BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cylch Meithrin Penderyn Aberdar Cyflogwr

Fy enw i yw Naomi, ac rwy’n cael fy nghyflogi gan National Day Nurseries Association (NDNA) fel Cynorthwyydd Meithrinfa dan Hyfforddiant fel rhan o brosiect NDNA Cymru Gofal Plant ar Waith.

Mae prosiect NDNA Cymru Gofal Plant ar Waith Gorllewin Cymru a’r Cymoedd 25+ yn rhaglen cefnogi cyflogaeth a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru ac yn cael ei rheoli gan y CGGC. Mae’n olynu prosiect Gofal Plant ar Waith llwyddiannus, ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen yn cefnogi unigolion di-waith dros 25 mlwydd oed sydd ag awydd i ddilyn gyrfa yn gweithio yn y sector gofal plant, yn ogystal â chefnogi lleoliadau gofal plant gyda recriwtio a chadw. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu cyflogi gan NDNA fel Cynorthwywyr Meithrin dan Hyfforddiant am 16 wythnos tra ar y prosiect ac yn cael eu talu i weithio 16 awr yr wythnos. Mae hyfforddeion yn cael 4 wythnos o hyfforddiant ar ddechrau'r rhaglen i gael gwybodaeth sylfaenol am ofal plant, ac yna 12 wythnos o leoliad mewn lleoliad gofal plant.

Rwyf wedi cwblhau fy hyfforddiant 4 wythnos, yn cwmpasu Cymorth Cyntaf Pediatrig, Diogelu Plant, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth; Iechyd a Diogelwch a llawer mwy. Rwyf nawr yn barod ar gyfer fy lleoliad 12 wythnos yng Nghylch Meithrin Penderyn yn Aberdâr.

Gan fy mod wedi fy lleoli yn y Meithrin, rhoddodd Sadie (Cydlynydd Prosiect Gofal Plant ar Waith yr NDNA) y daflen a’r wybodaeth i mi am y cwrs Camau a dywedodd y byddai hyn o gymorth pe bawn yn cychwyn ar hyfforddiant pellach i fy helpu i siarad Cymraeg gyda’r plant yn y lleoliad.

Astudiais y Gymraeg hyd at lefel TGAU, ond nid wyf wedi cael y cyfle i’w ddefnyddio ers gadael yr ysgol. Mae fy merch yn dysgu Cymraeg, ac roeddwn yn ei chefnogi gyda lliwiau, tywydd a sut i ymateb pe bai rhywun yn gofyn iddi ‘beth yw dy enw’.

Rydw i wastad wedi mwynhau dysgu Cymraeg, felly cofrestrais ar y cwrs ar-lein, a oedd yn hawdd a chychwynnais ar Mynediad 1.
Roedd y 10 modiwl cyntaf i gyd am yr iaith sylfaenol, roeddwn eisoes yn ddeall o fy TGAU Cymraeg. Roedd yn delio gyda sut i ofyn ‘pwy wyt ti’ ble wyt ti’n hoffi’ a sut i ateb y rhain yn gywir, hefyd lliwiau, rhifau, siapiau a’r tywydd.

Mwynheais y cwrs yn fawr ac yna symudais i Mynediad 2.

Roedd y 10 modiwl nesaf yn fwy defnyddiol i mi. Roeddwn i eisiau gwneud gweithgaredd o chwarae anniben, drwy greu hambwrdd traeth bwytadwy. Roedd un modiwl ar y traeth, sydd wedi fy nghefnogi gyda'r iaith a'r geiriau ar gyfer cestyll tywod, cregyn, crancod, rhawiau, bwcedi, mae hyn yn help mawr.

O fewn y cwrs, mae adnoddau / taflenni y gellir eu llwytho i lawr i’ch cefnogi i wreiddio’r Gymraeg mewn ymarfer bob dydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.