BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

JC Dog Grooming and Kennel Services

JC Dog Grooming and Kennel Services

Prydferthwr cŵn proffesiynol yn tyfu ei busnes gyda diolch i wasanaeth mentora Busnes Cymru.

Mae JC Dog Grooming and Kennel Services, a gafodd ei lansio gan Julie Caveill, yn cynnig cyfleusterau twtio cŵn proffesiynol a chynelau mewn ardal ddiogel a hardd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cysylltodd Julie â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, ac ers hynny mae hi wedi elwa o gymorth gan ymgynghorydd a mentor busnes gwirfoddol sydd yn ei chefnogi i dyfu'r busnes yn y dyfodol.

Cyflwyniad i'r busnes

Cafodd JC Dog Grooming and Kennel Services, sydd wedi ei leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei lansio yn 2016 gan Julie Caveill, prydferthwr cŵn cymwys Lefel 2 a 3. Mae'r busnes yn daprau cynelau a chyfleusterau twtio cŵn mewn amgylchedd gwledig, hardd. Mae'r busnes yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i anifeiliaid anwes, yn cynnwys twtio cŵn, microsglodynnu, sganiau beichiogrwydd a llety dros nos.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Penderfynais sefydlu fy musnes fy hun gan ein bod ni wedi symud i dŷ newydd, ac mae hyn yn gam mawr i'w gymryd pan rydych yn eich 50au. Roeddwn hefyd wedi cael llond bol o ddilyn gorchmynion gan rywun nad oedd yn gwybod beth roeddynt yn ei wneud!

Roeddwn wedi bod eisiau sefydlu fy musnes fy hun ers blynyddoedd, ac roeddwn yn teimlo mai rŵan oedd yr amser gorau i wneud hynny.

Pa heriau a wyneboch?

Er fy mod wedi sefydlu'r busnes ers tair blynedd, mae heriau yn dal i godi yn rheolaidd: o boeni am y cyfnodau tawel, ariannu syniadau ac anturiau newydd, cyflogi'r bobl iawn, gorfod gofalu am gŵn anodd a hyd yn oed amodau tywydd gwael.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Julie â Busnes Cymru ychydig fisoedd ar ôl sefydlu JC Dog Grooming and Kennel Services gan fod ganddi ymholiadau cychwynnol ac angen help gyda'i chyllid. Cafodd ei chefnogi gan dîm cynghori Busnes Cymru a helpodd hi i roi trefn ar ei chostau a phrisiau.

Cafodd Julie ei pharu gyda mentor busnes gwirfoddol, Hugh Edney, sydd yn darparu arweiniad ar faterion megis llif arian, prentisiaethau a recriwtio.

Canlyniadau

Mae fy mherthynas â'm mentor, Hugh Edney yn dda iawn. Rwy'n cwrdd ag ef bob mis i drafod twf y busnes, digwyddiadau ar y gweill ac unrhyw ddatblygiadau eraill sydd wedi codi.

Mae'r cyfarfodydd yn help mawr i mi - mae Hugh yn seren: Mae gen i wastad fater neu ymholiad iddo ei adfer, ac nid yw byth yn siomi.

Mae Busnes Cymru yn parhau i gynnig gweithdai a sesiynau i'm helpu i ddatblygu fy sgiliau yn y dyfodol, ac rwy'n ceisio eu mynychu pan mae'r salon prysur yn caniatáu hynny!

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae fy nyfodol yn edrych yn ddisglair! Rwy'n ystyried ehangu'r cynelau eto drwy ychwanegu ychydig o gynelau moethus i gathod.

Mae'r posibiliadau yn ddiddiwedd, ond tydi'r arian ddim, felly mae'n rhaid i mi ddewis yn ddoeth.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.