Mae cwmni cerrig o’r gogledd yn archwilio cynllun datblygu sylweddol a fydd yn dyblu trosiant misol y busnes ac yn gwella ei ôl troed carbon, diolch i gefnogaeth Busnes Cymru.
Sefydlwyd Cerrig Granite and Slate Ltd gan Glyn Williams, gweithiwr maen y bedwaredd genhedlaeth, a’i fab Ian, yn 2000. Dros ddau ddegawd yn ddiweddarach, ymunodd brawd yng nghyfraith Ian, Hugo Were ag ef fel cyfranddaliwr a chyfarwyddwr cynhyrchu a gwerthu, er mwyn arwain y busnes sydd bellach ymhlith prif ddarparwyr gwaith maen pwrpasol yn y DU.
Pwllheli ar arfordir Gwynedd yw pencadlys y cwmni, ac mae dros 22 o weithwyr sy’n arbenigo mewn technegau gwaith maen traddodiadol yn gweithio yno. Mae gan y busnes gleientiaid masnachol ar draws y DU sy’n creu gwaith maen ar gyfer gwestai, bwytai, llongau mordeithio, swyddfeydd a siopau. Ochr yn ochr â chleientiaid masnachol fel Howdens, Cerrig Granite and Slate Ltd yw unig ddarparydd cerrig beddi traddodiadol y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Trodd y cwmni at Lywodraeth Cymru am gymorth ym mis Mai 2023 er mwyn helpu i ailadeiladu’r busnes yn sgil y pandemig, a fu’n gyfnod anodd i fusnesau o bob math, gan gynnwys Cerrig Granite and Slate.
Gan weithio gyda’u Rheolwr Datblygu Busnes ac Arbenigydd Arloesi, argymhellwyd fod Cerrig Granite and Slate yn ystyried SMARTInnovation, cynllun a ddyluniwyd yn benodol i gynorthwyo busnesau oedd yn wynebu talcen caled yn sgil y pandemig.
Cyflawnodd Ian Widdrington, sy’n gweithio dros Enterprise Professional Services Ltd fel contractwr i ITERATE Design and Innovation Ltd, ddiagnosis cynhyrchiant ar ffatri Cerrig Granite and Slate. Clustnodwyd dau faes clir ar gyfer gwella. Yr argymhellion a wnaed oedd gwneud y busnes yn fwy effeithlon trwy roi trefn ddi-dor ar waith yn y ffatri, a buddsoddi mewn peiriannau modern. Byddai hynny’n haneru’r amser cynhyrchu ac yn cynyddu proffidioldeb, a byddai’n lleihau ôl troed carbon y ffatri hefyd.
Wrth drafod y cynlluniau datblygu, meddai Hugo:
Os ydych chi’n gweithio yn yr un ffordd bob dydd, rydych chi’n colli golwg ar y meysydd nad ydynt yn gynhyrchiol. Mae cael arbenigydd i mewn i glustnodi beth sy’n llesteirio’ch busnes, a chynnig atebion i’r problemau hyn, yn drawsnewidiol. Fydden ni ddim wedi bod yn ymwybodol o’r cymorth yma heb arweiniad Steve.
Ym mis Medi 2023, cyflwynwyd Hugo i Ymgynghorydd Busnes Cymru, Richard Fraser-Williams, a’i gynorthwyodd i ddiogelu cyllid ychwanegol sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i roi’r cynlluniau datblygu a glustnodwyd yn y diagnosis cynhyrchiant ar waith.
Dywedodd Hugo:
Rydyn ni newydd gwblhau gosodiad newydd y ffatri ac wedi prynu peiriannau newydd sy’n effeithlon o ran ynni, ac mae’r ddau beth yma’n hanfodol i lwyddiant Cerrig at y dyfodol. Fydden ni byth wedi bod yn ymwybodol o’r llwybrau datblygu yma, nac wedi cael dull o’u gweithredu, heb gymorth Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru. Nawr rydyn ni’n canolbwyntio ar dechnolegau newydd arloesol ar gyfer y busnes ac ar leihau ein hôl troed carbon. Rydyn ni am osod esiampl i’n cystadleuwyr.
Mae Cerrig Granite and Slate eisoes yn ailddefnyddio 95% o’i ddŵr, trwy system ailgylchu dŵr cylchol. Nawr, gyda chymorth Busnes Cymru, mae Cerrig Granite and Slate am brynu paneli solar newydd sydd â’r potensial o gynhyrchu hyd at 40% o bŵer y ffatri.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Busnes, Richard Fraser-Williams:
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Busnes Cymru wedi helpu cannoedd o fusnesau i ymadfer yn sgil effeithiau’r pandemig. Er na allem fod wedi paratoi cwmnïau am beth oedd i ddod, mae gennym ni’r offer i helpu busnesau i lewyrchu eto yn sgil y pandemig. Rwy’n gobeithio bod stori Cerrig Granite and Slate yn annog rhagor o entrepreneuriaid, a all fod yn ei chael hi’n anodd dod at eu pethau, i estyn allan a gofyn am y cymorth sydd ar gael. Mae ein harbenigwyr yn barod i’ch helpu chi i lewyrchu eto.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a chymorth i’ch helpu chi i oresgyn rhwystrau a datblygu eich busnes ymhellach, ac i siarad ag arbenigwyr o’r diwydiant ac ymgynghorwyr, ewch i Hafan | Busnes Cymru (gov.wales) neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.