BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Hyfforddiant Busnes Cymru’n cynorthwyo twf cadarn cwmni ffitrwydd cymunedol

Siôn Ridgeway

Mae cwmni ffitrwydd arobryn sy’n gweithredu yn Abertawe a Chastell-nedd wedi priodoli ei dwf o 20% i’r cymorth a gafodd gan Busnes Cymru i ddatblygu ei gynllun busnes a darparu mentora parhaus.

Sylfaenydd a gweithredwr SAVAGE DanZfit yw Siôn Ridgeway sy’n 50 oed, ac mae’r cwmni’n cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd fel rhaglenni ffitrwydd Zumba®, Aqua Zumba®, a Strong Nation™  ar gyfer oedolion a phlant.

Hyfforddodd Siôn fel dawnsiwr proffesiynol, ond ar ôl iddo ddioddef strôc yn 2015, daeth ei angerdd am ddawnsio’n angor iddo, a dyma oedd y cymhelliant y tu ôl i’w fusnes dawnsio helaeth.

Yn ystod ei gyfnod yn ymadfer yn yr ysbyty, dangosodd ffrind oedd wedi dod i ymweld â Siôn fideos o gyflwynwyr yn arwain dosbarthiadau meistr ffitrwydd i gynulleidfa fawr iddo. Cafodd Siôn ei ysbrydoli gan y fideos, a rhoddodd hyn yr angerdd iddo weithio i adfer ei symudedd fel y gallai gychwyn arni.

Ar ôl cyfnod ymadfer digon ymestynnol, roedd Siôn yn benderfynol. Llwyddodd i ennill yr ardystiadau gofynnol a mynychodd arddangosiadau ffitrwydd er mwyn magu ei nerth a llunio ei raglen ei hun. Dechreuodd hybu ymgyrch i frwydro yn erbyn gordewdra mewn plant trwy gynnal gweithdai mewn ysgolion yn ystod y cyfnod hwn hefyd.

Wrth siarad am ddyddiau cynnar ei fusnes, dywedodd Siôn:

Fe ddechreuais i redeg ‘Zumba® gyda Siôn’ yng nghampfeydd yr awdurdodau lleol ac fel dosbarthiadau annibynnol. Wrth adeiladu fy mrand, fe welais i gysylltiad yn datblygu gyda’r gymuned leol a llawer o bobl yn dangos gwir ddiddordeb mewn aelodaeth tymor hir.

Gyda chymaint o ddiddordeb cynnar annisgwyl, roedd Siôn yn teimlo bod ar ei gwmni angen system drefnus i adeiladu ar y llwyddiant cychwynnol yma, felly cysylltodd â Busnes Cymru.

Cynorthwyodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Shahid ul Islam, yr hyfforddwr i lunio cynllun busnes, ac argymhellodd gyrsiau rheoli busnes, creu gwefan a strategaethau rheoli iddo.

Ym mis Medi 2022, cynorthwyodd Shahid Siôn i lunio cais llwyddiannus am y Grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes. Galluogodd y cyllid iddo gynnal dosbarthiadau dawnsio mwy a chyflwyno rhagor fyth o gleientiaid i gymuned SAVAGE DanZfit.

Ers lansio yn 2021, mae SAVAGE DanZfit wedi ehangu gymaint ei fod bellach yn gweithredu mewn naw canolfan gymunedol gwahanol ar draws Abertawe, ac yn ymweld ag ysgolion lleol i gyflwyno gweithdai arbenigol i blant dan arweiniad gwraig Siôn, Kim Ridgeway.

Esboniodd Siôn:

Pan ddechreuais i fy rhaglen yn wreiddiol, roeddwn i’n arwain bron i 28 o ddosbarthiadau’r wythnos, roddwn ni’n cyflwyno rhaglenni mewn ysgolion hefyd er mwyn helpu i hybu arferion a ffordd iach o fyw ymysg y plant. Roedd hi’n dipyn o frwydr darparu ar gyfer y galw ar fy mhen fy hun, felly er mwyn lleddfu rhywfaint ar y pwysau yna, roeddwn i am ehangu’r tîm a rhoi mwy o strwythur proffesiynol i’r busnes.

Roeddwn i wastad wedi bod eisiau rhedeg fy musnes fy hun, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau - dyna ble ddaeth Shahid i mewn. Rhoddodd gymorth i mi osod sylfeini SAVAGE DanZfit trwy lunio cynllun busnes, a rhoddodd gyngor i mi ddarparu gwasanaeth mwy cyflawn.

Diolch i Busnes Cymru, mae SAVAGE DanZfit wedi cynyddu nifer ei aelodau llawn-amser o 40 i 865, a maint cyfartalog dosbarth yw 100 o gyfranogwyr. Mae enw da a llwyddiant y cwmni wedi denu aelodau newydd i’r tîm hefyd. Ymunodd yr hyfforddwraig ran-amser, Rachel Williams, â’r cwmni yn 2023, ac erbyn hyn mae hi’n dysgu ei dosbarthiadau ei hun o fewn y brif raglen. 

Wrth drafod llwyddiant SAVAGE DanZfit, dywedodd Shahid ul Islam, Ymgynghorydd Busnes Cymru:

Mae Siôn yn wir esiampl o sut y gall gwaith caled ymroddgar, ynghyd â chymorth arbenigol a hyfforddiant, greu busnes.

I lawer o bobl, rwy’n siŵr bod y sialensiau sydd ynghlwm wrth adfer yn dilyn strôc yn ddigon anodd, ond mae penderfyniad Siôn nid yn unig i adfer ei ffitrwydd, ond i addasu a sianelu ei egni er mwyn lansio cwmni mewn diwydiant newydd hefyd, yn wirioneddol anhygoel.

Mae hi wedi bod yn bleser helpu Siôn a’i dîm i greu busnes y mae cymaint o alw amdano, ac rwy’n ddiolchgar ein bod ni’n gallu parhau i gefnogi ei dwf.

Mae SAVAGE DanZfit wedi ennill nifer o wobrau, gan guro cwmnïau cenedlaethol i’r brig yng Ngwobrau Ffitrwydd Cymru a’r DU - gan gynnwys Hyfforddai y Flwyddyn, y Wobr am Gyflawniad Arbennig, a’r Wobr am Gysylltiad Cymunedol.

Mae’r cwmni ffitrwydd yn cael cyngor pellach gan Busnes Cymru, ac mae Siôn yn gobeithio y bydd hyn yn galluogi iddo ddiogelu ei le ei hun fel y gall gyflwyno rhagor o ddosbarthiadau er mwyn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg, neu ewch i Hafan | Busnes Cymru (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.