Mae lansio busnes newydd yn aml yn golygu cymaint yn fwy na chreu cwmni’n unig. I un crefftwr coed o Ddinas Powys, cymorth Busnes Cymru a alluogodd iddo droi ei angerdd am waith coed yn fenter fasnachol hyfyw.
Mae Solace in Wood, busnes saernïo coed newydd a sefydlwyd gan Karl Watkins, wedi bwrw gwreiddiau cadarn ers Ebrill 2023 pan roddodd cynghorwyr Busnes Cymru gymorth iddo ddod o hyd i gyllid i’w fuddsoddi yn ei freuddwyd o droi’n broffesiynol.
Mae Solace in Wood yn creu gwrthrychau pren unigryw wedi eu turnio a’u cerfio at ddibenion pob dydd neu addurnol, gan ailddefnyddio pren, neu ddefnyddio coed o ffynonellau moesegol.
Gan weithio o’i weithdy yn ei ardd ei hun, mae Karl yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau arbenigol fel eboneiddio, lliwio, a brwsio â brwsh weiars i greu darnau hollol unigryw – o bowlenni, stondinau cacennau a fasys, i glustogau gemwaith a byrddau caws.
Cyn sefydlu Solace in Wood, datblygodd Karl ei dechnegau dylunio a’i grefft dros dri degawd wrth weithio dros fusnesau dylunio a chynhyrchu. Dechreuodd addysgu dylunio a thechnoleg mewn ysgol uwchradd leol yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd. Pecyn cerfio llwyau a gafodd yn anrheg Nadolig gan ei wraig Helen yn 2017 sbardunodd angerdd Karl am waith coed.
Ar ôl dechrau cerfio llwyau, roedd Karl am weithio ar ddarnau mwy ac arbrofi â lliw a gwead, a dechreuodd saernïo’r darnau cyntaf a fyddai’n dechrau busnes Solace in Wood.
Roedd Karl yn gwybod bod lle yn y farchnad am ei waith coed, felly cysylltodd â Busnes Cymru i ofyn am gymorth i gyflawni ei nod oes.
Cynorthwyodd Nicola Thomas, un o’r ymgynghorwyr busnes, Karl trwy ei gynorthwyo i lunio cynllun busnes, ei roi mewn cysylltiad â grŵp o berchnogion busnes newydd eraill, a chwilio am gyfleoedd iddo integreiddio i’r farchnad.
Wrth drafod y cymorth a gafodd gan Nicola, meddai Karl Watkins:
Fy mreuddwyd oes oedd dechrau busnes, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. O’r diwedd, yn 60 oed, rwy’n gallu byw’r freuddwyd yna a rhannu fy nghrefft a’r byd. Roedd Nicola’n gefn mawr i mi, a helpodd fi i gychwyn Solace in Wood gyda chymorth ymarferol a chyfoeth o wybodaeth rwy’n dal i gyfeirio nôl ati. Mae hi ar gael bob amser os oes angen cyngor arna’i ac mae hi’n cadw mewn cysylltiad â fi’n rheolaidd.
Mae’r grŵp i fusnesau newydd a argymhellodd Nicola o fudd mawr i mi. Rydyn ni’n cwrdd bob tri mis, gan drafod sut mae ein busnesau’n datblygu a chynnig adborth i’n gilydd er mwyn sicrhau ein bod ni’n archwilio pob llwybr posibl ar gyfer twf. Mae hi wedi bod yn anhygoel cael chwarae rhan mewn sgyrsiau lle gallaf i ystyried gwahanol safbwyntiau perchnogion busnes fel fi.
Cynorthwyodd Nicola Karl i wneud cais am fwrsari dechrau busnes gan Gyngor Bro Morgannwg, ac yn dilyn ei gais llwyddiannus, buddsoddodd y cyllid mewn offer a deunyddiau i helpu i loywi ei arferion gwaith coed a chreu darnau mwy cymhleth.
Yn ogystal, manteisiodd Karl ar y seminarau a’r cyrsiau ar lein roedd Busnes Cymru’n eu cynnig i ddysgu am gyfrifeg, rheoli busnes a marchnata, a lansiodd Solace in Wood yn swyddogol ym mis Medi 2023.
Ar ôl lansio’n llwyddiannus, sefydlodd Karl wefan fel y gallai cwsmeriaid brynu ei gynnyrch, a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ei fusnes a’i wasanaethau. Mae’r crefftwr wedi bod yn bresennol mewn nifer o ffeiriau crefftau ac arddangosfeydd celf eisoes, ac mae ei gerflunwaith yn dipyn o ffefryn gyda’r cwsmeriaid – mae e wrthi nawr yn paratoi i fynychu Marchnad Crefftwyr Sain Ffagan a Ffair Grefftau Cheltenham.
Meddai Nicola:
Mae Karl mor angerddol, ac rwy’n credu taw dyna pam roedd lansiad Solace in Wood mor llwyddiannus. Mae e wastad yn fodlon dysgu ffyrdd o wella ei arferion busnes, ac mae’n agored iawn i fy arweiniad. Gyda phendantrwydd Karl, rwy’n gwybod y bydd y busnes yn parhau i dyfu, ac y bydd Solace in Wood yn creu presenoldeb cadarn yn y byd celf a’r byd busnes.
Mae Karl yn gobeithio datblygu ei bortffolio gyda darnau cerfluniol graddfa fwy er mwyn cynyddu gwerthiannau a chyrchu orielau mwy blaenllaw. Mae e’n bwriadu parhau i ddefnyddio cyrsiau ar lein Busnes Cymru yn y gobaith o genedlaetholi’r busnes, gan gyrraedd y farchnad fyd-eang yn y pendraw.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i https://businesswales.gov.wales/cy. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.