BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Canolfan gymunedol sydd dros ganrif oed yn gosod ei golygon ar greu £1 miliwn o refeniw

Marine Bollard  and Jayesh Parmar, a relationship manager for Business Wales

Ar ôl gwasanaethu ei gymuned am dros 100 mlynedd, mae cymorth gan Busnes Cymru wedi helpu i adfywio Clwb Llafur Merthyr Tudful trwy ddiogelu gwerth miloedd o gyllid, ac mae golygon y clwb bellach ar wneud mwy nac £1 miliwn o refeniw yn 2024.

Cyn cysylltu â Busnes Cymru, roedd dyfodol y Clwb yn edrych yn ddigon llwm. Yn yr un modd â llawer o fusnesau lletygarwch, bu’r clwb dan fygythiad o orfod cau’n barhaol yn sgil cyfyngiadau’r cyfnod Covid, gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid, a chostau ynni’n treblu dros nos.

Ond doedd Ysgrifennydd y Clwb, Marnie Bollard, ddim am weld y Clwb yn mynd i’r wal â hi wrth y llyw, felly cysylltodd â Busnes Cymru i ofyn am gymorth i helpu i ddiogelu’r busnes a’i weithlu. Wrth i’r cyfyngiadau lacio wedyn, trodd ei golygon at adeiladu dyfodol mwy disglair ac uchelgeisiol.

Ym mis Ionawr 2023, gan weithio gyda rheolwr perthnasau Busnes Cymru, Jayesh Parmar, aeth Marnie a stiward y Clwb, Matthew Curtis, ati i lunio cynlluniau a fyddai’n datgloi gwerth miloedd o bunnoedd o gyllid yr oedd mawr angen amdano i anadlu bywyd newydd i’r adeilad hanesyddol, a chreu ffrydiau refeniw newydd yn y broses.

Caniataodd cymorth Busnes Cymru i’r Clwb greu a gweithredu Addunedau Cydraddoldeb a Thwf Gwyrdd. Bu’r gwaith yna, ynghyd â chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn asgwrn cefn i geisiadau llwyddiannus y Clwb i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Gyfalaf Cymru Greadigol ar gyfer Cerddoriaeth.

Gyda dros £55,000 o gyllid i’w ychwanegu at ei refeniw oedd yn cynyddu’n raddol, aeth y Clwb ati i gyflawni gwaith adfer sylweddol ar ei gyfleusterau, gan gynnwys ailwampio’r neuadd ddigwyddiadau a gosod systemau PA a goleuo newydd.

Bydd cynghorwyr datgarboneiddio Busnes Cymru’n defnyddio’r cyfrifiannell Twf Gwyrdd i helpu i leihau ôl troed carbon y busnes wrth edrych tua’r dyfodol hefyd, ac yn archwilio opsiynau i ategu costau ynni trwy fuddsoddi mewn meysydd eraill, fel paneli solar.  

Ar ôl gweithio gyda Chanolfan Menter Merthyr, MTEC, a chontractwyr lleol i gyflawni’r gwaith adnewyddu wrth gadw’r drysau’n agored i gwsmeriaid, mae’r Clwb wedi gallu denu sylfaen newydd o gwsmeriaid ffyddlon ac iau.

Wrth ddisgrifio’r newid chwyldroadol yn ffortiwn y Clwb, a’r rôl y mae Busnes Cymru wedi ei chwarae wrth gynorthwyo’r trawsnewidiad, dywedodd Marnie Bollard: “Cyn gweithio gyda Busnes Cymru, roedd dyfodol y Clwb yn ansicr dros ben. Newidiwyd y cyfan gan ein gallu i gyrchu cymorth gan amrywiaeth o gynghorwyr. Fe ddysgon ni’n gyflym y gallem gyflwyno achos busnes dilys i ddangos pam fod ein Clwb, ein cymuned, yn haeddu cefnogaeth a allai ein hachub ni gyda’r polisïau a’r gweithdrefnau cywir yn eu lle.

“Mae yna lawer o gamsyniadau am Glybiau fel ein un ni. Mae pobl yn meddwl ein bod ni ond yn gwasanaethu’r genhedlaeth hŷn, ein bod ni’n sownd yn y gorffennol. Mae’r gwirionedd yn wahanol iawn. Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod yr adeilad yma’n gwasanaethu cenedlaethau i ddod. Diolch i’r cymorth rydyn ni wedi ei gael a gwaith caled ein staff, rydyn ni eisoes yn denu cwsmeriaid newydd. Mae hi’n argoeli’n dda y bydd 2024 yn flwyddyn nodedig i ni, gyda’r cyfle i dorri’r trothwy o £1 miliwn mewn refeniw, ond dim ond y dechrau yw hyn yn ein barn ni.”

Nid yw’r cynlluniau ar gyfer twf y Clwb yn dangos unrhyw arwyddion o arafu wrth iddo gychwyn ei ail ganrif o fasnachu, am fod Marnie a’i thîm wrthi’n gweithio ar gynlluniau i ddenu bandiau a diddanwyr i’r Clwb, ei fasnachu fel lle i gynnal priodasau, ac ehangu ei weithlu a’i allu i hybu’r economi lleol.

Mae Busnes Cymru eisoes yn cynorthwyo’r Clwb i ehangu ei dîm. Mae ei gynghorwyr AD a’r porth sgiliau wedi helpu i ddatblygu cynlluniau ac agor y drws i hyfforddiant iechyd a diogelwch er mwyn uwchsgilio unigolion a chaniatáu iddynt ddychwelyd i gyflogaeth.

Dywedodd Jayesh Parmar, sy’n rheolwr perthnasau gyda Busnes Cymru: “O’r eiliad y cwrddais i â Marnie roeddwn i’n gwybod, gyda’r cymorth cywir, y byddai hi a’i thîm yn gweithio’n ddiflino i achub y busnes. Mae hi wedi bod yn broses gydweithredol go iawn, gyda llwyth o gynghorwyr Busnes Cymru’n cydweithio â’r Cyngor lleol a chontractwyr er mwyn cadw’r hyb cymunedol hanesyddol yma i fynd am genedlaethau i ddod.

“Mae’r trawsnewidiad yma’n profi y gall arbenigwyr cymorth busnes medrus helpu sefydliadau hyfyw i greu sylfaen cadarn ar gyfer twf, hyd yn oed mewn cyfnod o ansicrwydd mawr. Dylid dathlu eu penderfyniad, a gyda’r cynlluniau sydd ganddynt nawr, galla’i weld drysau’r Clwb yn aros ar agor am ganrif arall.”

I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd newydd yn y gadwyn gyflenwi, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i https://businesswales.gov.wales/cy 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.