BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Excell Rail

Excell Rail

Gwelliannau cynaliadwyedd sylweddol i gwmni recriwtio gweithwyr rheilffordd yn ne Cymru.

Mae Excell Rail, sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd, de Cymru, yn ddarparwr gwasanaethau recriwtio annibynnol. Mae'n arbenigo yn y sectorau rheilffyrdd, adeiladwaith a phriffyrdd ac yn cynnig dull gweithredu diogel, cost-effeithiol, dibynadwy ac onest ar gyfer recriwtio.

Cafodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Daniel Dummer gyngor ac arweiniad arbenigol ar faterion cynaliadwyedd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, a arweiniodd at welliannau sylweddol yn effeithlonrwydd o ran adnoddau'r busnes.

  • wedi cyflawni gostyngiad o 50% yn y defnydd o danwydd ac allyriadau carbon
  • wedi datblygu cadwyn gyflenwi sy'n 100% lleol ac wedi'i chymeradwyo

Cyflwyniad i'r busnes

Mae Excell Rail, a gafodd ei sefydlu ym Mhontypridd yn 2009 gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Daniel Dummer, yn ddarparwr gwasanaethau recriwtio annibynnol. Mae'n cynnig datrysiadau recriwtio dros dro a pharhaol yn y sector rheilffyrdd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol y diwydiant, llafur ar y cledrau, staff diogelwch a rhybuddio critigol, ymysg eraill.

Cymorth Busnes Cymru

Aeth Daniel at Busnes Cymru i ddechrau mewn gweithdy Hanfodion AD a Chynaliadwyedd wedi'i ariannu'n llawn. Ar ôl cael rhagor o gymorth cynaliadwyedd gan gynghorydd arbenigol, Paul Carroll, ymrwymodd Daniel i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru lle gwnaeth adnabod 8 maes blaenoriaeth allweddol i'r busnes ac addewid o 19 o gamau y mae angen eu cymryd i wella.

Yn dilyn ymgysylltiad â Busnes Cymru, llwyddodd Excell Rail i:

  • leihau costau a gwella gwytnwch
  • gwella ei broffil marchnata a thendro drwy ddangos arferion cynaliadwyedd da

Canlyniadau

  • cymorth gyda chynaliadwyedd ac ymrwymiad i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru i ymgymryd ag unrhyw welliannau cynaliadwyedd
  • gostyngiad o 50% yn y defnydd o danwydd ac allyriadau carbon mewn perthynas â thrafnidiaeth
  • wedi datblygu cadwyn gyflenwi sy'n 100% lleol i helpu'r economi leol a lleihau milltiroedd teithio yn ogystal â'r ôl-troed carbon a gynhyrchir gan logisteg sydd ynghlwm â chadwyn gyflenwi
  • uned symudol i wirio iechyd a lles staff, yn cynnwys profi am gyffuriau ac alcohol

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae Daniel yn awyddus i ddatblygu'r busnes ymhellach ac yn derbyn cymorth Busnes Cymru gyda thendro, gweithdai a marchnata digidol/cyfryngau cymdeithasol drwy Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.