Wedi ei lansio yn 2019, cwmni tacsis cydweithredol yw Drive, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac ym mherchnogaeth lwyr ei aelodau, y gyrwyr. Dechreuodd y cwbl pan ddaeth grŵp o yrwyr tacsis o Gaerdydd ynghyd i ffurfio cwmni cydweithredol newydd i'r perwyl o frwydro am system sy'n trin gyrwyr yn deg.
"Caiff y busnes ei redeg ar sail nid er elw, sy'n golygu bod y gyrwyr sy'n aelodau yn talu'r swm lleiaf posibl o ffioedd gweinyddu ac yn defnyddio ein system anfon ni, gan alluogi iddynt arbed hyd at £4-5,000 y flwyddyn. Golyga hyn fod mwy o arian yn aros yn yr economi leol yn hytrach na chael ei dalu mewn difidendau i gyfranddalwyr a rheolwyr cwmnïau. Yn ogystal, wrth ymuno, mae pob gyrrwr yn cael un gyfran yn y cwmni, sy'n rhoi'r hawl iddynt bleidleisio a dweud eu dweud am y modd y caiff y cwmni ei redeg." (Paul O’Hara, Ysgrifennydd a Sylfaenydd)
Beth ddaru nhw
"Roedd pob un ohonom yn anesmwyth ynglŷn â'r cyfeiriad yr oedd y fasnach tacsis a hurio preifat yn mynd iddo, gyda chwmnïau tacsis cenedlaethol mawr yn codi mwy a mwy ar yrwyr i ddefnyddio eu systemau a'r ffordd y maent yn parhau i recriwtio gyrwyr heb gyflwyno'r mesurau ychwanegol ar eu cyfer. Yna cawsom y cwmnïau apiau, mawr, gwerth biliynau yn dod i mewn i'r farchnad ac yn codi hyd at 25% ar yrwyr am bob taith gyda nhw.
Mae'r rhan fwyaf o'r gyrwyr yng Nghaerdydd yn hunangyflogedig ac mae llawer yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Nid oeddem yn gallu newid y swm yr ydym yn ei dalu am yswiriant, ffioedd trwydded a thanwydd, ond yr hyn y gallem ddylanwadu arno oedd y swm yr ydym yn ei dalu i weithredwyr. Felly, penderfynom ffurfio'r Cwmni Tacsis Cydweithredol a dewisom "Drive" fel ein henw masnachu oherwydd mai dyna yw enw pob gyrrwr tacsi yng Nghaerdydd!
Treuliodd yr aelodau sefydlu oddeutu 9 mis yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer lansio'r busnes. Bu Mark Jennings o Gwmni Tacsis Cydweithredol Southend yn ein mentora, ac mae wedi bod yn help mawr.
Cawsom ein swyddfa gan gwmni cydweithredol arall, Indycube, wedi ei leoli ym Mae Caerdydd. Gwnaethom dreialu cyflenwyr systemau anfon a llinellau ffôn gwahanol nes i ni ddod o hyd i'r rhai mwyaf dibynadwy a chost-effeithiol a oedd yn ddelfrydol i'n hanghenion. Penderfynom ar ein henw a dyluniom ein logo ein hunain yn barod ar gyfer lansio."
Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol
"Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw beth y byddem yn ei wneud yn wahanol. Er efallai y gwnaiff hyn newid!"
Eu adeg mwyaf balch mewn busnes
"Clywed ein cwsmeriaid yn canmol ein gwasanaeth - rydym yn ymfalchïo yn ein sgiliau gwasanaeth cwsmer o'r radd flaenaf.
Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes?
"Mae ein cardiau busnes a derbynebau yn ddwyieithog. Rydym yn anelu at sicrhau bod gennym o leiaf un gyrrwr sy'n gallu siarad Cymraeg unwaith fydd y busnes wedi cael ei draed dano."
Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru
Rhoddodd ymgynghorwyr Busnes Cymru Llywodraeth Cymru gymorth cyn dechrau manwl i Drive, gan ganolbwyntio ar gynllunio busnes, deddfwriaeth a strwythur addas ar gyfer y busnes. Yna cynorthwyodd yr Ymgynghorydd Twf, Jamie Reynolds, gyda'u cynlluniau twf a rhoddodd gyngor ar adnoddau rheoli marchnata a chadw'r cwmni cydweithredol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
O ganlyniad, lansiwyd Drive yn llwyddiannus ar ddydd Gŵyl Dewi 2019 ac mae wedi creu 9 swydd yn barod.
Dywedodd Paul: "Rydym wedi cael toreth o gymorth a chefnogaeth gan Busnes Cymru - mae'r ymgynghorwyr ar ben arall y ffôn pryd bynnag yr ydym angen cyngor ac ni allwn ofyn am fwy."
Cyngor Da
Dyma awgrymiadau ardderchog Drive ar gyfer unrhyw un arall sy'n dymuno dechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:
- amgylchynwch eich hun â phobl o'r un feddwl â chi
- cofiwch ystyried y darlun ehangach bob amser
- peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth
- rhowch y cwmni cyn popeth arall
- byddwch yn onest gyda'ch gilydd a gyda chwsmeriaid, a pheidiwch byth â rhoi'r ffidl yn y to!