BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Effaith sancsiynau Rwsiaidd y DU ar fusnesau

Ar 24 Chwefror 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn newydd o sancsiynau ar Rwsia, mae’r manylion yn llawn yma: Foreign Secretary imposes UK’s most punishing sanctions to inflict maximum and lasting pain on Russia - GOV.UK (www.gov.uk)

Y DU yn cyhoeddi sancsiynau economaidd newydd yn erbyn Rwsia

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwaharddiad ar allforio nwyddau moethus o ansawdd i Rwsia, tra hefyd yn rhoi thariffau mewnforio newydd ar gannoedd o gynhyrchion allweddol, am ragor o wybodaeth, ewch i: UK announces new economic sanctions against Russia - GOV.UK (www.gov.uk)

Y DU yn torri'r cymorth cyllid allforio i Rwsia a Belarws

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd bellach yn cyhoeddi unrhyw warantau, benthyciadau ac yswiriant newydd ar gyfer allforion i Rwsia a Belarws, am ragor o wybodaeth ewch i: UK cuts off export finance support to Russia and Belarus - GOV.UK (www.gov.uk)

Yr Ysgrifennydd Tramor yn cyhoeddi cyfres hanesyddol o sancsiynau ar Rwsia

Yr Ysgrifennydd Tramor Liz Truss yn cyhoeddi dros 370 yn fwy o sancsiynau ar Rwsia a Belarws heddiw (dydd Mawrth 15 Mawrth), sy'n golygu erbyn diwedd heddiw y bydd y DU wedi dynodi dros 1,000 o unigolion ac endidau o dan y gyfundrefn sancsiynau ar Rwsia ers yr ymosodiad. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Foreign Secretary announces historic round of sanctions on Russia - GOV.UK (www.gov.uk)

Y DU yn cyhoeddi sancsiynau mewnforio pellach yn erbyn Rwsia 

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd sancsiynau masnach pellach yn erbyn Rwsia – gan ehangu'r rhestr o gynhyrchion sy'n wynebu gwaharddiadau mewnforio a chynyddu tariffau. Bydd y sancsiynau newydd – a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 21 Ebrill) gan yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Anne-Marie Trevelyan, a Changhellor y Trysorlys, Rishi Sunak – yn cynnwys gwaharddiadau mewnforio ar arian, cynhyrchion pren a chynhyrchion drud o Rwsia gan gynnwys caviar. Mae rhestr lawn o’r cynhyrchion a dargedir ar gael ar-lein.

Y DU yn cyhoeddi mesurau masnach newydd i gefnogi'r Wcráin

Mae'r DU wedi cyhoeddi mesurau newydd i gefnogi'r Wcráin yn ei gwrthdaro â Rwsia drwy ddileu'r holl dariffau a gwmpesir gan fargen fasnach bresennol y DU-Wcráin. I gael mwy o wybodaeth, ewch i UK announces new trade measures to support Ukraine - GOV.UK (www.gov.uk)

Y DU yn cosbi Putin gyda rownd newydd o sancsiynau ar £1.7 biliwn o nwyddau 

Heddiw (8 Mai 2022), mae'r DU yn cyhoeddi pecyn newydd o sancsiynau ar Rwsia a Belarws sy'n targedu gwerth £1.7 biliwn o fasnach. Mae'r sancsiynau a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol a Changhellor y Trysorlys yn cynnwys tariffau mewnforio a gwaharddiadau allforio. 

Bydd y tariffau mewnforio newydd yn cwmpasu gwerth £1.4 biliwn o nwyddau – gan gynnwys platinwm a phaladiwm. I gael mwy o wybodaeth ewch i UK punishes Putin with new round of sanctions on £1.7 billion of goods - GOV.UK (www.gov.uk)

Ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin: ymateb llywodraeth y DU 

Mae'r DU a phartneriaid rhyngwladol yn unfryd o ran eu cefnogaeth i'r Wcráin. Mae llywodraeth y DU yn darparu ystod o gymorth economaidd, dyngarol a milwrol amddiffynnol i'r Wcráin, ac mae'n gosod sancsiynau ychwanegol ar Rwsia a Belarws. 

Darganfyddwch: 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Russian invasion of Ukraine: UK government response - GOV.UK (www.gov.uk)

 

 


Mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich gweithgareddau busnes yn cydymffurfio â’r sancsiynau cyfredol yn erbyn Rwsia ac yn gofyn am gyngor cyfreithiol os oes angen. Daliwch i edrych ar dudalennau canllawiau Llywodraeth y DU a restrir isod i ddeall yr effaith bosibl ar eich busnes a’r camau gweithredu y bydd rhaid i chi eu cymryd o bosibl.

Os ydych yn bwriadu masnachu â Rwsia dylech wirio a yw’ch cynnyrch ar y rhestr o allforion sydd wedi’u gwahardd, sydd i’w gweld yn nogfen ganllawiau Sancsiynau Rwsia: Russia sanctions: guidance - GOV.UK (www.gov.uk)
 
Mae nwyddau defnydd deuol wedi’u hatal. Gallwch asesu’ch cynhyrchion i weld a ydynt wedi’u rheoli ai peidio ac a ydynt yn destun yr ataliad hwn yn: Export controls: dual-use items, software and technology, goods for torture and radioactive sources - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae cymorth consylaidd ar gael i wladolion Prydeinig yn Wcráin a Rwsia: 

Gallwch weld hysbysiadau diweddaraf y llywodraeth ar fesurau rheoli allforion drwy gofrestru ar gyfer gwasanaeth e-hysbysu’r Export Control Joint Unit.

Dylech edrych ar y dolenni isod hefyd, sy’n cyfeirio at sancsiynau ariannol 2019 a’r rhai diweddaraf eleni yn ymwneud â Rwsia.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o gyfyngiadau, oedi a chynnydd sydyn mewn costau (megis gyda thariffau mewnforio) os ydych yn mewnforio nwyddau o Rwsia.


Sancsiynau yn gysylltiedig â Wcráin ar Rwsia/Belarws

Llinell Gymorth Ymholiadau Busnes

Ar gyfer cwestiynau am effaith sancsiynau ar fusnesau'r DU sy'n gweithredu mewn unrhyw sector, neu weithrediadau busnes yn Wcráin neu Rwsia, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth Allforio sy'n darparu gwasanaeth cymorth sancsiynau ar Rwsia rheng flaen i bob busnes. 

Cyhoeddir canllawiau statudol pellach pan gaiff y ddeddfwriaeth berthnasol ei gosod. 

Tîm cymorth allforio 

Ffôn: 0300 303 8955 

Ffôn testun: 18001 303 8955 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm.


Os ydych yn pryderu am effaith y sancsiynau yn erbyn cwmnïau Rwsiaidd ar eich cadwyn gyflenwi chi cysylltwch â Busnes Cymru i siarad â chynghorydd busnes ar 03000 6 03000 neu Cysylltwch â ni | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.