BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Handcrafted Leather

Hobi sydd wedi troi'n fusnes i entrepreneur o Ogledd Cymru sy'n creu cynnyrch lledr o safon, â llaw.

Lansiwyd Handcrafted Leather, sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, yn 2019 gan Mike Reid. Mae'r busnes, a gychwynnodd fel hobi, yn arbenigo mewn creu cynnyrch lledr  â llaw, mewn ffordd gynaliadwy, gan ddefnyddio sgiliau a thechnegau traddodiadol. Cafwyd cymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru drwy weithdai a chymorth cynghorol un i un i gefnogi Mike wrth iddo gychwyn ei fusnes.

  • cychwyn yn llwyddiannus ar ôl mynychu gweithdai a cheisio cyngor
  • creu 1 swydd
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes

Cyflwyniad i'r busnes

Lansiwyd Handcrafted Leather yn 2019 yn Sir y Flint gan Mike Reid i gynnig cynnyrch lledr wedi eu gwneud yn gynaliadwy â llaw, gan ddefnyddio sgiliau a thechnegau traddodiadol. Sefydlwyd Handcrafted Leather gan fod Mike â diddordeb mawr mewn creu cynnyrch â llaw ac roedd ganddo bum mlynedd o brofiad o ddysgu am grefft draddodiadol gwaith lledr. Mae'r busnes wedi ei leoli mewn gweithdy a adeiladwyd o goed wedi eu hailgylchu a'u haddasu.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Cefais fy magu yn gwylio John Wayne a ffilmiau Cowbois Eidalaidd, a chefais fy ysbrydoli'n greadigol gan y cerfwaith a boglynnu manwl ar rai o'r beltiau gwn, a'r gweiniau bwyelli a chyllyll. Ond nid oeddwn yn gallu cyfiawnhau gwario cymaint arnynt! Felly, cychwynnais greu fy nghynnyrch fyn hun yma ac acw. Yna, byddai pobl yn gofyn i mi wneud rhywbeth ar gyfer ffrind, neu atgyweirio rhywbeth, ac mae'r galw wedi cynyddu a lleihau dros gyfnodau am rai blynyddoedd.

Y llynedd, bu i mi a'm teulu fynd i ŵyl, a chefais gyfarfod â chrefftwyr o bob rhan o'r DU, ac roeddwn wrth fy modd. Roeddwn yn rhyfeddu at eu dewrder a'u hangerdd i rannu eu gwaith a'u gwybodaeth, yn ddiymhongar bob amser. Gwnaethant fy ysbrydoli i roi mwy o amser i rywbeth rwy'n ei fwynhau ac yn ei garu, y peth sydd wedi bod ar goll, ond heb wybod beth yn union oedd hyn.

Es i gartref i Benarlâg wedi'r penwythnos hwnnw, yn orlawn o syniadau. Roeddwn wedi penderfynu: pan fydda i'n fawr, rwyf eisiau bod yn grefftwr lledr.

Pa heriau a wyneboch?

Mae'n debyg mai'r rhan fwyaf heriol o droi syniad yn fusnes oedd bod yn hunangyflogedig. Mae siarad amdano gyda phobl eraill yn ei wneud yn fwy gwir, yn rhoi bywyd iddo. Nid wyf yn ei wneud yn llawn amser eto, mae gennyf 3 mis ar ôl gyda'm cyflogwr, ond rwyf wedi cynllunio hyn yn strategol er mwyn cynnal y busnes yn ystod misoedd tawel ar gychwyn 2020.

Roedd fy sgôr credyd gwael yn fy atal rhag cysylltu â rhai cwmnïau benthyciadau cychwyn busnes, yn enwedig os dim ond cyfrifiadur neu lais ar y ffôn sy'n penderfynu. Roedd cwrdd â'r tîm [Busnes Cymru] yn Wrecsam, a chael sgwrs dros goffi yn gwneud byd o wahaniaeth, a rhoddodd obaith i mi barhau â'r syniad.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Mike â Busnes Cymru gan ei fod eisiau troi ei hobi o greu cynnyrch lledr yn fusnes dichonadwy. Wedi gweithio gyda lledr dros y blynyddoedd diwethaf, yn creu cynnyrch iddo'i hun ac i ffrindiau, roedd ganddo'r profiad ond nid oedd ganddo sgiliau busnes i wireddu'r freuddwyd.

Ar ôl mynychu gweithdy cychwyn busnes oedd yn ymdrin â'r sgiliau sylfaenol ac ymarferol er mwyn dod yn entrepreneur, datblygodd Mike yr hyder i fynd amdani ac fe gafodd gymorth cynghorol pellach, gan gynnwys cyngor ar ei gynllun busnes, rhagamcanion ariannol, cael gafael ar gyllid, treth a gweinyddu busnes.

Canlyniadau

  • cychwyn yn llwyddiannus ar ôl mynychu gweithdai a cheisio cyngor
  • creu 1 swydd
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes

Roedd fy nghynghorwr Lee Stephens yn arbennig! Roedd yn gallu fy helpu a fy nghynghori ar bob cam, hyd yn oed gyda gosod cynllun busnes mewn modd proffesiynol ar gyfrifiadur! Gallaf wneud llawer o bethau gyda phob math o ddeunyddiau, ond rwyf ar goll o flaen cyfrifiadur! 

Roedd bob amser yn gyfeillgar, yn llawn anogaeth ac yn onest yn ein cyfarfodydd. Nid oes cynghorwr mwy cymwynasgar yn bodoli! 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Ar ôl derbyn yr holl gymorth gwych, rwyf bellach wedi derbyn y benthyciad cychwyn busnes yn llwyddiannus, ac rwy'n adeiladu fy nghasgliad o offer a deunyddiau gydol oes, yn ogystal â buddsoddi mewn hyfforddiant pellach gwerthfawr mewn crefft lledr a phresenoldeb mwy proffesiynol ar-lein. Rwy'n gobeithio bydd fy ngwefan newydd yn fyw erbyn canol mis Ionawr, gyda'r posibilrwydd o ddefnyddio siopau eraill ar-lein hefyd. 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.