BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Busnes Cymru

Ym mis Hydref 2022 comisiynwyd Race Equality First (REF) gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. 

Mae datblygu'r Cynllun hwn yn un o’r camau gweithredu yn adran Entrepreneuriaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru . Y canlyniad y disgwylir ei weld yn sgil datblygu a gweithredu'r Cynllun hwn yw gwasanaeth Busnes Cymru sy'n ymwybodol o sut mae hiliaeth yn creu anghysondebau, sy’n ddiwylliannol hyderus ac sy’n sicrhau bod mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig yn defnyddio'r gwasanaeth.

Ers 2016, o blith y 5,869 o gleientiaid sydd wedi cael cymorth gan Busnes Cymru i ddechrau busnes, mae 405 (7%) yn ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol .  

Mae Busnes Cymru wedi rhoi cymorth yn uniongyrchol i fwy na 13,062 o berchenogion busnes yn uniongyrchol ers 2016 er mwyn helpu eu busnesau i ddatblygu a thyfu. O blith y rhain, mae 578 (4.4%) yn ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol .  

Mae dadansoddiad o hunangyflogaeth yn ôl ethnigrwydd sy’n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn dangos mai dim ond 4.4% o bobl hunangyflogedig yng Nghymru oedd yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol .  

Bydd y Cynllun hwn yn dangos sut y gall Busnes Cymru ddod yn sefydliad gwrth-hiliol a hyderus yn ddiwylliannol.


Methodoleg a Monitro’r Cynllun:

Roedd y fethodoleg ar gyfer Cynllun Gweithredu Busnes Cymru yn cynnwys adolygiad o'r gwasanaeth gan Race Equality First, a oedd yn cynnwys gwefan Busnes Cymru a dogfennau sy'n cael eu defnyddio i reoli a darparu’r gwasanaeth y mae Busnes Cymru wedi’i gontractio i’w ddarparu.

Bydd y camau gweithredu yn y cynllun hwn yn cael eu monitro a bydd adroddiad yn cael ei roi arnynt bob chwarter. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu bwydo i mewn i gyfarfodydd adolygu rheoli contractau a chyfarfodydd adolygu Uwch-reolwyr Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru.

Datganiad Busnes Cymru ynglŷn â Bod yn Wrth-hiliol:

Mae Busnes Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol. Byddwn yn cymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod ein sefydliad yn rhydd o hiliaeth systemig. 

Mae ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn nodi sut y byddwn yn creu amgylchedd gwaith lle nad yw ein staff a'n cwsmeriaid o bob cefndir yn profi rhagfarn, gwahaniaethu nac ymyleiddio. Mae hyn yn cynnwys:

  1. Sicrhau bod holl aelodau'r uwch dîm arwain yn ymgymryd â hyfforddiant gorfodol ar hiliaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol er mwyn cael eu haddysgu a dod yn ymwybodol o'u rhagfarn ddiarwybod eu hunain a sut i fynd ati i’w harchwilio.
  2. Penodi arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy'n adrodd yn uniongyrchol i fwrdd ac uwch dîm arwain Llywodraeth Cymru sydd â'r dasg o ddatblygu ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a’i roi ar waith. 
  3. Sicrhau bod diweddariadau ar hynt ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol yn parhau i fod yn eitem sefydlog ar agenda’r bwrdd.
  4. Gwella’r broses a ddefnyddiwn i gasglu data er mwyn deall yn well pwy sy'n defnyddio ein gwasanaethau fel y gallwn ddileu unrhyw rwystrau i gael mynediad at ein gwasanaethau a'u haddasu ar gyfer cymunedau du ac ethnig lleiafrifol. 
  5. Casglu a dadansoddi data ar ethnigrwydd ein gweithlu fel y gallwn gynllunio a mesur ein cynnydd yn erbyn gweithgareddau seiliedig ar dystiolaeth ar gynrychiolaeth amrywiol. 
  6. Sicrhau bod rolau yn cael eu hysbysebu mewn ffordd dryloyw ac agored, gyda phaneli amrywiol o ran hil yn cymryd rhan drwy gydol y broses recriwtio a dethol. 
  7. Penodi hyrwyddwr cydraddoldeb arweiniol ar gyfer hil o fewn y gwasanaeth y mae Busnes Cymru yn ei ddarparu o dan gontract, sy'n cael ei ddwyn i gyfrif am ddatblygu a gweithredu ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol. 
  8. Sicrhau bod digon o arian ar gael ar gyfer cyfieithwyr, dehonglwyr a dulliau cyfathrebu amgen.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.