BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Academia Musicale

Piano

Cerddor o Abertawe yn lansio llwyfan dysgu ar-lein newydd sbon i helpu darpar fyfyrwyr gyda'u gwybodaeth am Gerddoriaeth. 

Yn gerddor a chyfansoddwr profiadol, cyflwynwyd cyfle i Lisa Mears ddefnyddio ei phrofiad a'i gwybodaeth a lansio ei busnes ei hun. Gyda chymorth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, roedd yn gallu dechrau Academia Musicale – llwyfan dysgu ar-lein, yn helpu myfyrwyr a cherddorion i gael gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o gerddoriaeth.

  • Cyngor cychwyn busnes ar gynllunio busnes, llif arian a marchnata.
  • Wedi llwyddo i ddechrau a chreu 1 swydd.
  • Ymrwymiad i Addewidion Cydraddoldeb a Thwf Gwyrdd Busnes Cymru.

Cyflwyniad i fusnes

Wedi'i sefydlu gan Lisa Mears yn Abertawe, mae Academia Musicale yn llwyfan dysgu ar-lein sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr a cherddorion uchelgeisiol, sy'n ceisio cael mwy o wybodaeth a chyd-destun ehangach o gerddoriaeth.

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Ers 2005, rwyf wedi gweithio fel cerddor, yn bennaf fel cyfansoddwr, perfformiwr / cyfeilydd ac addysgwr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd gennyf hefyd ychydig o syniadau busnes yr oeddwn am fynd ar eu trywydd ochr yn ochr â chynnal fy ngwaith llawrydd, ac un ohonynt oedd Academia Musicale.

Yn 2018, cysylltodd ychydig o fyfyrwyr gyda mi, yn gofyn a allwn eu helpu gyda hyfforddi ar gyfer TGAU Cerddoriaeth. Dyfeisiais 'becyn astudio' ar eu cyfer yn gyflym yn seiliedig ar yr holl ofynion sydd eu hangen gan gynnwys cyfansoddi, dadansoddi, hanes, theori, sgiliau clywedol a pherfformio. Wrth weithio gyda'r myfyrwyr hyn, sylweddolais y gallai myfyrwyr Cerddoriaeth yn unrhyw le elwa gan y gellid ei gyflwyno'n hawdd fel cwrs ar-lein, ac felly, helpu mwy o fyfyrwyr i ennill graddau uwch a theimlo'n fwy hyderus am ran academaidd eu hastudiaethau cerddorol.

Gan ddefnyddio'r pecyn astudio yr oeddwn wedi'i ddyfeisio fel man cychwyn, datblygais gwrs ar-lein mewn Cerddoriaeth Gyffredinol a Hanes Cerddoriaeth er budd myfyrwyr Cerddoriaeth TGAU a Safon Uwch drwy roi cyd-destun eang o'r pwnc iddynt, a fyddai'n helpu i lenwi unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth. Wrth weithio ar ddatblygu'r cwrs, mynychais sawl gweithdy yn ystod 2018 a 2019 gyda Busnes Cymru, a oedd yn amhrisiadwy ac yn fy addysgu ar sut i ddechrau fy musnes fy hun.

Wrth ystyried gwahanol opsiynau, awgrymodd fy ymgynghorydd Busnes Cymru, Eve Goldsbury, imi gysylltu â Jonny Shipman o Invincible Media i ddatblygu'r wefan. Dewisais yr enw Academia Musicale, dyluniais logo, a rhoi briff cychwynnol i Jonny a'i dîm o'r math o safle oedd gennyf mewn golwg, gan ei adael iddynt ei greu. Roedd y wefan orffenedig yn ardderchog ac yn rhagori ar fy nisgwyliadau. Fe'm cynorthwywyd gan Invincible Media i ddod o hyd i lwyfan i gynnal y cyrsiau y gellid eu cyfuno i'r wefan - roedd hyn yn help mawr oherwydd, nid yn unig yr oedd yr ochr dechnoleg i gyd yn newydd i mi, arbedodd lawer o amser ychwanegol ar ymchwilio i wahanol ddarparwyr cyrsiau. Mae Invincible Media yn parhau i ymdrin â datblygu'r wefan, cynnal cyrsiau a’r ochr dechnegol gan adael i mi ganolbwyntio ar y cynnwys creadigol a datblygu'r busnes.

Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu?

Yr her fwyaf i mi oedd gallu rhoi cymaint o amser ag y byddwn wedi hoffi i gamau cynllunio ymchwil, datblygu ac ysgrifennu cyrsiau. Cymerodd y busnes yn hirach i'w sefydlu nag yr oeddwn wedi gobeithio i ddechrau, oherwydd bod gennyf amserlen brysur i'w chynnal gyda fy ngwaith arferol mewn Cerddoriaeth. O ganlyniad, roedd gwaith ar y syniad busnes, ers peth amser, yn ddull tameidiog braidd. Roedd cydbwyso popeth yn dipyn o her ond ar ôl i'r safle gael ei lansio'n llawn, dechreuodd bopeth ddod at ei gilydd fesul tipyn.

Her arall oedd, yn union fel yr oeddwn yn paratoi i ddechrau hysbysebu gyda gwyliau cerddoriaeth gystadleuol ac ieuenctid ledled y DU, dechreuodd y pandemig, felly cafodd yr holl wyliau a digwyddiadau eu canslo ac maent bellach yn annhebygol o ailddechrau tan 2022. Yn hytrach, bu'n rhaid i mi ailystyried fy strategaeth farchnata i ganolbwyntio mwy ar gyfleoedd digidol a chyfryngau cymdeithasol amgen, sydd wedi bod yn brofiad dysgu sylweddol gan fy mod yn newydd i'r cyfryngau cymdeithasol.

Cymorth Busnes Cymru

Cefnogodd Busnes Cymru Lisa i ddatblygu ei syniad busnes a llunio cynllun busnes. Helpodd ei chynghorydd Eve gydag ystod eang o faterion cychwynnol, gan gynnwys llif arian, IP, polisi prisio a marchnata.

Ymunodd Lisa hefyd ag Addunedau Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru ac mae wedi ymrwymo i:

  • Ddarparu gwasanaeth hygyrch a chynhwysol.
  • Ystyried a dileu rhwystrau corfforol a chymdeithasol i gwsmeriaid.
  • Sicrhau llesiant staff a'r gymuned leol.
  • Sicrhau bod y busnes yn gymdeithasol gyfrifol.
  • Cymryd camau i fesur a rheoli effeithiau amgylcheddol y busnes.
  • Hyrwyddo arfer da Academia Musicale.

Canlyniadau 

  • Cyngor cychwyn busnes ar gynllunio busnes, llif arian a marchnata.
  • Wedi llwyddo i ddechrau a chreu 1 swydd.
  • Ymrwymiad i Addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru.

Mae Eve Goldsbury wedi bod yn gynghorydd busnes gwych ac ers ein cyfarfod cychwynnol mewn gweithdy yn 2018, rwyf wedi mwynhau gweithio gyda hi yn fawr. P'un a yw yn ystod gweithdy neu mewn cyfarfod, mae Eve bob amser yno i roi digon o gefnogaeth a chyngor ac mae bob amser yn barod i fynd un cam ymhellach. Edrychaf ymlaen yn fawr at ein cyfarfodydd ac mae gan Eve gymaint o syniadau rhagorol yn gyson ac mae'n dod â safbwynt newydd, y mae mawr ei angen pan fyddwch yn gweithio ar eich busnes eich hun. Rwyf bob amser yn gadael ein cyfarfodydd yn teimlo'n frwdfrydig, yn ysbrydoledig ac wedi fy hail-gymell yn barod i weithio ar y tasgau nesaf!

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Mae rhai o'm cynlluniau yn cynnwys:

  • Ehangu allgymorth Academia Musicale.
  • Datblygu cyrsiau pellach darpariaeth newydd o sesiynau hyfforddi pwrpasol wedi'u teilwra i'r unigolyn a fydd yn cael ei gyflwyno ar-lein.
  • Nodweddion newydd gan gynnwys cyfweliadau â cherddorion sy'n gallu rhannu eu harbenigedd a'u profiadau i fyfyrwyr cerddoriaeth.

Os ydych chi eisiau darllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru / @_businesswales ar Twitter. 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.