BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Contractau ar gyfer Arloesi

Mae contractau ar gyfer arloesi i’r sector cyhoeddus weithio gyda’r diwydiant yn ystod camau cyntaf datblygiad er mwyn creu datrysiadau, gan alluogi busnesau i ymchwilio’n llawn i gyfleoedd newydd drwy gontractau datblygu ac ymchwil wedi’u hariannu’n llawn. Gellir archwilio syniadau newydd drwy ddatblygiadau cam wrth gam a fydd yn lleihau’r risg i’r ddau barti, ac a fydd o gymorth i nodi’r prosiectau mwyaf addawol.

Nodweddion allweddol o safbwynt y Llywodraeth:

  • Cystadlaethau wedi’u gyrru gan heriau yn seiliedig ar y rhwystrau rydych chi’n eu hwynebu.
  • Contract yn eich galluogi i gadw rheolaeth a chyfrannau at yr ymchwil a’r datblygu.
  • Y cyntaf i elwa o unrhyw arloesi ddaw o hynny
  • Gweithredu o dan Fframwaith Caffael cyn-fasnachol yr UE
  • Potensial ar gyfer gwelliannau sylweddol i wasanaethau

Nodweddion allweddol o safbwynt arloeswyr:

  • Proses ymgeisio syml a sydyn
  • Contractau datblygu wedi eu hariannu’n llawn
  • Arbennig o addas i BBaChau
  • Cyfrifoldeb y cwmni yw IP
  • Cael datblygu a gwerthu’r arloesi i farchnadoedd eraill 

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Ragoriaeth, sy’n cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Ganolfan Ragoriaeth yn gweithio ar draws pob sector er mwyn creu datrysiadau iechyd arloesol ar gyfer anghenion heb eu diwallu yng Nghymru.

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Datrysiadau cyflym i ddihalogi ambiwlans


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.