Fe wnaeth Busnes Cymru fy helpu i ddechrau fy musnes gofal personol fy hun. Fe wnaethon nhw fy helpu bob cam o’r ffordd, gan gynnwys fy nysgu i sut i redeg busnes llwyddiannus drwy eu cyrsiau ar-lein. Roedden nhw wrth law i ateb y llu o gwestiynau oedd gennyf ynglŷn â sefydlu busnes yng Nghymru gan fy mod yn wreiddiol o Wlad Thai ac fe wnaethon nhw fy helpu i fagu hyder er mwyn dechrau arni.
Mae’r busnes hwn wedi fy ngalluogi i reoli fy amser i weithio o amgylch fy nyletswyddau fel mam ac roedd Busnes Cymru’n hanfodol yn y broses hon. Fe wnaethon nhw fy nghynorthwyo i greu swydd o amgylch fy niddordeb brwd mewn helpu pobl sydd hefyd wedi fy helpu i gefnogi a threulio amser gwerthfawr gyda fy nheulu.
Roedd Sasiprapa Scobie, a gydnabyddir fel “Eye”, wedi gallu dechrau ei menter gymunedol ei hun, Hawthorn Support Services, gwasanaeth gofal personol, ar ôl llwyddiant ei chais am y Grant Rhwystrau rhag Dechrau.
Mynychodd Eye ein gweminar lle cafodd wybodaeth a chyngor ar nifer o destunau yn cynnwys cynllunio ariannol a busnes ac ymchwil i’r farchnad.
Yn dilyn y weminar, cafodd sawl cyfarfod 1 i 1 â chynghorydd busnes a helpodd hi i deimlo’n ddigon hyderus a gwybodus i wneud cais am y grant ac i ddechrau ei busnes.
Mae’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau wedi talu am nifer o eitemau sydd wedi’i helpu hi’n fawr gyda chyfathrebu a chydymffurfiaeth.
Ar ôl trafodaethau gyda’i chynghorydd busnes, mynegodd Eye pa mor bwysig oedd y grant a’r cymorth iddi wrth ddechrau ei busnes ei hun, ac mae’n awyddus i eraill wybod bod yr hyn mae hi wedi’i gyflawni yn bosib iddynt hwythau hefyd.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i Hanes llwyddiant | Busnes Cymru (gov.wales) neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.