BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ffotograffiaeth Foulkes

Ffotograffiaeth Foulkes Photography

Fe wnaeth entrepreneur o Wynedd droi diswyddiad oherwydd Covid-19 yn fusnes ffotograffiaeth newydd sbon gyda chymorth Busnes Cymru

Manteisiodd Ryan Foulkes ar y cyfle i ddechrau ei fusnes ei hun ar ôl cael ei ddiswyddo oherwydd Covid-19. Gweithiodd gyda gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar bob agwedd ar fod yn hunangyflogedig a llwyddodd i sicrhau cyllid i lansio Ffotograffiaeth Foulkes , gan gynnig ystod eang o wasanaethau ffotograffiaeth.

  • Dechrau llwyddiannus yn ystod Covid-19
  • 1 swydd wedi'i chreu
  • Benthyciad cychwyn o £5,500 wedi'i sicrhau

Cyflwyniad i’r busnes

Wedi'i leoli ym Mhenygroes, Gwynedd, dechreuodd Ryan Foulkes Ffotograffiaeth Foulkes , gan arbenigo mewn chwaraeon, aero, astro a ffotograffiaeth tirwedd, gyda chynlluniau i gamu i mewn i’r farchnad ffotograffiaeth priodas ar ôl y pandemig.

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Dechreuais fy musnes fy hun ar ôl colli fy swydd ym mis Awst. Roeddwn wedi cael digon o weithio i gwmnïau a oedd yn eich trin fel rhif, felly penderfynais gymryd y naid a gwneud rhywbeth rwy'n ei fwynhau. Dywedais wrthyf fi fy hun: os nad wyf am ei wneud yn awr, ni wnaf fi byth dorri'r cylch.

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Fe wnes i wynebu ychydig o heriau, gan gynnwys cael benthyciad cychwyn busnes, a gymerodd amser i ddwyn ffrwyth. Ar ôl i mi sicrhau'r benthyciad, gallwn brynu drôn drud ac offer swyddfa. Cefais gyllid hefyd gan raglen ReAct Gyrfa Cymru i wneud cais am drwydded drôn, y mae arnaf ei hangen ar gyfer gweithrediadau masnachol. Rydw i wrthi'n gwneud y drwydded.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Ryan â Busnes Cymru am gymorth i ddod o hyd i gyllid i ddechrau ei fusnes ffotograffiaeth ei hun. Roedd am brynu drôn, cyfrifiadur wedi'i adeiladu'n bwrpasol yn ogystal ag offer swyddfa arall.

Helpodd Anwen Owen, ymgynghorydd busnesau newydd Busnes Cymru, Ryan i greu cynllun busnes a rhagolwg llif arian hyfyw ar gyfer y fenter newydd. Rhoddodd gyngor ar sut i fod yn hunangyflogedig a chefnogodd Ryan gyda'i gais am fenthyciad, gan ei alluogi i sicrhau benthyciad cychwyn busnes o £5,500 i ddechrau'r busnes a chreu swydd amser llawn iddo'i hun.

Canlyniadau

  • Dechrau llwyddiannus yn ystod Covid-19
  • 1 swydd wedi'i chreu
  • Benthyciad cychwyn o £5,500 wedi'i sicrhau

Helpodd Anwen yn aruthrol. O'r dechrau i dderbyn y benthyciad, mae wedi bod yn help enfawr a dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael gwynt dan fy adain hebddi. Fe wnaeth fy helpu gyda'm cynllun busnes, rhagolwg llif arian ac yna cyflwyno'r cais am fenthyciad. Fel dechreuwr heb unrhyw brofiad hunangyflogedig blaenorol, fe wnaeth Anwen y cyfnod pontio gymaint yn haws!

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Fy mwriad yw ehangu ochr ffotograffiaeth o'r awyr y busnes, gan symud yn y pen draw i waith fideograffeg i gwmnïau teledu ledled Gogledd Cymru sydd angen lluniau drôn. Rwyf hefyd yn awyddus i fynd i mewn i'r byd ffotograffiaeth priodas ar ôl i Covid-19 ddod i ben. Byddaf hefyd yn llogi fy hun allan gyda'r drôn i gwsmeriaid personol sydd angen ffilmio eiddo a digwyddiadau.

Os ydych am ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu ddilyn @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.