BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diffiniadau o sectorau

At ddibenion y cynllun hwn, bwriedir i eiddo manwerthu fel siopau, bwytai, caffis a lleoedd yfed olygu’r canlynol (yn amodol ar feini prawf eraill yn y canllaw hwn).

Hereditamentau sy’n cael eu defnyddio i werthu nwyddau i aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw

  • Siopau (fel gwerthwyr blodau, pobyddion, cigyddion, groseriaid, gwerthwyr llysiau, gemyddion, gwerthwyr nwyddau swyddfa, siopau diodydd trwyddedig, siopau papurau newydd, siopau nwyddau haearn, archfarchnadoedd, ac ati)
  • Siopau elusen
  • Optegwyr
  • Fferyllfeydd
  • Swyddfeydd post
  • Siopau dodrefn neu ystafelloedd arddangos (fel siopau carpedi, ffenestri dwbl, drysau garej)
  • Ystafelloedd arddangos ceir neu garafannau
  • Safleoedd gwerthu ceir ail law
  • Marchnadoedd
  • Gorsafoedd petrol
  • Canolfannau garddio
  • Orielau celf (lle mae modd prynu neu logi gwaith celf)

Hereditamentau sy’n cael eu defnyddio i ddarparu’r gwasanaethau canlynol i aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw

  • Gwasanaethau trin gwallt a harddwch
  • Trwsio esgidiau neu dorri allweddi
  • Asiantaethau teithio
  • Swyddfeydd tocynnau (e.e. ar gyfer theatr)
  • Gwasanaethau sychlanhau
  • Golchdai
  • Trwsio cyfrifiaduron, setiau teledu neu gyfarpar domestig
  • Trefnwyr angladdau
  • Prosesu lluniau
  • Llogi DVD neu fideo
  • Llogi offer
  • Llogi ceir
  • Asiantaethau gwerthu a gosod eiddo

Hereditamentau sy’n cael eu defnyddio i werthu bwyd a / neu ddiod i aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw

  • Bwytai
  • Bwytai archebu o’r car
  • Siopau tecawê
  • Siopau brechdanau
  • Caffis
  • Siopau coffi
  • Tafarnau
  • Bariau neu Fariau Gwin

Hereditamentau sy’n cael eu defnyddio i ddarparu chwaraeon, hamdden a chyfleusterau i aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw (gan gynnwys i wylio gweithgareddau o’r fath) ac i ymgynnull aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw

  • Meysydd a chlybiau chwaraeon
  • Cyfleusterau chwaraeon a hamdden
  • Campfeydd
  • Atyniadau i dwristiaid
  • Amgueddfeydd ac orielau celf
  • Plastai a thai hanesyddol
  • Theatrau
  • Lleoliadau cerddoriaeth fyw
  • Sinemâu
  • Clybiau nos

Hereditamentau sy’n cael eu defnyddio i ymgynnull aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw

  • Neuaddau cyhoeddus
  • Tai clybiau, clybiau a sefydliadau

Rydym yn ystyried bod gwestai, eiddo llety a phreswyl, a llety hunanarlwyo yn golygu’r canlynol.

Hereditamentau lle mae’r rhan annomestig yn cael ei defnyddio i ddarparu llety preswyl fel busnes

  • Gwestai, Tai Llety a Thai Preswyl
  • Cartrefi gwyliau
  • Parciau a safleoedd carafannau

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.