BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blynyddoedd Cynnar Cymru - Cefnogaeth ar gyfer lleoliad gofal dydd llawn

Cefnogaeth ar gyfer lleoliad gofal dydd llawn yn gweithredu ar safle ysgol

Roedd yr Awdurdod Lleol yn ariannu aelodaeth o Flynyddoedd Cynnar Cymru dros y lleoliad fel y byddai cefnogaeth ar gael ynghylch ei llywodraethiant.  Cynhaliwyd cyfarfod gyda'r staff gofal dydd, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Dirprwy Bennaeth yr ysgol.

Trafodwyd holl feysydd cefnogaeth busnes – Arolygiaeth Gofal Cymru, cymwysterau, cyllid, ceisiadau am grantiau, Hunan Asesiad o’r Datganiad Gwasanaeth, cynllun busnes, gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gofynion Unigolyn Cyfrifol a Pherson mewn Gofal a llawer mwy, gan gynnig cefnogaeth yn yr holl feysydd er mwyn cefnogi’r lleoliad i symud ymlaen.  

Crybwyllodd y lleoliad eu bod wedi derbyn dirwy dreth drom oddi wrth Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac nad oedd ganddyn nhw arian i'w thalu. Doedd y staff ddim wedi derbyn eu cyflog llawn chwaith ac roedd un cyn aelod o staff wedi cysylltu â chynrychiolydd ei hundeb ac ACAS er mwyn mynd i gyfraith i gael y cyflog oedd yn ddyledus. Daeth yn amlwg hefyd fod y rheolwr wedi trosglwyddo ei char i feilis Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn ystod eu hymweliad diwethaf (roedden nhw wedi derbyn tri ymweliad gan y beilis, yn costio cannoedd o bunnoedd). 

Rhoddodd Blynyddoedd Cynnar Cymru gefnogaeth i’r lleoliad gan gynnwys cynghori staff i drafod gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi i gael eglurhad ar eu hatebolrwydd gan nad oedd ganddyn nhw atebolrwydd dros rai o’r ffigyrau ac i ofyn am gynllun talu ar gyfer eu dyledion Talu wrth Ennill eu hunain.  

Fe roddon ni dempled cynllun busnes a’u helpu i’w gwblhau, roedden ni hefyd yn gweithio gyda'r pennaeth a'r dirprwy ar wahanol geisiadau am grantiau gan gael £9000. Roedd hyn yn eu galluogi i dalu'r cyflogau oedd yn ddyledus ac i ganslo’r hawliadau cyfreithiol am yr holl gyflogau oedd yn ddyledus.

Penderfynodd yr ysgol gymryd mwy o ran a helpu’r lleoliad ac mae wedi gweithio ar bolisïau a gweithdrefnau gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru. Gweithiodd yr ysgol hefyd gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru ar recriwtio oherwydd bu rhai newidiadau staff yn ddiweddar.

Erbyn hyn, mae wedi cofrestru fel Sefydliad Elusennol Corfforedig ac, yn ddiweddar, wedi penodi rheolwr a staff cefnogi cymwysedig. Maen nhw’n gweithio’n galed i wella ymarfer a chydymffurfiad mewn partneriaeth â Blynyddoedd Cynnar Cymru ac wedi cwblhau eu cofrestriad gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Yn wirioneddol werthfawrogi’r gwaith rydych chi’n ei wneud, maen nhw wedi gofyn i mi anfon eu diolchiadau atoch; meddai Clare! (Dirprwy Bennaeth)

Peth o’r ADBORTH a dderbyniwyd ynghylch ein cefnogaeth reolaethol.

CYNHADLEDD ELUSENNAU CYMRU GYFAN 2020
Helen Stephenson CBE, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau...
Fe hoffwn i amlygu rhai o’r gwaith penodol rydym wedi’i wneud yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Mae'n tîm cofrestru a gwasanaeth y cwsmer wedi gweithio gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru ac maen nhw wedi cytuno ar ddogfennau llywodraethu cymeradwy gan gynnwys cyfansoddiadau Sefydliad Corfforedig Elusennol ac wedi sefydlu proses i gael y gymeradwyaeth angenrheidiol trwy’r corff ymbarél hwnnw i drosglwyddo asedau a dyledion unrhyw Sefydliad Corfforedig Elusennol newydd ac mae hynny’n enghraifft o sut rydyn ni’n ei gwneud yn haws i elusennau bychain weithredu ac yn rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i ddal ati i’w wneud.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.