BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Elestration®

person painting an elephant

Busnes celf ymwybyddiaeth a chadwraeth eliffantod yn dechrau masnachu yn ne Cymru, gyda chefnogaeth Busnes Cymru. 

 

Aeth Hayley C Lewis o Fro Morgannwg amdani a phenderfynodd droi ei chariad at gelf a darlunio, a’i hangerdd dros gadwraeth eliffantod i fod yn fusnes. Gyda chefnogaeth busnes newydd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, llwyddodd Hayley i sicrhau cyllid a lansio Elestration® yn 2020.

  • Wedi dechrau masnachu a chreu 1 swydd.
  • Wedi sicrhau benthyciad busnes newydd o £5,000.
  • Wedi cofrestru ar gyfer Addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru.

 Cyflwyniad i’r busnes

Penderfynodd Hayley C Lewis, artist o’r Barri, sefydlu  Elestration® er mwyn cyfuno ei chefndir mewn celf, cerameg a dylunio gyda’i hangerdd dros eliffantod a’u cadwraeth.  

Nod Elestration® yw codi ymwybyddiaeth o ddyfodol eliffantod drwy waith celf unigryw a chynaliadwy, gan gyfleu rôl a natur eliffantod drwy’r oesoedd, gan ddefnyddio dull darluniadol o baentio glas a gwyn.

Cefnogaeth Busnes Cymru 

Dechreuodd taith Hayley gyda Busnes Cymru mewn gweminar dechrau busnes lle gwnaeth hi gwrdd â’i hymgynghorydd busnes, Yusuf Behardien. 
Helpodd Yusuf Hayley i droi syniad yn gynnig busnes hyfyw drwy roi cyngor ar adeiladu refeniw busnes cynaliadwy, modelau prisio, strategaeth farchnata ac IP.  

O ganlyniad, llwyddodd Hayley i sicrhau benthyciad o £5,000 gan y Cwmni Benthyciadau Busnesau Newydd, a lansiodd y busnes yn llwyddiannus yn 2020.  

Ers hynny, mae Hayley wedi cofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru, gan addo i weithio gyda chyflenwyr cyfrifol, defnyddio adnoddau’n effeithlon, lleihau ei hôl-troed carbon a gwastraff, ac edrych ar ôl lles y gymuned leol. Yn rhan o’i hymrwymiad i’r Addewid Cydraddoldeb, mae hefyd yn bwriadu darparu gwasanaeth hygyrch i’w chleientiaid, gan barchu natur ddwyieithog Cymru a defnyddio cadwyn gyflenwi foesegol. 
Cwrddom â Hayley i ddysgu mwy am y syniad unigryw y tu ôl i’w busnes newydd: 

Pam gwnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Penderfynais ddechrau Elestration® fel ffordd o arddangos fy ngwaith celf i gynulleidfa ehangach er mwyn fy ngalluogi i godi ymwybyddiaeth o gadwraeth eliffantod, a galluogi rhagor o bobl i gael mynediad i’m gwaith celf, oherwydd cyn hyn, ro’n i’n gweithio’n llawn amser ac yn derbyn comisiynau.

Dechreuais y daith hon yn 2011 wrth astudio Cerameg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Datblygais angerdd anhygoel dros gadwraeth eliffantod, gan gyfuno cerameg a darlunio, sydd wedi dylanwadu fy arferion celf presennol a’m brand. Datblygais ffordd unigryw o ddefnyddio darlunio i ddod â’r pryderon presennol hyn i’r amlwg - gan alw ar y cyhoedd i edrych ar y materion sy’n wynebu eu difodiant a datgelu gwirioneddau sy’n hanfodol i’r ffordd yr ydym yn ystyried dyfodol eliffantod a chadwraeth.

Sylweddolais ar fy nghariad at eliffantod a darlunio drwy flynyddoedd lawer o astudio ac ymchwil, a dyna pam rwy’n parhau i ddarlunio eliffantod heddiw ar ran Elestration®.  Rydym yn bartner cefnogol balch o HERD (Hoedspruit Elephant Rehabilitation and Development) – cartref eliffantod amddifaid cyntaf De Affrica. Rydym yn rhoddi cyfran o 10% o elw Elestration® at eu cenhadaeth anhygoel, sef gofalu ac adsefydlu eliffantod amddifad, i roi teulu newydd iddynt a chyfle arall i gael bywyd gyda haid newydd o eliffantod.  

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

‘Dw i wedi wynebu llawer o heriau hwylus ar hyd y ffordd, ac os ‘dw i’n onest, maent wedi rhoi cyfle gwych i mi ddysgu! Mae hyn yn cynnwys llawer o ymchwil o ran beth fyddai’n galluogi fy musnes i dyfu, gan gynnwys dod o hyd i’r cyflenwyr ecogyfeillgar gorau i weithio gyda nhw, meddalwedd cyfrifo, dod o hyd i dwrnai nod masnach a llawer mwy.

Ro’n i’n awyddus i ddylunio logo fy hun heb unrhyw brofiad dylunio graffeg, ac ar ôl gwylio llawer o fideos ar YouTube a darlunio eliffantod, rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu cyflawni’r union hyn yr oeddwn wedi’i ddychmygu. Mae hyn hefyd wedi fy helpu i ddylunio rhagor o bethau fy hun, ac rwy’n credu bod hyn yn bwysig iawn i artist, gan olygu bod nwyddau’n wreiddiol ac yn cael eu dylunio â llaw, pob un wedi’u cynllunio’n ofalus. Rydych yn wynebu llawer o bethau ar hyd y ffordd sy’n gyfle i chi fagu hyder! Pwy a ŵyr beth fyddwch yn ei ddarganfod? 

Pam bod cynaliadwyedd a chynhwysiant yn bwysig i chi ac Elestration®?

O’r cychwyn cyntaf, ro’n i’n gwybod fy mod yn awyddus i fod yn fusnes eco-gyfeillgar. Mae hyn yn un o werthoedd pwysig Elestration® ac rwy’n ymwybodol iawn o fy effaith ar yr amgylchedd gan ddefnyddio deunyddiau a chynnyrch sydd ar sail papur yn bennaf. Mae hyn yn golygu bod fy neunyddiau a’m cynnyrch, lle bo’n bosibl, yn fioddiraddadwy, yn ddi-blastig ac yn rhai y mae modd eu hailgylchu a’u compostio, fel bod mod di bobl eraill ofalu am yr amgylchedd hefyd!

Mae’r holl gynnyrch a’r pecynnau’n cael eu cynhyrchu yn y DU gan ddefnyddio stoc sydd wedi’i ardystio gan FSC® lle bynnag y bo’n bosibl (mae hyn yn gwarantu bod cynnyrch yn gyfrifol yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd). Mae’r Printiadau Giclée yn cael eu cynhyrchu a’u hargraffu yn lleol yng Nghymru. Cwmni cynghrair eco-becynnu sy’n plannu coeden ar gyfer pob archeb mewn ardal sydd angen ei hailgoedwigo sy’n creu’r papur sidan wedi’i ddarlunio.  

Mae cydraddoldeb hefyd yn bwysig i Elestration®, wrth i mi geisio sicrhau bod fy nghynnyrch a’m gwasanaethau’n hygyrch i bawb. ‘Dw i hefyd yn adolygu pob cyflenwr a’u polisïau pryd bynnag y byddaf yn cyflwyno archeb i sicrhau bod hyn yn unol â’m polisi amgylcheddol fy hun a’m haddewidion ynghylch cyflogaeth a chadwyni cyflenwi moesegol. ‘Dw i’n gwneud fy ngorau i ddefnyddio cyflenwyr o’r DU a Chymru yn unig, ac yn monitro unrhyw rai rhyngwladol yn rheolaidd. ‘Dw i’n cymryd camau i sicrhau fy mod yn gallu defnyddio’r Gymraeg o fewn fy nghynnyrch: yn artist o Gymru, rwy’n awyddus i hyrwyddo’r iaith mewn ffyrdd hwyliog ac addysgol.

Sut ydych chi wedi elwa ar eich ymgynghorydd?

Mae Yusuf wedi bod yn hanfodol o ran fy ngwthio i gyflawni fy nhargedau bob cam o’r ffordd. Cynigiodd gyngor ardderchog na fyddwn i wedi meddwl amdano ar fy mhen fy hun, a ‘dw i’n ddiolchgar am hynny. Weithiau mae gennych syniad o darged yn y pen draw, a hanner y syniad o ran sut i’w gyrraedd. Roedd Yusuf yn gallu adeiladu ar y llun hwnnw i’m galluogi i gyflawni Elestration®, o ysgrifennu cynllun busnes, cynnig cyngor ar fusnes a’m helpu gyda fy rhagolygon llif arian!  

Pan gysylltais â Busnes Cymru, doedd gen i ddim syniad am y gefnogaeth oedd ar gael i mi! ‘Dw i’n meddwl un o’r pethau gorau y gallwn i ddweud wrth bobl sy’n meddwl am sefydlu busnes, ond ddim yn siŵr am sut i wneud hynny, yw codi’r ffôn neu e-bostio Busnes Cymru!

Cynlluniau ac uchelgeisiau yn y dyfodol

Elestration® yw cam cyntaf cynllun llawer mwy! Rwy’n awyddus i allu creu a datblygu rhagor o gynnyrch eliffantod eco-gyfeillgar ar hyd y ffordd gan ddefnyddio fy ngwaith celf. Rwy’n ceisio paentio portreadau o eliffantod sy’n cael eu cefnogi gan elusennau a sefydliadau eliffantod ardderchog; mae gan bob eliffant bersonoliaeth hyfryd.  

Fy uchelgais fwyaf yw gallu cyfrannu’n helaeth at gadwraeth eliffantod. Mae paentio eliffantod yn freuddwyd i mi, dyma pam ro’n i’n awyddus i gefnogi HERD - mae’r haid Jabulani a’u straeon pwerus yn ysbrydoliaeth i mi.   

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.