BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Gwe-ddewin yn creu gwasanaeth i amddiffyn cwmnïau rhag y cynnydd mewn seiberymosodiadau

Martin Van Tongerlo from WebWizard

Wrth i’r byd seiber barhau i esblygu ar garlam, mae mwy o gwmnïau’n methu â’u hamddiffyn eu hunain rhag seiberelynion. Dyna pam fod peiriannydd diogelwch yn Sir Gâr wedi camu i’r adwy gan lansio gwasanaeth diogelwch i helpu cwmnïau ac elusennau i godi eu seiber-amddiffynfeydd.

Lansiodd Martin Van Tongerlo Web Wizardry a Cyber Sentinels yn Ionawr 2024 gyda chymorth Busnes Cymru. Wedi ei eni a’i fagu yn yr Iseldiroedd, graddiodd Martin â diploma addysg alwedigaethol TG o Goleg Summa yn Eindhoven yn 2016.

Mae Martin wedi datblygu sgiliau arbenigol yn rhaglenni’r cwmwl a diogelwch rhwydweithiau ers hynny, ac mae e wrthi nawr yn cyflawni ardystiadau i ddod yn Brofwr Hacio Rhwydweithiau Ymarferol (PNPT) ac yn Weithiwr Proffesiynol Ardystiedig Diogelu rhag Ymosodiadau (OSCP).

Ers lansio ei fusnes, mae Martin wedi bod yn gweithio gyda busnesau ac elusennau i gryfhau eu systemau diogelwch. Gan efelychu’r hyn y byddai haciwr go iawn yn ei wneud, mae Martin yn tapio i mewn i systemau diogelwch cleientiaid er mwyn cyflawni profion hacio sy’n dod o hyd i risgiau a gwendidau yn eu seilwaith TG a’u meddalwedd diogelwch.

Ar ôl cwblhau’r profion a chlustnodi unrhyw feysydd o wendid, mae Martin yn paratoi adroddiad manwl ar gyfer y cleient gan amlinellu’r gwendidau, unrhyw achosion lle gallai systemau diogelwch fod wedi cael ei hecsbloetio yn y gorffennol, a’r tebygolrwydd o hacio yn y dyfodol. Mae Martin yn mynd ati wedyn i helpu’r sefydliadau i gryfhau eu systemau seiberddiogelwch trwy gynnig gwasanaethau cydymffurfiaeth a rheoliadol, gan gynnwys gweithredu fframweithiau fel ISO27001 ac ISMS.

Dywedodd Martin: 

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod 75% o fusnesau, a bron i 80% o elusennau incwm uchel, wedi profi rhyw fath o seiberymosodiad yn y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaeth hynny i mi feddwl, os nad yw’r elusennau a busnesau hynod gyfoethog ac uchel eu proffil yma’n cyllidebu i ddiogelu eu systemau rhag seiberymosodiad, dychmygwch pa mor fregus yw busnesau bach ac elusennau. Roedd angen i mi gamu i mewn i helpu lle gallwn i.

Ar ôl clywed y newyddion yma, cafodd Martin ei ysbrydoli i lansio ei fusnes i gynorthwyo busnesau bach a chanolig ac elusennau i flaenoriaethu seiberddiogelwch trwy gynnig cymorth seiber darbodus ac effeithiol.
Ym mis Mawrth 2023, cysylltodd â Busnes Cymru i ofyn am arweiniad ar lansio ei fusnes.

Rhoddwyd yr arbenigydd seiber mewn cysylltiad â Graham Harvey, Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, a roddodd gymorth i Martin i ddatblygu cynllun busnes a chofrestru ei fusnes.

Trwy weminarau a gweithdai ar lein Busnes Cymru, y cyfeiriodd Graham Martin atynt, mae e wedi datblygu sgiliau entrepreneuraidd allweddol ym meysydd marchnata, y cyfryngau cymdeithasol a chyllid. 

Dywedodd Martin:

Gîc cyfrifiaduron ydw i, nid dyn busnes. Fe benderfynais i lansio fy musnes fy hun am fy mod i am helpu i gadw cwmnïau eraill yn ddiogel rhag seiberymosodiadau. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i mi fod yr entrepreneur gorau y gallaf i, neu fydd cwmnïau eraill ddim yn ymddiried ynof i.

Fel person mewnblyg iawn, does gen i ddim o’r nodweddion y byddai pobl yn eu disgwyl gan entrepreneur yn naturiol. Dyw estyn allan at bobl yn dod yn naturiol i mi, ond rhoddodd Graham yr hyder i mi trwy fy atgoffa’n barhaus am bwysigrwydd fy musnes a pham y dewisais i ei lansio.

Gyda chymorth parhaus Busnes Cymru, mae Martin bellach am recriwtio rhagor o brentisiaid i ymuno ag ef i helpu busnesau Cymreig i gryfhau eu seiberddiogelwch, ac mae’n gobeithio cael gweithio gyda rhagor o elusennau a busnesau yn y dyfodol agos.

Dywedodd yr Ymgynghorydd Busnes, Graham Harvey: 

Gofynnodd Martin am gymorth Busnes Cymru gyda’i ymgyrch i gynorthwyo busnesau ac elusennau bregus, ac mae ei ymroddiad i helpu pobl eraill yn sicr wedi bod yn drech na’i natur fewnblyg. Mae hi’n rhoi boddhad i mi weld sut y mae e wedi cymryd fy nghyngor ac arweiniad, ynghyd â’r sgiliau a ddysgodd trwy weminarau a gweithdai, a’u defnyddio i hybu ei hyder. Mae hi wedi bod yn wych gweld Martin yn tyfu cwmni a sefydlwyd i amddiffyn pobl eraill, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cefnogi ei fenter ymhellach.


Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru.  I gael rhagor o wybodaeth a chymorth i’ch helpu chi i oresgyn rhwystrau a datblygu eich busnes ymhellach, ac i siarad ag arbenigwyr o’r diwydiant ac ymgynghorwyr, cysylltwch â Busnes Cymru.

Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg - we welcome calls in Welsh. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.