BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Entrepreneur yn gwreiddio’i fusnes mewn arcêd poblogaidd yng Nghaerdydd

Harry Thorpe of Plant and Pot

Mae cyw-entrepreneur o Gaerdydd yn credydu ei fis cyntaf o dwf cyflym mewn gwerthiannau i’r cymorth a gafodd gan Fusnes Cymru ar ôl cymryd awenau busnes planhigion poblogaidd.

Ym mis Ionawr 2024, llwyddodd Harry Thorpe, oedd wedi graddio o Brifysgol Caerdydd â gradd Dylunio Pensaernïaeth, i brynu Plant and Pot, siop planhigion cartref annibynnol yn Arcêd Brenhinol Caerdydd.

O fewn mis ar ôl llofnodi’r contract, roedd Harry wedi cynyddu gwerthiannau 36%, treblu ei ffrwd refeniw trwy ychwanegu mwy nag 20 o gynhyrchion newydd i’r siop, ac wedi cyflogi dau weithiwr newydd.

Diolch i Ymgynghorydd Busnes Cymru, Shayne Yates, a helpodd i negodi gostyngiad o dros chwarter yn y pris gofyn, bu modd i Harry ail-fuddsoddi arbedion pum ffigur nôl er mwyn ail-lansio Plant and Pot, gan arwain at gynnydd sylweddol yn elw’r mis cyntaf.

Wrth drafod Plant and Pot, dywedodd Harry Thorpe:

Rydw i wastad wedi rhyfeddu at allu’r ddinas i gynnal busnesau bach annibynnol. Mae’r siopau unigryw o frics a mortar wedi cronni at ei gilydd fel hyb annibynnol cydweithredol, ac mae pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd wrth eu bodd arnynt. Doeddwn i ddim wedi ystyried bod yn berchennog ar fy musnes fy hun nes i mi weld hysbyseb am berchennog busnes newydd ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae fy rhieni’n fuddsoddwyr brwd mewn busnesau, ac ar ôl pwyso a mesur y gwaith dilysrwydd dyledus, fe welson nhw fod Plant and Pot yn gyfle gwych i fuddsoddi ynddo, a buon nhw mor garedig â chynnig cefnogi fy menter. Rwy’n gwybod pa mor ffodus ydw i i gael y gefnogaeth ariannol yna; ond byddai caffael Plant and Pot a’i lwyddiant hyd yn hyn wedi edrych yn wahanol iawn heb gymorth Busnes Cymru, sydd wedi fy nghynorthwyo i roi cynllun busnes pum mlynedd ar waith yn ystod fy mis cyntaf mewn perchnogaeth.

Cyflwynwyd Harry i Busnes Cymru trwy Dîm Menter Prifysgol Caerdydd ar ôl sefydlu busnes dylunio pensaernïol, CAUKIN Studios, gyda’i gyd-fyfyrwyr ar y cwrs meistr yn 2016. Bu’r cymorth a gawsant gan arbenigwyr y gwasanaeth, gan gynnwys cymorth i ddatblygu cynlluniau busnes, sefydlu cwmni cofrestredig, a gwaith ymchwil manwl i dirwedd busnes Cymru, yn allweddol i lwyddiant parhaus y busnes hwnnw.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, wrth gychwyn ei fenter entrepreneuraidd nesaf ochr yn ochr â CAUKIN Studios, gofynnodd Harry am gymorth Busnes Cymru eto cyn caffael a dechrau’r trafodaethau i brynu Plant and Pot yn Awst 2023.

Cynorthwyodd Shayne, sydd â dros 26 mlynedd o brofiad fel ymgynghorydd busnes ac a lansiodd ei fwyty ei hun yn 2017, Harry trwy’r broses negodi a chontractio, gan gynnig cyngor ar bwyntiau ymatal a gohebu â’r tîm cyfreithiol a chyfrifeg.

Ers caffael y busnes, mae Shayne wedi parhau i gynorthwyo Harry i ddatblygu amrywiaeth o gynlluniau busnes newydd er mwyn hybu gwerthiannau a dod â rhagor o arian i’r busnes, gan gynnwys ail-frandio’r siop yn llwyr, a lansio gwefan e-fasnachu ryngweithiol sy’n agor ffrwd gwerthu ar lein newydd.

Wrth drafod cefnogaeth Busnes Cymru, dywedodd Harry:

Mae prynu busnes a’i lansio o’r newydd yn broses ymestynnol dros ben, yn arbennig os ydych chi’n gwneud y cyfan ar eich pen eich hun. Fydden i ddim yn yr un sefyllfa gadarn rydw i ynddi heddiw heblaw am arweiniad a phrofiad byw Shayne. Cynorthwyodd ei ddirnadaeth fel cynghorydd busnes ac entrepreneur fi i arbed ac ailfuddsoddi er mwyn hybu twf Plant and Pot ar unwaith.

Mae llawer o entrepreneuriaid yng Nghymru’n straffaglu’n ddiangen, naill ai am nad ydyn nhw’n ymwybodol o’r cymorth, neu am eu bod nhw’n tybio ar gam nad ydyn nhw’n gymwys i gael y cymorth anhygoel sydd ar gael iddynt. Gall Busnes Cymru eich cyflwyno chi i amrywiaeth eang o ymgynghorwyr a phobl fusnes â gwybodaeth arbenigol a phrofiad personol mewn nifer o ddiwydiannau. Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried dechrau eu menter eu hunan i archwilio sut y gall y gwasanaeth eu cynorthwyo nhw.

Dros y misoedd nesaf, bydd gweithdai ar gael i’w bwcio ar lein. Dim ots a ydych chi’n grŵp sgowtiaid, yn fusnes, yn elusen iechyd meddwl, yn ysgol, yn siop goffi, yn fanc neu’n arddwr brwd, cewch fwcio gweithdy awr o hyd lle bydd aelod o dîm Plant and Pot yn gallu’ch helpu chi i greu eich dyluniad botanegol eich hun a fydd yn eich cyflwyno i fanteision garddwriaeth i’ch iechyd a’ch lles. 

Wrth drafod llwyddiant Plant and Pot, dywedodd Shayne Yates:

Mae yna gamganfyddiad cyffredin bod ein gwasanaethau ar gyfer busnesau sydd wedi hen sefydlu a busnesau newydd yn unig, ond nid yw hynny’n wir. Mae arbenigwyr Busnes Cymru yma i gynorthwyo unrhyw fusnes, entrepreneur neu bobl sy’n ymchwilio i fenter fasnachol yng Nghymru.

Mae’r gallu i gael arweiniad arbenigol diduedd yr un mor hanfodol wrth geisio caffael busnes ag y mae wrth geisio lansio busnes newydd neu dyfu menter sy’n bodoli eisoes. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Harry i brynu Plant and Pot a’i gynorthwyo i adfywio’r busnes â syniadau newydd sydd wedi arwain at dwf mewn gwerthiannau bron ar unwaith, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i dyfu hefyd.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru.  I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.