Busnes animeiddio ar Ynys Môn yn tyfu’n gyflym gydag arweiniad gan wasanaeth Mentora Busnes Cymru.
Cyflwyniad i'r busnes
Wedi'i leoli ar Ynys Môn ac wedi'i sefydlu gan Anna a Tom Burke, cwmni animeiddio yw Animated Technologies, sy'n arbenigo mewn fideos esboniadol, fideos marchnata wedi'u hanimeiddio, fideos lansio cynnyrch, animeiddiadau technegol a fideos corfforaethol wedi'u hanimeiddio.
Mae'r busnes hefyd yn cynnig datblygu strategaeth, deunyddiau printiedig a datblygu gwefannau i ategu'r gwaith o gynhyrchu fideo.
Cymorth Busnes Cymru
Ar ôl penderfynu dod yn hunangyflogedig, cysylltodd Anna a Tom â Busnes Cymru i gael help i roi'r busnes ar waith. Cawsant fudd o arweiniad mentor busnes gwirfoddol, Peter Denton, sy'n eu helpu gyda datblygu busnes, gan ganiatáu i'r ddeuawd dyfu ac ehangu'r busnes.
Cawsom sgwrs gydag Anna i ddysgu mwy am ei thaith cychwyn busnes a’i phrofiad gyda gwasanaeth Mentora Busnes Cymru.
Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?
Nid oedd fy mhartner busnes na minnau’n hapus yn y swyddi yr oeddem ynddynt ac roeddem yn teimlo mai'r cam nesaf yn ein gyrfaoedd fyddai defnyddio'r profiad a oedd gennym i fod yn fós arnom ni’n hunain.
Pa heriau a wyneboch?
Yr heriau mwyaf yr ydym wedi'u hwynebu oedd llai o waith ac anhawster wrth gyrraedd ein marchnad darged.
Ble glywsoch chi am Busnes Cymru a'n gwasanaeth Mentora?
Rydym wedi gweithio gyda nifer o gynghorwyr yn Busnes Cymru ac roeddem wrthi'n chwilio am fentor i helpu i ddatblygu ein hunain ac, felly, y busnes. Ar ôl siarad â chydweithwyr, edrychais ar y mentora y mae Busnes Cymru yn ei gynnig.
Sut mae eich Mentor wedi eich helpu?
Rwyf wir yn argymell gwasanaeth mentora Busnes Cymru. Rydym yn dysgu rhywbeth newydd, sy'n ein helpu i ddatblygu, bob tro y byddwn yn cyfarfod â Peter.
Mae Peter wedi helpu ein dealltwriaeth o'r hyn y mae angen i fusnes ganolbwyntio arno a sut i weithio ar feysydd sylfaenol rhedeg eich busnes eich hun.
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Byddwn yn tyfu'r busnes ac yn ei adeiladu'n gwmni gwell. Rydym wir eisiau gwneud Animated Technologies yn lle gwych i weithio.
Mentora Busnes Cymru
Ar ôl hyfforddi gyda Price Waterhouse yng Nghaerlŷr o 1974 i 1978, gweithiodd Peter Denton mewn sawl rôl yng Nghaerwysg ac yn Exmouth yn Nyfnaint cyn symud i ogledd Cymru ym 1982 i weithio yn Neuadd Caer Rhun, Conwy, a darlithio mewn Cyfrifon a Threthiant.
Ar ôl ymddeol yn 2017, ar ôl rhedeg nifer o sefydliadau a gweithio mewn swyddi uwch ym meysydd Treth a Chyfrifyddiaeth, daeth Peter yn Fentor Busnes gwirfoddol, gan rannu ei brofiad helaeth o redeg busnes, cyfrifyddiaeth a datblygu busnes.
Dywedodd Peter: "Mae wedi bod yn dda iawn gallu mentora o dan ymbarél Busnes Cymru.
Mae'n rhoi strwythur i mi ei ddilyn wrth weithio gyda'r unigolion rwyf yn eu mentora. Rwyf wedi bod yn ffodus i allu mentora unigolion gwych. Mae'n wych bod mewn cysylltiad â phobl sy'n frwdfrydig am yr hyn maent yn ei wneud a'u gwylio'n datblygu eu syniadau."
Pan ofynnwyd iddo am y berthynas fentora gydag Anna a Tom, dywedodd Peter: "Mae wedi bod yn bleser cwrdd ag Anna a Tom yn rheolaidd. Maent yn dîm gwych ac mae eu busnes wedi datblygu cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae Anna, Tom ac Animated Technologies yn tyfu wrth iddynt gwrdd â phob her y mae eu datblygiad busnes yn ei thaflu atynt."
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.