BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Fussy

Fussy

Siop fintej yn agor ei drysau yn y Barri gyda chymorth gan Busnes Cymru a'r Grant Rhwystrau.

Cyflwyniad i'r busnes

Mae Fussy yn siop fintej newydd wedi'i lleoli mewn cerbyd trên wedi'i adfywio yn y Goodsheds yn y Barri. Lansiwyd y siop gan Yvette Clark, ac mae'n cynnig darnau fintej unigryw wedi'u hysbrydoli gan y 70au, 80au a'r 90au. Mae'n gwerthu dillad, nwyddau tŷ, gemwaith ac ategolion.

Mae Fussy yn ymfalchïo mewn ysbrydoli hunaniaeth mawn ffordd ffasiynol a chynaliadwy, ac yn cyflwyno syniad o sopia yn arafach, gan gynhyrchu llai a defnyddio'r hyn sydd wedi cael ei wneud eisoes.

Cymorth Busnes Cymru

Cymerodd Yvette ran yn y weminar 'Dechrau a Rhedeg Eich Busnes Eich Hun', ac ar ôl hynny, gweithiodd ar ei chynllun busnes a rhagolygon ariannol gyda'n hymgynghorydd, Hywel Bassett.

Darparodd Hywel gyngor ar gostau dechrau busnes, marchnata a gofynion ariannu, a chynorthwyo Yvette gyda'i chais llwyddiannus am Grant Rhwystrau Busnes Cymru gwerth £2,000.

  • Wedi dechrau'r busnes yn llwyddiannus
  • Creu 1 swydd
  • Sicrhau £2,000 gan y Grant Rhwystrau ar gyfer prynu stoc ac offer
  • Cofrestru i Addewid Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru i sicrhau bod Fussy yn gweithredu mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol

Cawsom sgwrs gydag Yvette i ddysgu mwy am ei thaith busnes newydd a'i dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Rwyf wedi bod eisiau rhedeg fy siop fy hun erioed, a pheidio â gorfod gweithio i neb. Ni feddyliais y byddai'n rhaid cael pandemig i hynny ddigwydd, ond dyma fi! A minnau'n wynebu colli fy swydd, cefais yr hwb i ddilyn fy uchelgais o werthu dillad fintej yn llawn amser. 

Nid wyf wedi gallu llwyddo i brynu a gwerthu dillad fintej a gwneud elw o ddarnau unigryw sy'n gynaliadwy ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd yn unrhyw rai o'r swyddi rwyf wedi eu cael. Rwy'n falch iawn fy mod wedi creu'r swydd hon i fi fy hun!

Pa heriau a wyneboch?

Efallai bod penderfynu agor siop fanwerthu yng nghanol pandemig, gyda'r sector manwerthu ar gau yn swnio'n hollol wallgof, ond roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi ddal ati ac aros yn bositif hyd nes fy mod yn gallu agor - wedi'r cyfan, ni allaf ddychmygu fy hun yn hapus yn gwneud unrhyw beth arall!

Roedd cael yr allwedd i fy siop yn gyffrous ac yn eithaf brawychus - sylweddolais fy mod wedi llofnodi contract i gael hen gerbyd trên yr oeddwn angen ei drawsnewid yn llwyr gydag addurniadau siop a stoc. Mae fy mathemateg yn wael, ac nid wyf wedi gallu cadw at gyllideb yn iawn erioed. Felly, ar ôl defnyddio'r holl arian roeddwn wedi'i gasglu a'm helw o'r hyn roeddwn wedi'i werthu ar-lein sylweddolais nad oedd hyn am fod yn hawdd, yn enwedig gan nad oeddwn yn gwybod pryd y gallwn agor fy nrysau.

Mae canolbwyntio ar farchnata, a cheisio hyrwyddo fy siop wedi bod yn her enfawr.

Fodd bynnag, mae dylunio gwefan a lansio fy siop ar-lein wedi gwneud effaith sylweddol yn barod. 

Sut mae ein hymgynghorwyr a Grant Rhwystrau Busnes Cymru wedi eich helpu chi i oresgyn y rhwystrau hyn?

Roeddwn yn gymwys i gael hyfforddiant ReAct fel rhan o'm ddiswyddiad. Ar ôl cwpl o gyrsiau, penderfynais lunio cynllun busnes ar gyfer fy siop fy hun a chysylltu â Business Wales.

Ar ôl cymryd rhan yn y weminar 'Dechrau a Rhedeg Eich Busnes Eich Hun', dechreuais roi fy nghynllun ar waith gyda chefnogaeth gan fy ymgynghorwr, Hywel Bassett, sydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth, ac sydd wedi darparu cymorth amhrisiadwy i mi ar hyd fy nhaith. Gyda'i help ef, fe ddisgynnodd popeth i'w le ac roedd bob amser ar gael i gynnig ei arbenigedd. Rwy'n edrych ymlaen at siarad gyda Hywel bob amser; mae wedi fy helpu i oresgyn yr holl bryderon a heriau rwyf wedi'u hwynebu. 

Mae cael y Grant Rhwystrau, sy'n helpu menywod mewn busnes yn benodol, wedi rhoi hwb enfawr i mi, a'r hyder i wneud fy siop yn fwy o lwyddiant. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfan.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rwyf wedi edrych ymlaen at agor, ac yn chwilfrydig i weld beth ddaw yn y dyfodol.

Rwy'n hapus i allu cynnig profiad siopa mor unigryw a chynaliadwy y gall cwsmeriaid ei fwynhau a dod o hyd i'w steil eu hunain.

Hoffwn ddenu mwy o gwsmeriaid na fyddai'n siopa dillad fintej fel arfer, a'u hannog nhw i gymryd agwedd arafach at siopa! Felly beth am ddilyn @fussyhome ar Instagram i edrych ar ein stoc diweddaraf a dod i'r siop yn y Goodsheds!

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.