BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Busnes Cymru’n cynorthwyo twf newydd i gwmni tirweddu

Daniel Bristow co-founder of Studio Bristow Garden Design

Mae Studio Bristow, cwmni dylunio gerddi teuluol uchelgeisiol o Fethesda, wedi dangos bod busnesau bach yn gallu llewyrchu yn yr amgylcheddau mwyaf anodd hyd yn oed os yw’r cymorth cywir ar gael. 

Daniel a Sarah Bristow, sy’n ŵr a gwraig, yw perchnogion a gweithredwyr Studio Bristow sy’n arbenigo mewn prosiectau dylunio tirweddau creadigol i gwsmeriaid preifat a chyhoeddus.

Sefydlodd y pâr y busnes yn Llundain yn wreiddiol, cyn penderfynu symud i Gymru yn 2015. Er iddynt weld cynnydd yn nifer yr ymholiadau yn ystod cyfnod Covid pan oedd llawer o gwsmeriaid am adnewyddu eu hardaloedd awyr agored, roedd y Bristows yn awyddus i gyflawni mwy o’r prosiectau ymestynnol blaenllaw roedden nhw wedi eu mwynhau yn Llundain.

Un o brosiectau mwyaf nodedig y cwmni yw Bold Tendencies i sefydliad celfyddydol nid-er-elw ar doeau maes parcio aml-lawr Peckham yn ne Llundain.

Roedd Daniel yn teimlo bod llwyddiant y cwmni’n gwastatau, felly cysylltodd â Busnes Cymru i ofyn am arweiniad ar ffyrdd o ymestyn ffiniau’r busnes er mwyn denu cleientiaid newydd, trwy archwilio llwybrau marchnata newydd a recriwtio talent newydd a fyddai’n caniatáu i’r tîm i fynd ar drywydd prosiectau mwy blaenllaw.

Cynorthwyodd Ymgynghorydd AD Busnes Cymru, Lowri Dundee, y pâr gyda’r broses recriwtio trwy eu cynorthwyo i lunio disgrifiad swydd newydd, ac argymell y dulliau gorau o fynd ati i hysbysebu’r swydd. Sicrhaodd Lowri fod gan y pâr bolisi GDPR tryloyw hefyd, a’u bod yn ystyried safonau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb er mwyn gwneud y swydd yn agored i amrywiaeth eang o ymgeiswyr.

Dywedodd Daniel: “Ar ôl y llu o ymholiadau a ddaeth i mewn yn ystod y pandemig, roedd hi’n teimlo ein bod ni wedi dod yn rhy gysurus ac nad oeddem ni’n ein gwthio ein hunain i chwilio am gyfleoedd newydd nac ehangu ein capasiti ar gyfer gwaith a datblygu. Byddem ni’n dibynnu ar bobl yn lledu’r gair i ddod o hyd i gleientiaid newydd a diogelu gwaith, ond roeddem ni am symud ymlaen i’r cam nesaf.

“Roeddem ni am ehangu tîm Studio Bristow fel y gallai Sarah a fi ganolbwyntio’n fwy ar ein rôl fel cyfarwyddwyr. Ond roeddem ni’n awyddus i gadw’r tîm yn fach o hyd felly roedd hi’n bwysig ystyried yr ymgeiswyr gorau ar gyfer y swydd newydd yn unig.”

Roedd Daniel a Sarah wedi bod yn dylunio gerddi a thirweddau ar gyfer cleientiaid preifat a chomisiynau preifat yn ardal Llundain – gan asesu’r lle a pharatoi cynlluniau, cyn gweithio gyda thîm o benseiri, arbenigwyr a chontractwyr i greu mannau deniadol sy’n addas at anghenion y cleient.

Diolch i Busnes Cymru, symleiddiwyd prosesau recriwtio Studio Bristow – gan sicrhau bod yr ymgeiswyr gorau’n cael eu hystyried trwy gymharu eu nodweddion gwahanol. Trwy hyn, cyflogwyd David Caddick yn rheolwr stiwdio, sydd wedi caniatáu i’r ddau gyfarwyddwr ganolbwyntio ar feysydd eraill o’r busnes.

Meddai Lowri, “Roedd Studio Bristow yn barod i dyfu trwy recriwtio eu gweithiwr cyntaf, felly roeddwn i’n falch o’u cynghori nhw ar ffyrdd o wneud y broses recriwtio’n fwy strwythuredig fel eu bod nhw’n gallu cyrraedd yr ymgeiswyr mwyaf addas a allai ddatblygu o fewn y rôl a’u cynorthwyo nhw gyda phrosiectau newydd.”

Roedd Lowri’n teimlo hefyd y gallai cyfarwyddwyr Studio Bristow elwa ar fentora Busnes Cymru, a chyfeiriodd nhw ymlaen at y gwasanaeth. Cawsant eu paru â’r mentor, Tom Ellis, oedd yn hapus i rannu ei wybodaeth a rhannu ei brofiadau wrth ymgynghori a rheoli.

Wrth siarad am y broses mentora, dywedodd Daniel: “Dydw i ddim wedi cael hyfforddiant busnes proffesiynol, felly roeddwn i’n gwybod fod yna bethau y gallem eu gwneud i wella rhai o’n systemau. Roeddwn i’n arfer galw ar fy nhad am gyngor busnes, ond am ei fod wedi marw bellach, mae safbwynt Tim wedi bod yn werthfawr dros ben ac wedi caniatáu i ni fyfyrio ar ein gweithredoedd.”

Mae Studio Bristow yn parhau i gymryd cyngor gan Busnes Cymru i’w cynorthwyo i barhau i wella a chynllunio at y dyfodol. Mae Sarah a Dan yn gobeithio y bydd cymorth Busnes Cymru’n caniatáu iddyn nhw ehangu’r tîm ymhellach fel y gallant gymryd y blaen ar eu cystadleuwyr a chael eu hystyried ar gyfer prosiectau mwy blaenllaw.

I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd newydd yn y gadwyn gyflenwi, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch https://businesswales.gov.wales/cy 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.