BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Cydweithio

Gall cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â busnesau eraill fod yn un ffordd i helpu’ch busnes i dyfu. Mae’r adran hon yn edrych ar rai o’r opsiynau sydd ar gael i chi a sut mae cydweithio er mwyn llwyddo. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 June 2017
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Contents

1. Cyflwyniad

Gall cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â busnesau eraill fod yn un ffordd i helpu’ch busnes i dyfu. Mae’r adran hon yn edrych ar rai o’r opsiynau sydd ar gael i chi a sut mae cydweithio er mwyn llwyddo.

2. Cydweithio i ennill

Mae datblygiadau ym maes technoleg yn golygu bod y byd yn mynd yn llai ac yn llai, ac mae'r cyfleoedd i gydweithio ag eraill yn cynyddu. Mae busnesau bach yn rhan fawr o’r duedd hon ac maen nhw'n sylwi fwyfwy ar fanteision gweithio ar y cyd.

Gall cydweithio helpu busnes i ddatblygu mewn sawl ffordd – drwy gyfuno a dylanwadu ar arbenigedd, drwy ddefnyddio mwy a mwy o gysylltiadau, ac mewn rhai achosion, drwy rannu adnoddau. 

Enghreifftiau o ffyrdd i gydweithio 

Gall busnesau bach weithio ar y cyd i wneud y canlynol:

  • datblygu ystod o gynnyrch a gwasanaethau, gan wella’r gwerth cyffredinol i’r cwsmer

Er enghraifft, mae gan ffotograffydd priodasau a gwerthwr blodau sylfaen debyg o gwsmeriaid a gallan nhw weithio gyda’i gilydd i gynnig pecyn am bris gostyngol i gyplau sydd ar fin priodi. Mae ganddyn nhw gyfle i ennill mwy o fusnes ac mae’r cwsmer yn elwa o gael pecyn o wasanaethau wedi’i gydlynu, a hynny am bris da.

  • gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ei gilydd i’w sylfaen gwsmeriaid eu hunain, a gwella’u mynediad at eu marchnad darged

Er enghraifft, gall datblygwr gwefannau gysylltu â chyfrifydd i greu cynnig arbennig i gwsmeriaid y cyfrifydd. Yn ei dro, gall y cyfrifydd greu cynnig arbennig i gwsmeriaid y datblygwr gwefannau. Mae’r ddau fusnes yn elwa drwy gyrraedd cynulleidfa newydd, ac mae eu cwsmeriaid yn elwa o gael cynnig arbennig.

  • rhannu costau ar gyfer gweithgareddau fel sioeau masnach ac arddangosfeydd, hysbysebu a gweithgareddau marchnata eraill, er mwyn dod â’r costau i lawr a denu cynulleidfa fwy

Er enghraifft, gall siop oleuadau arbenigol gysylltu â thrydanwr i gynnal ymgyrch hysbysebu ar y cyd.

  • o gysylltiadau strategol neu bartneriaethau i rannu adnoddau a dealltwriaeth

Er enghraifft, gall dau fusnes weithio gyda'i gilydd i gyflwyno tendr ar y cyd i sefydliadau sector cyhoeddus.

  • cydweithio ar ymchwil a datblygu i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd ac i rannu’r risgiau, yn ogystal â’r manteision, sy’n gysylltiedig â datblygu cynnyrch newydd
  • datblygu a defnyddio brand cyffredin, i gyflwyno'r 2 fusnes fel sefydliad mwy

Er enghraifft, gall nifer o fusnesau bach sy’n gweithio yn y sector twristiaeth greu brand ar y cyd i hyrwyddo’u cynnyrch a’u gwasanaethau.

Mae rhai o’r gweithgareddau hyn yn ymrwymiadau ffurfiol, hirdymor, ac mae eraill yn gyfleoedd cyflym ac anffurfiol. Yr hyn sy’n bwysig ar gyfer cydweithio’n llwyddiannus yw ei fod o fudd i’r naill a’r llall, a’r nod yw cefnogi llwyddiant pawb sy’n gysylltiedig.

3. Dod o hyd i bartneriaid

Felly ymhle ydych chi’n dod o hyd i’r bobl neu’r busnesau i gydweithio â nhw?

Cysylltiadau tebyg

Un o’r ffyrdd gorau o gyfarfod partneriaid posib yw drwy gysylltiad personol, felly gwnewch yn siŵr bod eich cydweithwyr a’ch cysylltiadau’n ymwybodol eich bod yn agored i gyfleoedd i gydweithio.

Ffordd arall o gyfarfod pobl o’r un anian yw drwy rwydweithiau busnes. Gall fforymau cyffredinol neu gyfarfodydd clwstwr neu sector arbenigol fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â’r nifer gynyddol o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyfleoedd i gydweithio. 

Digwyddiadau Brocera 

Mae nifer o sectorau diwydiant yn cynnal digwyddiadau brocera lle mae busnesau unigol yn cael cyfle i gwrdd â sefydliadau mwy a’u cyflenwyr i frocera ystod o bosibiliadau sydd o fudd i’r naill a’r llall. 

Cyfleoedd ar-lein

Mae’r rheini sy’n chwilio am gydweithredwyr neu bartneriaid posib yn troi at ddulliau o gyflwyno ar-lein. Mae LinkedIn a fforymau proffesiynol eraill yn arbennig o boblogaidd. Mae nifer o offer ar-lein yn eich galluogi chi i ganolbwyntio’n fanwl ar yr hyn rydych chi’n chwilio amdano.  Er enghraifft, drwy chwilio drwy’r LinkedIn Groups perthnasol a defnyddio LinkedIn Pulse i amlinellu cyfle penodol, gallwch dynnu sylw at nifer fach o gysylltiadau hynod berthnasol a phriodol.

Yn ogystal â’r offer ehangach hyn, mae yna rai gwefannau sy’n canolbwyntio ar hysbysebu cyfleoedd cydweithio ar gyfer gweithwyr llawrydd a busnesau bach.

Sefydlu perthynas 

Fel sy’n wir gydag unrhyw gysylltiadau newydd, mae’n bwysig sefydlu perthynas â’r bobl rydych chi’n cwrdd â nhw, cyn trafod cyfleoedd busnes. Rhaid i chi hefyd allu egluro beth rydych chi’n ei wneud yn gryno, ond mewn ffordd mor ddiddorol â phosib. 

Pan fyddwch chi’n siarad â chysylltiadau newydd, nodwch yn glir eich bod chi’n agored i ystyried cyfleoedd i gydweithio.  Efallai y byddwch chi hefyd yn dymuno egluro’n gryno unrhyw gyfleoedd partneriaeth penodol sydd gennych chi mewn golwg.

Mae'r un mor bwysig dal ati i gyfathrebu â phartneriaid posib. Yn aml iawn, mae’n cymryd amser i’r cyfle iawn i weithio ar y cyd ddod i’r amlwg.

Contractau sector cyhoeddus 

Maes sy’n tyfu ar gyfer cydweithio rhwng busnesau bach yw tendro corfforaethol a sector cyhoeddus. Yn aml iawn mae contractau mawr yn ymddangos y tu hwnt i fusnesau unigol, oherwydd diffyg adnoddau, dealltwriaeth, profiad a mas critigol. Fodd bynnag, gallwch gynyddu eich siawns o gael contract proffidiol drwy gysylltu â busnesau eraill a chydweithio, un ai drwy isgontractio neu mewn menter ar y cyd.

Gofynnwch i’ch cynghorydd busnes yn Busnes Cymru am fwy o wybodaeth am gyfleoedd tendro yn y sector cyhoeddus neu ewch GwerthwchiGymru.

4. Cydweithio i lwyddo

Mae cyfathrebu da yn parhau i fod yn hynod bwysig pan fyddwch chi’n dechrau gweithio gyda phartner. Manteisiwch ar yr adnoddau niferus sydd ar gael ar-lein i hwyluso cydweithio. Mae yna raglenni sy’n caniatáu i chi rannu dogfennau, storio a chael mynediad at ffeiliau prosiect yn ganolog, gweld sgrin cyfrifiadur y naill a’r llall o bell, rhannu cyflwyniadau, a chynnal cyfarfodydd un-i-un neu gyda grŵp. Chwiliwch am 'adnoddau cydweithio' ar-lein neu gofynnwch i gydweithwyr busnes am gyngor ynghylch yr adnoddau a'r technegau sy'n gweithio orau iddyn nhw. Gwnewch yn siŵr eich bod chi (a’ch partneriaid) yn cadw’ch gwybodaeth ar-lein mor ddiogel â phosib.

I ddechrau, mae’n syniad da dechrau gyda phrosiect lle nad oes angen gormod o ymrwymiad gan y naill barti na’r llall. Er enghraifft, gallech gynnig un o gynnyrch eich partner i rai o’ch cwsmeriaid – risg isel, ond mae posib cael canlyniadau cadarnhaol. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich gilydd, deall sut gallai eich busnesau weithio gyda’i gilydd a gweld sut byddai modd datblygu’r berthynas.

Wrth i’r berthynas ddatblygu ac wrth i gyfleoedd mwy ddod i’r amlwg, efallai y byddai'n ddoeth ystyried cael cytundeb sy'n amlinellu'r nodau, yr amcanion a'r gweithgareddau allweddol, er mwyn i bawb ddeall beth yw beth. Os ydych chi’n cydweithio ar weithgareddau ymchwil a datblygu, mae’n beth doeth ffurfioli’r trefniadau yn gynnar. Ymgynghorwch â’ch cynghorydd busnes yn Busnes Cymru neu gynghorwyr proffesiynol eraill i gael gwybodaeth am Gytundebau Dim Datgelu (NDAs) a chontractau cydweithio ffurfiol eraill.

Gall cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â busnesau eraill fod yn ffordd wych o helpu'ch busnes i dyfu. Cofiwch, y peth pwysig ar gyfer cydweithio'n llwyddiannus yw cael sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill ac yn ceisio cefnogi llwyddiant pawb sy'n gysylltiedig.
 

Nawr eich bod wedi cwblhau'r adrannau hyn, dylech fod:

  • yn deall y prif ffyrdd o ddatblygu busnes
  • yn glir ynghylch eich nodau personol a’r hyn sydd ei eisiau arnoch chi o’r busnes
  • yn gwybod sut mae asesu pa adnoddau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu
  • yn deall y newidiadau a ddaw gyda thwf a sut mae eu rheoli
  • yn barod i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer datblygu

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.