BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Integrated Fencing

Integrated Fencing

Buddsoddiad sylweddol i fusnes ffensio newydd gyda diolch i gefnogaeth gan Busnes Cymru.

Cafodd Integrated Fencing ei lansio yn 2020 yn Abercynon er mwyn darparu cynnyrch ffensio diogelwch i sefydliadau'r sector preifat, masnachol a chyhoeddus ledled y DU. Cysylltodd y cyfarwyddwyr Scott, Hywel a Richard â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i geisio cyngor cychwynnol yn ogystal â chymorth i ddod o hyd i'r cyllid cychwynnol angenrheidiol.

  • roedd hyn yn cynnwys cymorth Rheoli Cysylltiadau gyda chynllunio busnes, sefydlu cwmni a rheolaeth ariannol
  • cymorth i sicrhau cyllid drwy Fanc Datblygu Cymru, Cwmni Benthyciadau i Gychwyn ac UK Steel.
  • sicrhau buddsoddiad o £150,000
  • lansio'n llwyddiannus

Cyflwyniad i'r busnes

Gyda chyfanswm o dros 50 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ffensio diogelwch, sefydlodd Scott Thomas, Hywel Davies a Richard Salmon y cwmni Integrated Fencingym mis Chwefror 2020. Mae'r busnes yn cynnig ystod gynhwysfawr o ddatrysiadau ffensio, giatiau a dodrefn stryd gan gynnwys giatiau unigryw, ffensys diogelwch, estyniadau ffensio, ffensys acwstig a giatiau awtomatig, ymhlith eraill.

Pam wnaethoch chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun?

Roeddwn wedi gweithio i gwmni am nifer o flynyddoedd, ac wedi datblygu cymaint ag y gallwn yno.  Felly, penderfynais mai'r cam nesaf i wella fy hun oedd cychwyn busnes gyda rhai o'm cydweithwyr.

Pa heriau a wyneboch?

Y rhwystr mwyaf oedd cael y cyfalaf gweithio er mwyn cychwyn y busnes a phrynu deunyddiau ar gyfer y prosiectau cyntaf.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd tîm Perimeter â Busnes Cymru i geisio cymorth gyda chychwyn eu busnes ffensio newydd.

Roedd y Rheolwr Cysylltiadau Brian Roberts o gymorth iddynt wrth sefydlu'r cwmni, eu cynllun busnes a dod o hyd i safle addas.

Bu'n archwilio ac yn cynghori ynghylch y ffyrdd gorau i sicrhau cyllid a sefydlu perthnasoedd llwyddiannus gyda nifer o ddarparwyr benthyciadau, gan arwain at fuddsoddiad o £150,000.

Canlyniadau

  • roedd cymorth Rheoli Cysylltiadau yn cynnwys cymorth gyda chynllunio busnes, sefydlu cwmni a rheolaeth ariannol.
  • cymorth i sicrhau cyllid drwy Fanc Datblygu Cymru, Cwmni Benthyciadau i Gychwyn ac UK Steel.
  • sicrhau buddsoddiad o £150,000
  • lansio'n llwyddiannus

Yn dilyn ein cyfarfod cychwynnol i feithrin dealltwriaeth o'r busnes, rhoddodd Brian ni mewn cysylltiad â Banc Datblygu Cymru, Cwmni Benthyciadau i Gychwyn a mynychodd nifer o gyfarfodydd gydag UK Steel ochr yn ochr â mi i sicrhau cymorth ariannol ar ein cyfer.

Roedd bob amser ar gael ac yn barod i roi cyngor defnyddiol ac roedd yn rhan fawr o sicrhau'r cyllid a oedd yn angenrheidiol i ni. Hefyd, roedd Brian o gymorth wrth ddod o hyd i'n swyddfa ym Mharc Navigation, sy'n addas ar gyfer ein hanghenion ac yn gost-effeithiol.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Ein bwriad yw parhau i ddatblygu Integrated Fencing. Rydym yn awyddus i allu cyflogi staff ychwanegol er mwyn cefnogi'r twf hwn.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.