BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

National Day Nurseries Association Cymru, Meithrinfa Mother Goose

Cefnogaeth i Ariannu a Datblygu Meithrinfa Mother Goose

Mae Sarah Love wedi bod yn aelod o’r NDNA ers 2015 ac mae’n aelod gweithgar o Rwydwaith NDNA Wrecsam. nd is an active member of the Wrexham NDNA Network.  Mae’n bnerchen ar ddwy feithrinfa yn ardal Wrecsam – Meithrinfa ABC a Meithrinfa Mother Goose. Ers iddi gymryd drosodd, mae wedi datblygu’r busnesau gan ddefnyddio cefnogaeth gan Busnes Cyymru, Awdurdodau Lleol ac NDNA Cymru.

Mae Sarah wedi cael y diweddariadau rheolaidd gan NDNA Cymru yn ddefnyddiol iawn, yn arbennig felly gwybodaeth am Fenthyciadau Busnes a Grantiau Busnes sydd wedi ei galluogi i gadw ei meithrinfeydd yn agored drwy gyfnod anodd.  Yn 2020 ymgeisiodd am arian drwy gyllid Grantiau Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant Rhoddwyd y grant er mwyn gwella y lle chwarae allan ym Meithrinfa Mother Goose drwy gwbhau gwaith hanfodol ar y draeniau a gwaith tirlunio er mwyn ei wneud yn fwy addas i blant.  Roedd angen cwblhau llawer o waith papur gan gynnwys cynllun busnes cyfredol a rhagolygon cyllid. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth NDNA Cymru gallodd Sarah gwblhau’r broses a derbyniodd yr arian y ceisiodd amdano. 

Gwnaethpwyd cais am grant pellach i gyflenwi adnoddau naturiol newydd ar gyfer yr ardal y tu allan. Wrth i Covid 19 gydio, cyngor Llywodraeth Cymru oedd i blant dreulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr iach ac fe wnaethant estyn cyllid y Grantiau Cyfalaf Bach ar gyfer adnoddau a fyddai’n gwneud meithrinfeydd yn fwy diogel yn y pandemig. Rhannwyd y wybodaeth hon gan NDNA Cymru trwy eu rhwydweithiau a gwnaeth Sarah gais llwyddiannus am gyllid pellach ar gyfer canopi a olygai y gallai plant gael mynediad i'r ardal awyr agored ym mhob tywydd.

Mae'r newidiadau a'r gwelliannau i'r gofod awyr agored ym Meithrinfa Mother Goose wedi dod â buddion enfawr i'r busnes. Mae'r feithrinfa wedi gallu denu mwy o blant tair oed o dan y Cynnig Gofal Plant ac mae'r plant sy'n mynychu'r feithrinfa wedi elwa o'r gofod awyr agored gwych lle gallant chwarae.

Mae Sarah yn cydnabod yr help a'r gefnogaeth a gafwyd trwy fod yn aelod o NDNA. Yn ogystal â'r hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael ar eu gwefan www.ndna.org.uk roedd y wybodaeth a'r cyngor a dderbyniodd yn rheolaidd yn sicrhau ei bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd pan ddaethant ar gael. Teimlai Sarah bod cefnogaeth y tîm yn NDNA Cymru wedi ei galluogi i wneud y penderfyniadau busnes cywir ar gyfer ei meithrinfeydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.