BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ciwticwls

Ffion Mai Jones

Mentrwr harddwch o Ogledd Cymru yn dechrau nid un, ond dau o fusnesau yn ystod y pandemig Covid-19.

Cyflwyniad i’r busnes

Yn artist ewinedd a harddwch cymwys, penderfynodd Ffion Mai Jones o Dregarth, Gogledd Cymru, sefydlu ei salon harddwch ei hun, Ciwticwls, sy’n arbenigo mewn celf ewinedd, aeliau ac amrantau. Gyda llawer o amser sbâr oherwydd cyfyngiadau Covid-19, dechreuodd Ffion Mai fenter arall - Leibyls, gan ddarparu ystod o sticeri a labeli i fusnesau a chleientiaid unigol.

Cefnogaeth Busnes Cymru

Rhoddodd ymgynghorydd busnesau newydd Busnes Cymru, Gwawr Cordiner, ystod o gefnogaeth i Ffion Mai drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhoddodd Gwawr gyngor ar ystod o agweddau busnes newydd gan gynnwys ymchwil i’r farchnad, marchnata, cofrestru gyda CThEM, llif arian, prisio a phrosesu taliadau, dod o hyd i gyllid a chaniatâd cynllunio. O ganlyniad, llwyddodd Ffion Mai i lansio Ciwticwls a Leibyls yng nghanol pandemig y coronafeirws. 

Gwnaethom gwrdd â Ffion Mai i ddysgu beth wnaeth iddi ddechrau dau fusnes yn ystod y cyfnod clo::

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Dwi’n rhedeg fy musnes bach Ciwticwls o adref. Dwi hefyd yn athrawes ysgol gynradd a wedi bod ers dros ddeng mlynedd erbyn hyn. Dwi’n berson greadigol iawn a hynny ers oeddwn yn ddim o beth. Felly roedd penderfynnu newid mewn gyrfa yn hwyrach ddim yn sioc ru fawr i’n nheulu!

Mae gennyf angerdd mawr tuag at harddwch ac ewinedd! ‘Dwi bob amser yn gwisgo lliw ar fy ewinedd a wedi ers blynyddoedd lawer. Wrth fy modd yn paentio fy ngwinedd ynghyd a theulu a ffrindiau, yna, penderfynais fynd amdani a hyfforddi i allu gwneud ewinedd ‘go iawn’. Ni edrychais yn ôl.  Mynychais ysgol nos dros gyfnod o 12 wythnos, wrth fy modd!

Er fod hynny nawr dros 7 mlynedd yn ôl, ac erbyn hyn rwyf wedi mynd ail hyfforddi mewn llawer o feysydd o fewn y sector harddwch. Yn dilyn hynny ni wnes I weithredu oni bai am ei ddefnyddio fel diddordeb, rhywbeth oedd yn rhoi boddhad mawr I mi. Yna, bum mlynedd yn ôl mi es ymlaen i gael fy mab Gruff, fellu roedd y freuddwyd wedi taro brecs unwaith eto. Yna, tra roeddwn ar famolaeth gyda Gruff ddaeth y tân yn ôl, yr ymdeimlad o fod eisiau gallu gwneud enw i mi fy hun. Gallu cynnig gwasanaeth oedd yn rhoi darpariaeth i unigolyn allu gadael gan deimlo’n gret, ‘ like a million dollars’ medde nhw.

Dechreuais weithio yn symudol am gyfnod i weld os yr oedd hyn yn rhywbeth gallwn ei droi yn fusnes un diwrnod. Cyn i mi gael y cyfle o ddechrau gweithio o adref – roeddwn yn gwybod wedyn mai sefydlu busnes i fi fy hun oedd y ffordd ymlaen. Mi es ymlaen I drosi ystafell yn y tŷ.

Yn ystod cyfnod y clo #1 daeth hedyn o syniad i’m meddwl! Yn amlwg roedd y feirws wedi’n trechu a newid ein bywydau dros nos, roedd y poen meddwl o ble fyddai’r arian yn dod mewn yn dechrau blaguro. Roeddwn hefyd ychydig yn ofnus o feddwl cynnig gwasanaeth unwaith eto a hynny yn digwydd o fy nghartref. Bues yn ffodus iawn iawn i allu cynllunio a gweithredu trawsnewidiad i garej y tŷ sydd erbyn hyn yn salon llawn weithredol! Yn anffodus dim ond cwpl o fisoedd sydd wedi bod gyda Ciwticwls ar agor oherwydd y cyfnod clo.

Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu?

Mae Covid-19 yn rhywbeth mae pawb yn y byd wedi gweld yr effaith ohono a gyda hynny o fewn golwg o fewn y byd busnes mae wedi cynnig heriau ar y ffordd. Ond teimlaf fy mod yn ffodus iawn i allu fod yn rhedeg busnes o adref yn ystod amser fel hyn hefyd.

Wrth ddweud hynny, nid wy’n honni am un funud fod byw drwy cyfnodau clo Cofid-19 wedi bod yn beth hawdd i unrhyw un.  Roeddwn yn amlwg wedi cau Ciwticwls, doedd dim gwaith addysg ar gael (gan fy mod yn gweithio llanw). Yna cefais syniad newydd! Mewn busnes mae’n holl bwysig i ddeall a gweithredu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gwelais fy hun mewn sefyllfa ble and oeddwn yn gweithio o gwbl! 

Yn anffodus, fel busnes newydd, nid oeddwn yn gymwys ar gyfer unrhyw gyllid gan y Llywodraeth i helpu gydag effeithiau'r pandemig, sydd wedi ychwanegu at y straen a'r pwysau o gadw'r busnes i fynd.

Rwyf yn raddol wedi dechrau busnes newydd sef Leibyls – sy’n darparu sticeri a labeli o bob math ar gyfer busnesau bach, trefnu’r cartref. Mae Leibyls yn fenter newydd iawn ond oni bai am y cyfnodau clo, y feirws, treulio pêth amser adref ni fyddai Leibyls wedi dod i’r arwyneb! Felly mae’r amser yma wedi bod yn heriol iawn i ddweud y lleiaf, ond hefyd mae wedi cynnig ei hun fel amser i allu rhoi meddwl ar rywbeth newydd a’r gobaith yw y fyddai’n cael ei symud ymlaen i’r dyfodol ac yn fenter yma i aros.

Sut mae eich ymgynghorydd Busnes Cymru wedi’ch cefnogi chi ar eich taith? 

Rwyf wedi gweithio yn agos iawn gyda Gwawr ac wedi ers dechrau fy nhaith. Mae hi wedi fy  nhywys i fyd oedd yn anghyfarwydd iawn I mi, mae Gwawr wedi bod yno fel cefn mewn ffordd yn cynnig cymorth ag arweiniad,  sicrhau fy mod yn gweithredu gyda proffesiynoldeb drwy gydol yr amser a sicrhau fod lle i mi ddatblygu’n hun a’m musnes. Erbyn hyn dwi’n teimlo fod gennyf ffrind ynddi, bob amser yn barod i gynnig helpu ac mae rhannu syniadau gyda rhywyn sy’n gallu rhoi help i chi wireddu hynny yn werthfawr iawn. Rwyf yn dal i weithio gyda Gwawr, yn rithiol erbyn hyn oherwydd y cyfyngiadau yn amlwg ond edrychaf ymlaen i’r amser pawn gawn ddal fyny heb sgrin na zoom o’m blaenau unwaith eto yn y dyfodol.

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol 

Mae gennyf gynlluniau ar gyfer y dyfodol i ddatblygu Ciwticwls fwy fwy, hoffwn fynd yn hyfforddwraig fel fy mod yn gallu mynd ati i gynnig cyrsiau o fewn y sector harddwch, gallu trawsnewid gweddill yr adeilad i fod yn ystafell ddosbarth ble caf gyfarfod a myfyrwyr a fyddai eisiau ffynnu yn yr un sector hefyd! 

Beth bynnag yw eich syniadau busnes, neu eich angerdd i fynd amdani gyda rhywbeth hollol newydd. Peidiwch ag oedi! Dwi’n falch iawn codais y ffon a cefais y cyfle i weithio gyda Gwawr, hebddi, yn syml iawn ni fuaswn wedi cael y hyder na’r gwybodaeth i fynd amdani yn y lle cyntaf! Os oes gennych syniad sy’n eich procio mae’n werth ei archwilio!

Os ydych chi eisiau darllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i gychwyn neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos  neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.