Ers prynu Dolforwyn Hall Country House, mae’r croeso cynnes rydym wedi ei dderbyn, nid yn unig gan bawb yn yr ardal leol, ond hefyd y gefnogaeth ragweithiol gan Busnes Cymru, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i’r busnes newydd o ran cyngor, cyfarwyddo a chreu cysylltiadau cyflym i mi gydag adnoddau arbenigol gan ddarparu ymagwedd gyson gadarnhaol a chalonogol, wedi fy mhlesio’n fawr. Mae eu tîm brwdfrydig a phroffesiynol yn wych i gydweithio â nhw.
Fel adeilad rhestredig Gradd 1, Dolforwyn Hall Country House yw’r enciliad gwledig perffaith os ydych yn chwilio am seibiant. Ac mae'r perchennog, Ken Jacobson, eisiau sicrhau bod y gwesty yn hygyrch ar gyfer yr holl staff a’i westeion. Yn awyddus i wybod mwy ynglŷn â recriwtio pobl ag anabledd, a sicrhau bod y gwesty yn cwrdd â’r safonau hynny, cysylltodd Ken â Busnes Cymru i ddarganfod pa gymorth oedd ar gael.
Diolch i'w Gynghorydd Cyflogaeth Pobl Anabl, maent bellach wedi cofrestru ar y Cynllun Hyderus o Ran Anabledd i'w helpu gyda recriwtio, ac maent hefyd wedi cofrestru ar gyfer yr addewid Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.