Penderfynodd Lisa a Chris Jones greu eu llety caban moethus personol yng nghalon Dyffryn Dyfrdwy wedi iddynt gael eu hysbrydoli wrth deithio o gwmpas y byd. Ar ôl mynychu gweithdy dechrau busnes gan Fusnes Cymru, cawsant gymorth gan gynghorydd busnes i gwblhau eu cynllun busnes yn llwyddiannus a sicrhau benthyciad gan Fanc datblygu Cymru.
- cymorth cynghorol i ddechrau
- lansiwyd yn llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2019
- ar flaen y rhagolygon ar ôl mis o fasnachu yn unig
Cyflwyniad i'r busnes
Lansiwyd ym mis Gorffennaf 2019 gan ŵr a gwraig, Chris a Lisa Jones, mae Dee Valley Breaks yn cynnig llety caban moethus hunanarlwyo newydd mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol yng nghalon Dyffryn Dyfrdwy.
Mae'r caban unigryw, sydd wedi ei osod ar lechwedd Glyndyfrdwy ger Llangollen, gyda golygfeydd bendigedig o'r dyffryn, yn cynnig dihangfa ramantus a seibiant ymlaciol oddi wrth fywyd prysur, yn ogystal â chyfle gwych i archwilio Gogledd Cymru.
Pam oeddech chi eisiau cychwyn busnes eich hun?
Rydw i a'm gŵr, Chris, wedi mwynhau aros mewn llefydd unigryw, moethus ac anarferol erioed, o dai rhew gwydr a chytiau yn Sgandinafia i gabanau diarffordd yng Nghanada ac Alasga. Pan gododd y cyfle yn 2016 i ddatblygu darn o dîr, neidiasom at y cyfle. Fe aethom ati'n syth i gychwyn braslunio ein llety gwyliau delfrydol gyda'r holl nodweddion dylunio arbennig rydym wedi dotio atynt yn y mathau gwahanol o lety rydym wedi eu mwynhau ar ein teithiau. Ac o hyn daeth Dee Valley Breaks! Dihangfa ramantus, unigryw a moethus yng nghalon Dyffryn Dyfrdwy.
Pa heriau a wyneboch?
Heriau ariannol! Roeddem yn gwybod ein bod yn brin o arian, felly roedd yn eithaf brawychus gorfod benthyca arian. Nid oedd gennym syniad am ragolygon ariannol a sut i gychwyn rhoi cynllun busnes at ei gilydd. Roedd y cyfan yn newydd i ni. Nid oeddem yn sicr sut i gysylltu â darparwyr posib. Yn ffodus, roedd Busnes Cymru yn awyddus i helpu.
Cymorth Busnes Cymru
Yn 2017, ar gychwyn eu cyfnod cynllunio, mynychodd Lisa a Chris weithdy cychwyn busnes, a ddarparwyd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn rhoi'r ddealltwriaeth iddynt o set sgiliau entrepreneur, pwysigrwydd o ymchwilio’r farchnad, cyllideb bersonol, goblygiadau ariannol, materion cyfreithiol, TAW, Yswiriant Gwladol a chanfod cyllid.
Yna cawsant eu cefnogi gan gynghorydd busnes, Sian E Jones a fu'n adolygu'r materion dechrau busnes mewn manylder â nhw. Bu Sian yn eu helpu nhw gyda'u cynllun busnes a rhagolygon llif arian, gan alluogi'r cwpwl i dderbyn benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, cwblhau'r prosiect a chychwyn masnachu.
Canlyniadau
- cymorth cynghorol gyda'r holl agweddau ar lansio busnes yn cynnwys cais llwyddiannus i ariannu benthyciad
- cychwyn masnachu ym mis Gorffennaf 2019 ac wedi croesawu 11 cwpwl yn ystod y mis cyntaf o fasnachu
- cyngor ar ymholiadau cynaliadwyedd pellach Busnes Cymru
Roedd ein cynghorydd Busnes Cymru, Sian, yn wych! Roedd hi'n deall ein gweledigaeth, y "llety unigryw" a'r profiad roeddem yn dymuno ei greu ar gyfer ein gwesteion. Roedd hi'n hynod gyfeillgar a bob tro wrth law, hyd yn oed gyda'r ymholiad lleiaf. Roedd hi'n gymorth i ni wrth lunio cynllun busnes cynhwysfawr, ac yn bwysicaf oll, y rhagolwg ariannol! Roedd hi hefyd yn gyfrifol am ein rhoi ni mewn cyswllt ag Anna Brown o Fanc Datblygu Cymru, oedd yr un mor ddefnyddiol. Roedd Sian ac Anna yn gweithio’n dda gyda'i gilydd, ac yn ein diweddaru drwy gydol y broses gyfan. Cawsom hefyd gyngor arbenigol (gan gynghorwr cynaliadwyedd arbenigol Busnes Cymru, David Walker) o ran gwneud yr adeilad yn effeithlon o ran ynni - o baneli solar, i ddyfeisiau effeithlon o ran ynni ac offer llywio gwres!
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Mae gennym ganiatâd cynllunio ar gyfer un caban moethus arall, ac rydym yn gobeithio ei ddatblygu'n fuan. Ein gweledigaeth hir dymor yw ehangu ac edrych am barseli eraill o dir y gallwn eu defnyddio i ddatblygu llety moethus unigryw.
Rydym hefyd eisiau creu perthynas weithio gref gyda busnesau lleol eraill er mwyn partneru i gynnig seibiant sba, gweithgareddau awyr agored a hamperi bwyd.
Rydym hefyd yn awyddus i hyrwyddo neges #archebuuniongyrchol. Rydym wedi bod ar agor am fis ac yn ystod yr amser hynny rydym wedi croesawu 11 cwpwl i Valley View Lodge. Rydym wedi derbyn dros 40 archeb uniongyrchol yn ystod y pum wythnos gyntaf o fasnachu, gan osgoi ffioedd gan asiantaethau teithio poblogaidd ar-lein, yn y gobaith o elwa'r economi leol yn hytrach na chewri asiantaethau teithio ar-lein. Mae archebu'n uniongyrchol yn arwain at lai o gostau i ni, sy'n golygu ein bod yn gallu cynnig prisiau is i'n gwesteion yn ogystal.
Rydym yn hynod o falch ein bod, hyd at heddiw, yn rhagori ar ein gwerthiannau a'n rhagolygon ariannol ar gyfer misoedd un, dau a thri!
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant ar sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.