Mae goroeswr canser y fron, a arferai deimlo gormod o gywilydd i adael ei chartref, wedi lansio gwasanaeth amnewid gwallt y gellir ei ddefnyddio drwy bresgripsiwn GIG Cymru, gan oedolion a phlant sy’n cael triniaeth canser ac yn brwydro yn erbyn cyflyrau colli gwallt.
Sefydlodd Anastasia Cameron, 38, steilydd arobryn o’r Rhws, salon Scarlett Jack Hairitage ym Mro Morgannwg i ddarparu atebion colli gwallt modern i’r rheini sy’n byw gyda chyflyrau fel alopesia, neu sgil-effeithiau triniaethau canser fel cemotherapi a radiotherapi.
Ar ôl gweithio fel steilydd gwallt ac ymgynghorydd colli gwallt ers 15 mlynedd, roedd Anastasia yn ymwybodol bod mynediad at wasanaethau amnewid gwallt o safon yn gyfyngedig iawn yn Ne Cymru. Yna, ar ôl dod yn fam a threulio’r deng mlynedd nesaf yn gweithio mewn coleg lleol, cafodd ddiagnosis a fyddai’n effeithio ar ei bywyd a’i gyrfa am byth.
Yn 2021, cafodd Anastasia ddiagnosis o ganser y fron a dechreuodd gael triniaeth ar unwaith, ac un o’r sgil-effeithiau oedd colli gwallt. Ar y pwynt hwn darganfu fod mynediad at therapi amnewid gwallt yr un mor wael ag yr oedd ddegawd cyn hynny. Yn waeth fyth, roedd yr hyn a oedd ar gael yn aml yn anaddas i’r diben ac yn cael ei werthu am bris afresymol i lawer o bobl a oedd eisoes yn agored i niwed.
Pan ddechreuodd Anastasia wella yn 2023, penderfynodd newid gyrfa er mwyn helpu pobl eraill. Gyda chymorth Busnes Cymru, ei chenhadaeth bersonol oedd sicrhau bod y rheini oedd yn wynebu’r her roedd hi wedi’i phrofi yn gallu cael gafael ar atebion newid gwallt o safon sy’n cynnig manteision go iawn i ansawdd bywyd.
Wrth siarad am yr hyn a’i hysbrydolodd i helpu’r rhai a aeth drwy brofiadau tebyg, dywedodd Anastasia Cameron:
Roedd colli fy ngwallt yn heriol iawn, roeddwn i’n teimlo llawer o gywilydd a doeddwn i ddim eisiau gadael fy nhŷ. Er fy mod i’n delio â cholli gwallt pan oeddwn i’n steilydd, doeddwn i dal ddim yn barod. Yn sicr, doeddwn i ddim yn meddwl y byddai cyn lleied o atebion gwallt modern o hyd.
Dim ond ar ôl i mi golli fy ngwallt fy hun y gallwn i wir ddeall a chydymdeimlo â’r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae’n anodd disgrifio’r unigedd rydych chi’n ei deimlo, ond y realiti yw bod cynifer o bobl yn ei brofi. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth, rhywbeth a allai roi hyder yn ôl i bobl, a’r cyfle i deimlo’n gyfartal.
Cysylltodd Anastasia â Busnes Cymru yn 2022 i’w helpu i adeiladu’r sylfaen ar gyfer ei busnes a fyddai’n darparu gwasanaeth fforddiadwy ac empathetig y mae wir ei angen ar gyfer y rheini sy’n cael eu herio gan golli gwallt.
Yna, cefnogodd Nicola Thomas, Cynghorydd gyda Busnes Cymru, Anastasia drwy ei helpu i ddrafftio cynllun busnes, cael gafael ar wybodaeth i helpu gyda’r broses sefydlu, a datgloi’r cyllid i adeiladu a lansio gwasanaethau sydd eu hangen ar gleifion ledled De Cymru.
Esboniodd Anastasia:
Daeth Nicola yn achubiaeth i mi yn ystod y broses o ddechrau busnes. Fe wnaeth hi fy helpu i adeiladu Scarlett Jack Hairitage o’r cychwyn i fod yn lle cynhwysol a diogel y mae ei angen ar bobl sy’n byw gyda’r cyflyrau hyn.
Mae dechrau busnes fel hyn yn gofyn am adnoddau a buddsoddiad. Gan fy mod i’n ddi-waith ar y pryd, roeddwn i’n gallu cael gafael ar y Grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes a oedd yn caniatáu i mi ymuno â chyrsiau creu wigiau arbenigol a phrynu’r offer roedd ei angen arnaf yn y salon.
Er mai nod Anastasia drwy’r amser oedd sicrhau bod cleientiaid yn gallu cael gafael ar atebion fforddiadwy ar gyfer colli gwallt, mae cyllid yn aml yn bryder gwirioneddol i lawer o bobl sy’n brwydro yn erbyn cyflyrau fel canser.
Diolch byth, roedd arbenigwyr Busnes Cymru wrth law i helpu’r steilydd i lywio drwy brosesau caffael i sicrhau bod cleifion y GIG yn gallu cael gafael ar ei gwasanaethau mewn ffordd fforddiadwy. Roedd y cymorth un-i-un a ddarparwyd gan Elgan Richards, Cynghorydd Busnes Cymru, yn galluogi Anastasia i baratoi a chyflwyno tendrau llwyddiannus drwy GwerthwchiGymru ac eDendroCymru i fod yn gyflenwr GIG Cymru. O ganlyniad, gellir rhoi talebau ar bresgripsiwn i gleifion i helpu i dalu am gostau wigiau.
Dywedodd Elgan Richards, Cynghorydd Busnes Cymru:
Mae’n gamsyniad cyffredin bod contractau’r sector cyhoeddus y tu hwnt i gyrraedd busnesau bach, ond mae Scarlett Jack Hairitage yn profi nad yw hyn yn wir. Rydym yn falch o fod wedi helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rwy’n gobeithio y bydd llwyddiant Anastasia yn ysbrydoli busnesau eraill i archwilio sut y gallant ddilyn ei hesiampl.
Mae Scarlett Jack Hairitage, a ysbrydolwyd gan ddau blentyn Anastasia, yn cynnig profiad cwbl bersonol i gleientiaid. Ar ôl ymgynghoriad cychwynnol, gall cwsmeriaid ddewis lliw, toriad a steil eu wig, neu ddewis wig stoc parod sydd ar gael yn y salon. Mae’r ddau ddewis yn caniatáu i gleientiaid ddod yn ôl ar gyfer gwaith cynnal a chadw rheolaidd, neu doriadau. Mae’r wigiau sy’n rhan o wasanaeth personol y cwmni yn cael eu gwneud gan Anastasia gan ddefnyddio gwallt dynol 100% o ffynonellau moesegol.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i www.businesswales.gov.wales/cy