BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Eve L’Amour

Eve L’Amour

Ar ôl gweithio o adref fel therapydd harddwch am sawl blwyddyn, penderfynodd Elen Samuel fod arni eisiau gwireddu ei breuddwyd o agor ei salon harddwch ei hun.

Gyda chymorth Busnes Cymru, lansiodd Elen ei salon, Eve L’Amour, yn Ebrill 2018 ym Margoed, gan gynnig ystod lawn o therapïau harddwch, yn cynnwys trin dwylo, trin traed, triniaethau i’r wyneb, blew llygaid (lled-barhaol a chyflym), cwyro, ewinedd, microdermabrasion, colur a phartïon pampro.

O ganlyniad i lwyddiant sefydlu’r busnes, mae Elen eisoes wedi cyflogi ei chyflogai llawn amser cyntaf.

Beth ddaru nhw

Pan ddynododd Elen leoliad posibl ar gyfer ei siop ar stryd fawr Bargoed a chael amcangyfrifon ar gyfer ei adnewyddu, fe gysylltodd â Busnes Cymru i drafod ei syniad busnes ymhellach a chael cefnogaeth i’w droi yn gynnig busnes hyfyw.

Cynhaliwyd diagnosteg busnes gan ei chynghorydd, Eve Goldsbury, ynghyd â thrafod pob agwedd ar syniad Elen a datblygu cynllun gweithredu i gefnogi’r fenter, a arweiniodd at lansiad llwyddiannus ei salon harddwch.

Ers ei lansio, mae’r salon wedi bod yn mynd o nerth i nerth, ag Elen yn awr ar fin cyflogi ei hail gyflogai. Mae hi hefyd yn ymgymryd â hyfforddiant pellach er mwyn ennill cymwysterau ychwanegol a chynyddu’r triniaethau harddwch sydd ar gael.  

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

“Dylwn fod wedi cael amcangyfrifon pris sefydlog ar gyfer y gwaith adnewyddu gan i mi gytuno ar gontract cyfradd dydd a aeth dros fy nghyllideb.”

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

“Pan fydd pobl yn gofyn i mi pwy sy’n berchen ar y siop ac i bwy rwy’n gweithio – gallaf ddweud gyda balchder mawr taw fi sy’n berchen ar y salon a’r busnes.   

Rwy’ hefyd yn falch iawn o’r ffaith ’mod i wedi cyflawni hyn i gyd ar ben fy hunan heb unrhyw brofiad blaenorol o agor siop, cyflogi pobl a rhedeg busnes.”

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Wedi cefnogi Elen gyda’i syniad busnes, rhoddodd ei chynghorydd Busnes Cymru, Eve Goldsbury, gymorth pellach iddi ddatblygu ei chynllun busnes, amcanestyniadau ariannol a rhagolygon llif arian. Cefnogodd hyn gais am fenthyciad sefydlu busnes a galluogi Elen i gael gafael ar £15,000 tuag at gostau adnewyddu a phrynu offer salon.

Wedi helpu Elen gyda’i lansiad, aeth Eve ymlaen i helpu’r entrepreneur gyda’i chynllun marchnata, polisi prisio, treth a chadw llyfrau, a hefyd gyda materion recriwtio a chytundebau cyflogaeth i gyflogai cyntaf Elen.

Cyngor Dda

Dyma brif gynghorion Elen i unrhyw un arall sy’n awyddus i gychwyn neu dyfu ei fusnes ei hun:

  • sicrhewch eich bod yn prosiect-reoli pob agwedd ar lansio busnes
  • dychmygwch y cynnyrch terfynol a chael syniadau pendant ac eglur iawn ynghylch golwg a gwerthoedd y busnes
  • ceisiwch gymaint o gyngor a chefnogaeth â phosibl

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.