BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Angladdau Enfys Funerals Ltd

Ar ôl chwilio am flwyddyn gyfan am adeilad addas, ac wedi chwe mis o waith caled yn adnewyddu adeilad a oedd yn wag cyn hynny, rydym bellach wedi agor ein busnes ar Stryd Fawr Bangor, diolch i gefnogaeth y Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Trefi. Roedd ein cynghorydd busnes, Sonia, yn gefnogol ac yn galonogol drwy gydol y broses ymgeisio ac wedi hynny.

Mae Angladdau Enfys Funerals Ltd yn wasanaeth angladdau dwyieithog a ddarperir gan ddwy ferch, Manon a Louise, sy’n dilyn ffordd mwy hyblyg o drefnu angladdau: gan gynnwys gwneud angladdau’n fwy fforddiadwy.

Gofynnodd Manon am gymorth gan Busnes Cymru i ddechrau eu busnes. Gyda chymorth un i un gan eu cynghorydd, cawsant help i baratoi eu cais ar gyfer y Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Trefi, cawsant grant o £10,000 a oedd yn golygu eu bod yn gallu cynnal gwaith adnewyddu sylweddol ar eu hadeilad, ac fe wnaethant lwyddo i agor eu busnes.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.