Mae’r wybodaeth a’r cymorth a gawsom gan Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy. Mae gweithio gyda Morgan wirioneddol wedi helpu i ddangos i ni sut y gallwn wella ein proses Recriwtio a bod yn fwy hygyrch. Trwy wneud newidiadau syml rydym eisoes wedi gweld y canlyniadau ac rydym yn gweithio’n galed i wneud Adventure Travel yn Gyflogwr dethol ac yn fusnes Cymreig cynhwysol ac amrywiol.
Cysylltodd Lauryn Tunnell o Adventure Travel, cwmni trafnidiaeth sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, â Busnes Cymru i ddarganfod pa gymorth oedd ar gael i helpu i adeiladu gweithle cynhwysol.
Cafodd Lauryn eglurhad gan Gynghorydd Cyflogaeth Pobl Anabl ynghylch y gwelliannau y gellid eu gwneud er mwyn cynyddu eu cyrhaeddiad i ddarpar ymgeiswyr, gan gynnwys polisi Niwroamrywiaeth, datganiadau amrywiaeth a Mynediad at Waith.
Gyda chymorth Busnes Cymru, mae Lauryn bellach wedi ymuno â’r Cynllun Hyderus o Ran Anabledd, gan sicrhau bod eu prosesau recriwtio yn gynhwysol, er enghraifft trwy gynnig addasiadau rhesymol ar geisiadau, ac maent bellach mewn sefyllfa i’w busnes ddod yn Gyflogwr dethol.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.