BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Cwmni thema Cymreig yn gosod y llwyfan am lwyddiant diolch i Busnes Cymru

Matt Smith from Wild Creations

Mae cwmni thema o Gaerdydd yn esiampl wych o sut y gall y cwmni mwyaf llwyddiannus hyd yn oed barhau i ddatblygu a thyfu.

Cafodd y cwmni ei sefydlu gan y perchnogion Matt a Samantha Wild, a nhw sy’n ei weithredu o hyd. Nod Wild Creations yw dod â syniadau gwych yn fyw ar gyfer cwmnïau trwy amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cerflunio, printio a sganio 3D, gwaith coed, torri â laser, gwaith metel, mowldio a chastio, dylunio a chelfyddyd golygfeydd.

Allforion rhyngwladol sydd i gyfrif am 90% o’u gwaith comisiwn, ac mae portffolio trawiadol y busnes yn cynnwys gosodweithiau mewn amryw o barciau thema blaenllaw, fel creu Tyrannosaurus Rex maint go iawn ar gyfer lansio Jurassic World - Fallen Kingdom Universal, replica o Dodge Charger i hyrwyddo Fast and Furious 8, a 26 o dariannau hynafol adeg lansio sgwad Cymru ar gyfer yr Ewros yn 2020, ynghyd â phlac wedi ei lingerfio ar gyfer pob aelod o’r sgwad.

Er bod ganddynt lu o gleintiaid blaenllaw a throsiant iach, cysylltodd Matt â Busnes Cymru i ofyn am gyngor ar sut i optimeiddio llif arian y busnes er mwyn iddo fod yn fwy ystwyth gyda phrosiectau sydd ar y gweill a chleientiaid cyfredol. 

Yn dilyn y cysylltiad cychwynnol, darganfu Matt holl gwmpas y gwasanaethau cymorth datblygu busnes oedd ar gael ac roedd am archwilio ffyrdd y gallai ei gwmni wella ei weithrediadau a chynnal ei lwyddiant at y dyfodol.

Cynorthwyodd Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru, Phil Summers, Matt i lunio a rhoi ffocws i’w strategaeth fusnes gyda phwyslais ar ddatblygu pobl a thyfu gwerthiannau.

Roedd hyn yn cynnwys edrych yn fanwl ar eu polisïau cyflogaeth gyda chymorth Ymgynghorydd AD Busnes Cymru, Rhiannon Barry.  

Wrth siarad am gymorth Busnes Cymru, dywedodd Matt Wild: 

Sefydlwyd Wild Creations yn 2010, ac ers hynny rydyn ni wedi cael nifer fawr o gyfleoedd gwych i rannu ein creadigaethau â’r byd a diogelu ein lle mewn diwydiant hynod gystadleuol. Er ein bod ni wedi cael llwyddiant mawr ers lansio’n wreiddiol, roeddwn i am sicrhau bod y busnes mewn sefyllfa dda i barhau i ddarparu ein gwasanaethau.

Mae’r cymorth a gawsom gan Busnes Cymru wedi bod mor ddefnyddiol wrth glustnodi meysydd ar gyfer gwella o fewn ein gweithrediadau mewnol, a phartneriaethau newydd posibl hefyd. Ers estyn allan at Busnes Cymru, rydyn ni wedi gweld newid mor gadarnhaol yn ein gweithlu a’n harferion busnes. Rhoddodd Phil gyngor defnyddiol i ni o’i brofiadau busnes ei hun er mwyn ein galluogi ni i fod yn fwy hyblyg o ran ein llif arian, a symleiddio ein gweithdrefnau er mwyn gwella effeithlonrwydd drwyddi draw.

Cyfeiriodd Phil Matt at arbenigwyr Allforio Busnes Cymru a gynorthwyodd Wild Creations i feithrin perthnasau proffesiynol gwerthfawr i gynorthwyo eu gweithrediadau rhyngwladol, cyrchu rhaglenni Cymorth Allforio a digwyddiadau masnach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Archwilio Allforio Cymru. 

Ers cysylltu â Busnes Cymru ym mis Tachwedd 2023, mae’r cwmni wedi cael cymorth i gyflogi 21 o weithwyr amser llawn ychwanegol ac wedi ailstrwythuro gwerthoedd y cwmni er mwyn iddynt fod yn fwy cyson â blaenoriaethau a disgwyliadau gweithlu modern, fel hyblygrwydd, cynwysoldeb, a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gan weithio gydag Ymgynghorydd AD Busnes Cymru, mae Matt yn gobeithio dechrau cynnig prentisiaethau i ganiatáu i bobl greadigol gael profiad ymarferol a chynnig cyfleoedd i ehangu’r tîm craidd.

Gyda chymorth parhaus Busnes Cymru, nod Matt yw dyblu trosiant blynyddol y cwmni dros y tair blynedd nesaf trwy fynd ar drywydd rhagor o gyfleoedd datblygu a fydd yn caniatáu i’r cwmni barhau i fwrw ymlaen â phrosiectau mwy blaenllaw, ac agor swyddfa yn UDA yn y pendraw.

Dywedodd Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru, Phil Summers:

Cysylltodd Matt â ni i ofyn am gymorth am sut i fwyafu llif arian Wild Creations, ond pan ddywedais i wrtho am y gwasanaethau datblygu sydd ar gael i fusnesau sefydlog, roedd e’n awyddus i ddysgu rhagor. Mae yna gamganfyddiad fod gwasanaethau Busnes Cymru’n addas i fusnesau ar gyfnod cychwynnol yn unig, ond mae Wild Creations yn dyst i’r ffaith y gall hyd yn oed busnesau hirsefydlog elwa ar ein cymorth. Rwy’n gwybod y bydd awydd Matt i ddatblygu, tyfu a dysgu yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol Wild Creations.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a chymorth i’ch helpu chi i oresgyn rhwystrau a datblygu eich busnes ymhellach, ac i siarad ag arbenigwyr o’r diwydiant ac ymgynghorwyr, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.