Cafodd gwefan Cofrestr Rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru ei datgomisiynu ar 26 Chwefror 2025.
Beth oedd y Gofrestr Rhanddeiliaid?
Cafodd y Gofrestr Rhanddeiliaid ei chreu i hwyluso ymwneud y cyhoedd â Llywodraeth Cymru ynghylch polisïau a gwasanaethau sy'n bwysig i unigolion, busnesau, a gweithwyr y sector cyhoeddus. Trwy ymuno â'r Gofrestr Rhanddeiliaid, câi defnyddwyr ddiweddariadau wedi'u teilwra a gallent gymryd rhan mewn ymgyngoriadau ar sail eu diddordebau penodol.
Pam y Cafodd y Gofrestr Rhanddeiliaid ei Datgomisiynu?
Yn dilyn adolygiad manwl, penderfynodd Llywodraeth Cymru nad oedd y Gofrestr Rhanddeiliaid yn cyflawni’r lefel o ymwneud â'r cyhoedd a fwriadwyd ar ei chyfer. Dangosodd dadansoddiad nad oedd defnyddwyr yn cael yr wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt mor effeithiol â'r disgwyl. Er mwyn dyrannu adnoddau'n well a sicrhau cyfathrebu mwy effeithiol, penderfynwyd dod â’r gwasanaeth i ben. Trwy ddatgomisiynu'r safle, ein nod yw canolbwyntio ein hymdrechion ar ddarparu cyfathrebu mwy effeithiol trwy gyfryngau eraill. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ymgyngoriadau busnes ar Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU