Entrepreneur ffotograffiaeth yn goresgyn heriau personol a phroffesiynol i weddnewid ei busnes.
Roedd Roberta 'Bobbie' Lee o Ben-y-bont ar Ogwr yn gallu goresgyn sawl her bersonol a phroffesiynol i weddnewid ei busnes a dod yn ffotograffydd priodasau a theuluoedd llwyddiannus. Ers iddi ddod i gysylltiad â gwasanaeth Mentora Busnes Cymru sydd wedi ei ariannu'n llawn, mae hi wedi llwyddo i ragori ar ei tharged o archebion priodasau, gan dynnu lluniau mewn 31 priodas yn 2019, gyda 20 priodas wedi eu trefnu'n barod ar gyfer 2020 a 6 ar gyfer 2021/2022, a mwy ar y gweill.
Cyflwyniad i'r busnes
Mae Bobbie Lee yn ffotograffydd o Ben-y-bont ar Ogwr ac mae hi'n arbenigo mewn tynnu lluniau priodasau, teuluoedd, portreadau a babanod newydd-anedig yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr.
Mae Bobbie wedi bod yn frwd dros ffotograffiaeth ers iddi fod yn ifanc iawn, a dechreuodd dynnu lluniau o achlysuron, digwyddiadau corfforaethol a phriodasau ar gyfer ei theulu a'i ffrindiau.
Wedi iddi golli ei swydd, penderfynodd, o'r diwedd y byddai'n dilyn gyrfa lawn amser mewn ffotograffiaeth.
Beth aethoch chi ati i'w gyflawni yn eich busnes?
Fy nod oedd sefydlu fy hun fel ffotograffydd priodasau ac roeddwn eisiau cyrraedd y pwynt lle roeddwn yn tynnu lluniau o 24 i 30 o briodasau'r flwyddyn.
Pa heriau a wyneboch?
Pan ddechreuais i gyntaf, roedd yn anodd imi ddod o hyd i gleientiaid a sicrhau archebion. Roedd heriau eraill yn cynnwys deall fy nghostau a'r hyn y dylwn ei godi er mwyn ennill bywoliaeth, yn ogystal â deall a gosod systemau effeithiol o weithio ar fy mhen fy hun.
Pam wnaethoch chi fynd at wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru?
Es at Busnes Cymru yn dilyn diwrnod hyfforddiant gyda Ffotograffiaeth Andrew Miller oherwydd fy mod eisiau mentor busnes a fyddai'n deall fy niwydiant ac yn fy helpu i gyflawni fy nodau.
Canlyniadau
Adeg yma'r llynedd, roeddwn i newydd dynnu lluniau mewn priodas am y tro cyntaf, wedi egwyl o ddwy flynedd o achos beichiogrwydd risg uchel a oedd wedi arwain at gymhlethdodau tymor hir. Nid oedd gen i unrhyw archebion ac roeddwn yn cael trafferth dod o hyd i unrhyw beth.
Roeddwn i wir eisiau gwireddu fy mreuddwyd o fod yn ffotograffydd priodasau proffesiynol. Roeddwn wedi bod yn ei wneud yn rhan-amser ers sawl blwyddyn ond yn ei weld yn anodd dechrau arni o ddifrif, felly penderfynais fuddsoddi mewn hyfforddiant busnes a ffotograffiaeth. Un o'r cyrsiau imi gofrestru arnynt oedd gyda Ffotograffiaeth Andrew Miller - cwrs hynod o dda lle dysgais rhai o hanfodion rhedeg busnes ffotograffiaeth priodasau. Yn dilyn hyn, cofrestrais i gael fy mentora gan Andrew am ddim drwy Busnes Cymru.
Gan gymryd yr hyn y mae Andrew wedi fy addysgu ynghyd â'r hyfforddiant arall rwyf wedi ei dderbyn, rwyf wedi gweddnewid fy musnes. Hyd yn hyn, rwyf wedi tynnu lluniau o 7 priodas gydag o leiaf 8 arall i ddod cyn diwedd y flwyddyn - 15 ar y cyfan, heb gynnwys priodasau lle rwyf wedi gweithio fel ail ffotograffydd. Mae gen i 12 priodas wedi eu trefnu ar gyfer 2020 yn barod, a hyd yn oed 2 ar gyfer 2021! Mae gen i gryn dipyn o waith i'w wneud o hyd cyn cyflawni fy amcanion, ond mae'r newid dros y 6 mis diwethaf wedi bod yn anhygoel.
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Yn y dyfodol, rwyf yn gobeithio cynyddu fy archebion i 30 priodas y flwyddyn, ac rwyf am weithio i wneud y busnes mor effeithlon a phroffidiol ag y bo modd.