BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Clybiau Plant Cymru Kids Club, Clwb Gwyliau Heya Bina

Clwb Gwyliau Heya Bina Caerdydd – Yn cefnogi datblygiad Clwb Gofal Plant Allysgol newydd yng Nghaerdydd

Mae Clwb Gwyliau Heya Bina yn glwb gwyliau cynhwysol, sy’n ceisio darparu gofal plant i deuluoedd yn ardal Cathays, Caerdydd gyda ffocws ar weithgareddau chwarae ar thema Islamaidd. Mae’r gwasanaeth yn agored i bob plentyn. Darperir gweithgareddau’n seiliedig ar ffydd ochr yn ochr â dewis eang o weithgareddau eraill y mae plant yn dewis eu cyrchu, neu beidio, o’u gwirfodd.

Ar ôl y drafodaeth gychwynnol rhwng sylfaenydd Clwb Heya Bina, Amy, a Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant i Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, Becky, penderfynwyd mai'r cam cyntaf oedd ceisio dod o hyd i fan cyfarfod.  Awgrymodd Becky i Amy y dylai ymholi yn y Mosg lleol. Bu hwn yn gam cadarnhaol, nid yn unig am fod ganddynt fan cyfarfod addas y gallent ei ddarparu, ond hefyd am fod y rheolwyr yn fwy na pharod i gefnogi’r ddarpariaeth. Cefnogodd Becky Amy i baratoi’r polisiau ac i gwblhau’r cais i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Un maes yr oedd Amy’n awyddus iawn i’w ddilyn oedd bod yn fusnes di-bapur. Golygai hyn y byddai’r holl bolisïau a’r ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio’r “cwmwl”. Fe wnaethom drafod gweithdrefnau’n ymwneud â sut y gallai’r clwb adennill gwybodaeth y byddai eu hangen arnynt yn ystod oriau’r clwb drwy’r defnydd o ffeiliau wrthgefn petai anhawster o ran cyrchu’r rhyngrwyd. Cefnogodd Becky Amy i ysgrifennu polisi am y system di-bapur gan sicrhau bod y polisi’n cynnwys gweithdrefnau pwysig ar ddiogelu data tra byddent yn defnyddio’r cwmwl.

A’r holl bolisïau wedi eu cwblhau a’r cais wedi ei gyflwyno, fe wnaethom aros ddisgwyl i AGC ddod yn ôl atom gyda’u hadborth. Dywedasant wrth Amy fod ei chais a’i pholisïau mor drwyadl fel nad oedd fawr i’w drafod. 

Mae Amy a Becky wedi cydweithio’n agos â’i gilydd ac mae’r gwaith tîm wedi golygu bod sefydlu clwb newydd wedi bod yn broses llawer llyfnach nag y gallai fod wedi bod ar adeg mor ddigynsail. Y cam olaf yw disgwyl i AGC archwilio’r adeilad o hirbell.  Rydym oll yn hyderus y bydd y clwb ar ei draed ac yn weithredol o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, os caniateir hynny gan gyfyngiadau Covid,

Wrth siarad am y gefnogaeth a gafodd gan Becky, dywedodd Amy:

Mae’r gefnogaeth yr wyf wedi ei derbyn gan Rebecca wedi bod yn ardderchog. Fe wnaeth Covid darfu ar bopeth, ond gweithiodd Rebecca’n ddiflino,  yn enwedig  yn ystod yr wythnosau cyn cyflwyno dogfennau i AGC. Bu cyfarfodydd niferus dros y ffôn ac ar Zoom, er ei bod hi’n ceisio ymdopi â gweithio o gartref ac addysgu gartref! Fe wnes fwynhau pan wnaeth ei mab ymuno â ni unwaith i ddweud helo. Gwerthfawrogais yn fawr pa mor gyflym yr ymatebodd Rebecca o ran gwelliannau i’r storio ar gwmwl. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’m haelodaeth o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ac agor fy lleoliad yn y dyfodol agos iawn pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.