Sefydlwyd Distyllfa Dinorwig ym mis Hydref 2016 gan y gŵr a’r wraig, Lew Hardy a Jessica Eade, mae’r microddistyllfa sy’n swatio o dan Chwarel Lechi Dinorwig, ar odre Parc Cenedlaethol Eryri, yn creu gin crefftus a thrwythau botanegol gan ddefnyddio ryseitiau'r cwpl.
Wedi'i hysbrydoli gan dirwedd a threftadaeth Cymru, mae Distyllfa Dinorwig wedi'i seilio ar ethos o gynhyrchiad a tharddiad crefftus. Er bod hon yn broses gostus, mae Jessica a Lew yn teimlo mai hynny sy'n gwneud eu gin yn unigryw ac sy’n ei wreiddio yn y dirwedd leol.
Gan fod y ddistyllfa wedi’i lleoli mewn ysgubor fechan ar dir Jessica a Lew, mae llawer o'r perlysiau maen nhw'n eu defnyddio yn cael eu tyfu ar y safle. Maen nhw hefyd yn defnyddio eu dŵr ffynnon o’r mynydd ar gyfer y distyllio a thorri'r gin i gryfder yfed. Mae'r broses gynhyrchu gyfan, gan gynnwys distyllu, potelu, selio a labelu yn digwydd â llaw ar y safle.
Ar hyn o bryd, mae Distyllfa Dinorwig yn gwerthu ei gin i amrywiaeth o siopau arbenigol lleol a bydd yn lansio siop ar-lein yn fuan.
Beth ddaru nhw
Mae Jessica yn seicolegydd clinigol profiadol, ac wedi gweithio i'r GIG a rhedeg ei phractis preifat ei hun, yn cynnig gwasanaethau therapi seicolegol. Penderfynodd Jessica a Lew, sydd yn hoff iawn o fwy a diod, sydd hefyd yn gweithio i Brifysgol Bangor, ganolbwyntio ar fenter newydd y cwpl ym mis Tachwedd 2016.
Wedi sefydlu yng nghefn gwlad Gogledd Cymru, mae Jessica a Lew yn rhedeg model busnes cydweithredol lle maen nhw’n prynu gwasanaethau cefnogol gan ddarparwyr ac arbenigwyr lleol, e.e. gwaith cyfrifo, cynnal a chadw a dylunio'r wefan, cynnal a chadw gardd, tyfwyr ffrwythau ayyb. "Drwy wneud hyn, rydym yn cefnogi busnesau bach lleol eraill ac yn ceisio canolbwyntio ar yr hyn a wnawn orau: gwneud gin!" meddai Jessica.
Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol
"Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn. Aethom o’r syniad i’r farchnad mewn cyfnod byr iawn, gan ystyried bod Jess hefyd wedi hyfforddi mewn distyllio ac wedi datblygu'r cynnyrch ei hun yn ystod y cyfnod hwnnw. Does dim amheuaeth bod y pwysau amser a roesom ar ein hunain wedi golygu ein bod wedi gwneud rhai camgymeriadau y gallem fod wedi’u hosgoi. Fodd bynnag, mae angen rhywfaint o straen arnoch i greu egni, ac nid yw llwyddiant bob amser yn edrych yn brydferth. Efallai y byddai wedi bod yn braf, yn synhwyrol hyd yn oed, i ddatblygu'r cynnyrch dros nifer o flynyddoedd, i brofi'r farchnad, a bod o dan lai o bwysau," meddai Lew.
Eu adeg mwyaf balch mewn busnes
"Gweini ein gin mewn parti gyda ffrindiau a theulu – trwy’r nos nid oedd neb eisiau newid i yfed unrhyw ddiod arall."
Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes
"Rydym wedi defnyddio'r Gymraeg ar label ein poteli gin ac rydym newydd ddatblygu taflen ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi'n datblygu gwefan ddwyieithog. Dim ond mewn gwyliau lleol rydym yn gwerthu’n uniongyrchol a byddwn bob amser yn ceisio sicrhau bod gennym o leiaf un siaradwr Cymraeg rhugl ar y tîm (mae plant sydd wedi tyfu i fyny yn ddefnyddiol yma!). Nid wyf i na fy ngŵr yn rhugl yn y Gymraeg, felly pan mae’n dod i unrhyw fanylion ysgrifenedig mae'n rhaid i ni brynu gwasanaethau cyfieithu. Er nad oes rhaid i ni ddefnyddio'r Gymraeg, mae ein cynnyrch yn cael ei greu a’i ysbrydoli gan y tir hwn ac mae'r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o'r dreftadaeth honno. Dyna pam y gwnawn ymdrech i ddefnyddio'r Gymraeg lle gallwn yn ein busnes."
Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru
Helpodd ymgynghorydd Busnes Cymru Jessica a Lew i ddatblygu eu syniad busnes a darparu cefnogaeth gyda materion megis hyfforddiant diogelwch bwyd, gwasanaethau dadansoddi labordy, cyflenwyr poteli, gwiriadau cydymffurfiaeth a thrwyddedau. Cafodd y ddau gymorth hefyd gyda marchnata ac i archwilio sianeli hyrwyddo, datblygu gwefan, gwerthu ar-lein, presenoldeb mewn sioeau bwyd a’r cyfryngau cymdeithasol.
Ar ôl lansio'r busnes yn llwyddiannus, dechreuodd Jessica chwilio am gymorth ariannol ar gyfer creu gwefan dwyieithog gyda llwyfan siopa ar-lein ac i brynu distyllbair ychwanegol i gynyddu cynhyrchiant. Fe wnaeth yr ymgynghorydd helpu Jessica gyda'i chais am fenthyciad dechrau busnes a'r cynlluniau busnes ac ariannol cysylltiedig, gan alluogi Distyllfa Dinorwig i gael benthyciad o £8,000.
Dywedodd Jessica: "Cefais gyfarfod â Busnes Cymru ar gychwyn cyntaf symud y busnes o syniad i realiti. Diolch byth y gwnes i. Gwnaeth y cyngor a gefais yn sicr fy atal rhag mynd i lawr rhai llwybrau hir iawn ac ofer. Roedd fy ymgynghorydd hefyd yn wrandäwr gwych ac yn gadael i mi gynnig cant o syniadau cyn gwneud i mi ganolbwyntio ar y blaenoriaethau o le i ddechrau. Rhoddodd rai enghreifftiau gwych o sut roedd busnesau eraill wedi mynd i'r afael â materion tebyg ac roedd hynny’n fuddiol iawn.
Cefais hefyd fy nghyfeirio at sefydliadau eraill, ac mae eu cymorth nhw wedi bod yn amhrisiadwy. Mae Busnes Cymru wedi cadw mewn cysylltiad â ni a phan gyfarfuom eto tua 12 mis ar ôl dechrau’r busnes i drafod cyllid, roedd fy ymgynghorydd yn gallu ein helpu ni i sicrhau benthyciad, gan ganiatáu i ni brynu rhai darnau ychwanegol o offer i wella ein capasiti cynhyrchu yn sylweddol. Rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr iawn y mewnbwn, y doethineb a’r agwedd tuag at gamgymeriadau sef: dysgu oddi wrthynt a symud ymlaen!"
Cyngor Da
Dyma brif gynghorion Distyllfa Dinorwig i unrhyw un arall sy'n awyddus i ddechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:
- gall busnes fod fel babi newydd sydd angen sylw cyson, ond nid yw hynny’n gynaliadwy, felly mae’n bwysig eich bod yn trefnu "egwyliau" rheolaidd (diffoddwch y ffôn, ewch am dro, ewch i weld eich ffrindiau)
- penderfynwch beth rydych chi eisiau ei gyflawni yn y tymor byr, ond rydych hefyd angen nod terfynol (lle ydych chi eisiau bod mewn 5 mlynedd?)
- datblygwch rwydwaith cymorth busnes (perchnogion busnes eraill, ymgynghorwyr busnes, mentoriaid, cyfrifydd); gwyliwch sut maen nhw’n rhedeg eu busnes a gofynnwch am eu barn ar eich syniadau
- byddwch yn hyblyg a gwrandewch ar gyngor pobl eraill, ond cadwch eich nodau mewn cof bob amser, ar ddiwedd y dydd eich busnes chi yw ef a ni all neb arall ei redeg i chi
- byddwch yn barod i wneud camgymeriadau, dro ar ôl tro, ar ôl tro!