Cwmni glanhau wedi ei leoli yng Nghasnewydd, Cleany Queeny, yn dangos gwytnwch yn ystod pandemig Covid-19 drwy arallgyfeirio'n gyflym a chynnig gwasanaeth newydd.
Cyflwyniad i'r busnes
Sefydlwyd Cleany Queeny gan Marie Edwards, Cadeirydd, ym mis Mai 2019. Mae'r busnes yn darparu gwasanaethau glanhau domestig personol gyda sail cleient cynyddol ar gyfer glanhau preswyl, masnachol a safle.
Mewn llai na blwyddyn, mae Cleany Queeny wedi tyfu o fod yn gwmni â dau aelod o staff i 14, ac yn ceisio creu mwy o swyddi yn ystod y misoedd nesaf.
Pa heriau a wyneboch yn ystod argyfwng y Coronafeirws?
Mewn llai na blwyddyn ar ôl sefydlu'r cwmni, bu i Covid-19 daro ein rhan ni o'r byd. Gyda'r rheolau newydd yn gorfodi pobl i aros yn eu cartrefi a phellhau'n gymdeithasol, roeddwn yn poeni am iechyd a diogelwch fy nheulu yn ogystal â'r effaith fyddai'n ei gael ar ddyfodol Cleany Queeny, a'r staff.
Roedd yr wythnos gyntaf yn bryderus tu iawn - nid oedd gennym lawer o wybodaeth am beth oedd yn digwydd. Roedd ein cwsmeriaid rheolaidd yn canslo, roedd glanhawyr yn hunanynysu, ac roedd cau meithrinfeydd ac ysgolion yn achosi problemau gofal plant i nifer o staff Cleany Queeny. Bu i Cheryl, ein Rheolwr Swyddfa, a minnau dreulio'r wythnos gyntaf yn siarad â chwsmeriaid ac yn delio gydag ymholiadau ynghylch Covid-19. Erbyn diwedd yr wythnos, penderfynais roi stop ar ein holl waith glanhau rheolaidd i ddiogelu fy nheulu, fy staff â'r cyhoedd. Roedd meddwl na fyddai'r busnes yn goroesi yn anodd, ond roedd yn rhaid i mi roi cynnig arni - nid er mwyn fy nheulu yn unig, ond er mwyn fy ngweithwyr a'u teuluoedd nhw. Dyna sydd wedi fy ngyrru ymlaen yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Fy her gyntaf oedd materion staffio. Roedd peth gwaith glanhau yn parhau i rai gweithwyr allweddol a'r llefydd oedd yn cael eu defnyddio ganddynt. Mae gennym nifer o gontractau gyda meithrinfeydd a swyddfeydd, a oedd ar agor o hyd. I barhau â'r gwaith glanhau, roedd rhaid i mi siarad â staff yn unigol, ond roedd nifer yn profi problemau gofal plant, angen hunanynysu neu yn ofni'r anhysbys. Er nad oeddwn angen 3 glanhawr, ac er bod Cleany Queeny yn derbyn llai na 3 cyflog wedi'u cyfuno yn ystod wythnosau cyntaf y feirws, roeddwn yn gobeithio cadw ychydig o lanhawyr i weithio eu horiau cytundebol, phryd bynnag roedd eu hangen, os oedd eu hangen. Cytunodd Sam a Natasha i barhau i weithio, ac rwy'n ddiolchgar tu hwnt, gan na fyddwn wedi gallu gwneud popeth ar fy mhen fy hun.
Pa fesurau a weithredwyd gennych i fynd i'r afael â'r pandemig?
Anfonais lythyrau at ein holl gwsmeriaid yn cynnig gwasanaeth glanhau manwl gwrthfacterol ar ôl y pandemig, a buddsoddais mewn amrywiaeth lawn o gynnyrch gwrthfacterol y talais amdanynt o fy nghyfrif fy hun i geisio cadw cymaint o arian yn y busnes â phosib i dalu cyflogau. Achosodd hynny lawer o straen, gan fod pobl yn meddwl fod gan berchnogion busnes ddigon o arian..ond nid yn ystod y flwyddyn gyntaf. Roedden ni wedi buddsoddi nid yn unig amser ac egni, ond hefyd unrhyw gynilon personol i wneud Cleany Queeny yn llwyddiant, felly nid oedd llawer o arian dros ben i wario ar gynhyrchion.
Er bod arian yn brin, fel perchennog busnes, roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi wario er mwyn ennill. Roedd prynu peiriant a chynhyrchion Fogging yn risg, gan nad oeddwn yn gwybod a fyddai'n cyrraedd, ac a fyddai gan bobl ddiddordeb yn y gwasanaeth.
Cynhyrchais bamffledi a rhoi fy asesiadau risg a thaflenni COSHH gyda'i gilydd. Roedd cael gafael ar PPE yn anodd iawn ac yn ddrud, ond yn angenrheidiol.
Cychwynnais edrych ar fy mhroblem llif arian i dalu cyflogau, ac wedi ymchwilio i opsiynau'r banc, roedd cael arian ffyrlo gan CThEM o fewn 6 diwrnod ar ôl ymgeisio yn teimlo fel gwyrth.
Gan fy mod angen anfon pamffledi i lawer o gyfeiriadau yn ardaloedd Casnewydd a Chaerdydd, derbyn hyfforddiant ar ddefnyddio ein peiriannau newydd yn ogystal â chanfod y PPE cywir, cychwynnais hyrwyddo'r gwasanaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n edrych ymlaen at groesawu rhai o fy staff yn ôl, gan fod gofyn mawr am Cleany Queeny unwaith eto!
Credaf na fyddai Cleany Queeny wedi goroesi pe na fyddwn wedi arallgyfeirio a bod yn rhagweithiol. Er bod mwy o filiau i'w talu, rydym yn prysuro, ac unwaith eto rydym yn gweld elw ar ddiwedd yr wythnos.
Sut mae Busnes Cymru wedi eich helpu chi drwy'r broses?
Roedd Miranda (Bishop), ein cynghorwr busnes Busnes Cymru, yn ddefnyddiol tu hwnt, a sicrhaodd fy mod i ar y blaen gyda'r cyllid oedd ar gael. Roedd hi'n cynnig help lle bynnag roedd hi'n gallu. Derbyniais gymorth gan Miranda wrth ymgeisio ar gyfer grantiau'r Llywodraeth, ond yn anffodus, nid oeddem yn bodloni'r meini prawf llawn.
Fodd bynnag, roeddwn yn benderfynol fod Cleany Queeny yn goroesi - nid er fy mwyn i, ond er mwyn fy mhartner a'm plant ifanc. Bu i ni dreulio ychydig ddiwrnodau yn trafod syniadau cyn ymuno â gweminar Busnes Cymru ar Arallgyfeirio. Rhoddodd hyn ysbrydoliaeth i mi wneud ymchwil pellach i lanhau ar ôl firysau - gan ddod o hyd i ‘Touch-Point Cleaning’ a Disinfectant Fogging.
Ar ôl i ni lwyddo i ddod drwyddi heb unrhyw gymorth ariannol, ar ddechrau mis Mai, llwyddom i gael benthyciad Adfer o £17,500, y byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi staff, ehangu a llif arian.
Eich cyngor i fusnesau eraill yn ystod yr argyfwng hwn
Rwy'n gobeithio fod busnesau newydd a bach eraill wedi gallu arallgyfeirio mewn rhyw ffordd neu'r llall i sicrhau eu bod nhw'n goroesi hyn. Os oes modd i chi dreulio amser yn adnabod y bylchau, archwilio gwasanaethau neu gynnyrch newydd, neu os gallwch addasu eich gwasanaeth presennol i fodloni gofynion newidiol cwsmeriaid, gwnewch hynny. Efallai y cewch eich synnu gan lwyddiant yr holl beth!
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.