a sicrhau bod y cymunedau’n gweithredu'n gadarn o ran y diogelu sydd ar waith."  Ceri Innes-Parry Pennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.