BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Calon Lân Cakes

Calon Lân Cakes

Entrepreneur o Gaerdydd yn cael cymorth mentora i dyfu ei busnes pobi.

Penderfynodd Sarah Perkins ddechrau ei busnes hobi ei hun, yn pobi cacennau a bisgedi, a dyfodd yn fuan i fod yn ei galwedigaeth lawn amser. Mae Calon Lân Cakes bellach yn darparu cynnyrch teisennau Cri cartref ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, priodasau, cleientiaid corfforaethol ac unigol.

Cysylltodd Sarah â Busnes Cymru am gymorth i lansio cynnyrch newydd, ac ers hynny mae hi wedi datblygu perthynas lwyddiannus gyda mentor busnes gwirfoddol sy'n ei rhoi ar ben ffordd gyda thwf ei busnes yn y dyfodol.

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi ei lansio gan Sarah Perkins yn 2016, mae Calon Lân Cakes wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac yn cynnig teisennau Cri a Bara Brith ffrwythau wedi eu pobi'n ffres, gan ddefnyddio cynhwysion lleol pan fo'n bosib. Gan ddefnyddio dulliau pobi traddodiadol, mae Sarah yn cynhyrchu'r cynnyrch crefft cartref Cymreig gorau ar gyfer ei chwsmeriaid, yn ogystal ag arlwyo ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cynnwys priodasau a digwyddiadau corfforaethol.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Mae bwyd wedi hawlio lle arbennig yn fy nghalon erioed. Rwy'n dod o deulu mawr ac mae fy mam wedi mwynhau coginio erioed. Mae hi wedi dysgu fy mrodyr, chwiorydd a minnau i goginio o oedran ifanc, ac rwyf wedi gwneud hynny gyda fy merched - rydym i gyd yn mwynhau bod yn y gegin.

Ar ôl gweithio ym myd fforensig (olion bysedd) am 25 mlynedd, penderfynais gymryd ymddiswyddiad gwirfoddol, a mentro i ddechrau fy musnes fy hun - profiad cyffrous ond heriol tu hwnt!

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf i mi ei hwynebu wrth ddatblygu fy nghynnyrch newydd, pecynnau 'Gwneud eich Teisennau Cri eich Hun’, oedd ymgysylltu â chwmnïau mawr (e.e. cwmnïau pacio). Roedd eu gofynion archeb lleiaf mawr yn broblemus ar y dechrau ac roedd yn anodd eu cael i ymgysylltu â busnes micro. Roedd yn llawer haws delio â busnesau bach.

Cymorth Busnes Cymru

Ar ôl troi at Busnes Cymru am gymorth gyda'i chynnyrch newydd, manteisiodd Sarah ar gymorth cynghorol ac yna chafodd ei chyfeirio at fentor gyda phrofiad mewn cynhyrchu a dosbarthu bwyd. Cafodd Sarah ei pharu gyda Paul Phillips sydd wedi ei harwain drwy'r broses cynllunio ariannol a chynllunio busnes, gan ei helpu i sicrhau cyllid a chyflwyno ei phecynnau 'Gwneud eich Teisennau Cri eich Hun’ yn llwyddiannus.

Canlyniadau

"Mae'r cymorth rwyf wedi ei gael gan Fusnes Cymru wedi bod yn hynod werthfawr. Rwyf wedi bod i weithdai gyda Chyflymu Cymru i Fusnesau, sydd wedi fy helpu gyda fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol a'm gwefan. Roedd fy ymgynghorydd Busnes Cymru yn ddefnyddiol iawn hefyd, ac ef wnaeth fy nghyfeirio at y cynllun mentora.

"Mae'r help ac arweiniad rwyf wedi'u cael gan fy mentor Paul Phillips wedi bod yn amhrisiadwy. Mae Paul wedi fy helpu i ysgrifennu fy nghynllun busnes a rhagolygon llif arian a wnaeth fy helpu i sicrhau cyllid gan Cywain/Menter a Busnes i ail frandio fy mhecynnau teisennau Cri. Gan fod Paul yn meddu ar brofiad helaeth o fewn amrywiaeth feysydd busnes, mae ei wybodaeth a chyngor wedi fy arwain trwy'r broses - tybiaf na fyddwn wedi cyrraedd yma heb ei gymorth ef.

"Byddwn yn cynghori unrhyw un sy'n berchennog ar fusnes bach i gysylltu â Busnes Cymru a'r cynllun mentora yn benodol, cyn gynted â phosib."

Dywedodd Paul Phillips, mentor busnes gwirfoddol i Fusnes Cymru: "I rywun heb brofiad mewn gweithgynhyrchu a syniadau 'cadarn' ar y llwybr roedd hi eisiau ei ddilyn, roedd gweithio gyda Sarah yn bleser o'r mwyaf. Roedd hi'n barod i wrando ar syniadau adeiladol ac awgrymiadau ynghylch costau, elw, gweithio ar ragolygon ac adeiladu cynllun busnes sy'n arwain at lif arian realistig.

"Gwelais i hi'n tyfu mewn hyder wrth iddi ddatblygu ei syniadau a delio gyda thrydydd partïon i sicrhau bod ei chynnyrch yn cyrraedd y farchnad. Does gen i ddim amheuaeth y bydd Sarah yn parhau i dyfu o nerth i nerth gyda'r wybodaeth newydd mae hi wedi ennill a'r amryw o syniadau eraill sydd ganddi."

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae fy nghynlluniau yn hynod gyffrous! Rwy'n gobeithio dosbarthu fy mhecynnau teisennau Cri i fwy o siopau manwerthu, yn cynnwys llefydd Cymreig sydd o ddiddordeb a siopau, ymhlith eraill. Rydym eisoes yn dosbarthu ein cynnyrch i Amgueddfa Sain Ffagan a Chanolfan Treftadaeth y Byd, felly rwyf eisiau ehangu yn y maes hwn.

Rwyf hefyd yn gobeithio cyflwyno teisennau Cri moethus, newydd sbon, gyda blas ac ansawdd newydd - bydd 2020 yn flwyddyn brysur!

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.