BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cymorth i Dendro - Gweithdai

Gweithdai i ddeall beth mae prynwyr yn chwilio amdano mewn cyflenwr a datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth i dendro'n llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus neu breifat.

Mae cyfres o weithdai yn cael eu cynnal a fydd o ddiddordeb i fusnesau sy'n edrych i gychwyn neu gwella’r ffordd y maent yn cyflwyno tendr am gontract. 

Os byddwch yn edrych am well dealltwriaeth o’r hyn mae prynwyr yn edrych amdano mewn cyflenwr, neu angen help a chymorth i ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth i dendro'n llwyddianus am gontractau sector breifat neu gyhoeddus.

Mae'r gweithdai yn canolbwyntio ar elfenau sylfaenol y broses gaffael o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i ysgrifennu cais llwyddianus, yn ogystal a dangos sut i chwilio am gyfleoedd addas ar wefan GwerthwchiGymru a safleoedd eraill.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.