BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Llwyddiant busnes SNUG entrepreneur o Abertawe

Jane Dagwell owner of SNUG

Mae gwniadwraig o Abertawe wedi profi bod entrepreneuriaeth yn gallu bod yn llwybr allan o ddiweithdra, wrth i gymorth pwrpasol gan Fusnes Cymru helpu i droi ei busnes newydd yn llwyddiant llai na dwy flynedd ar ôl i’w sylfaenydd gofrestru ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Cafodd Jane Dagwell, sydd wedi creu dillad â llaw ar gyfer y Dywysoges Diana, y Dywysoges Eugenie a’r Dywysoges Beatrice, ei hannog i ymgeisio am Gredyd Cynhwysol ar ôl colli ei swydd yn 2022. Wrth chwilio am waith trwy’r Credyd Cynhwysol, penderfynodd Jane lansio ei busnes ei hun, a throdd at Busnes Cymru am gymorth i ddechrau’r busnes.

Ers lansio ei busnes, SNUG, ym Marchnad y Mwmbwls ym mis Tachwedd 2023, mae Jane wedi gwerthu dros gant o’i chotiau a wnaed â llaw mewn marchnadoedd penwythnos ar draws Abertawe a Chaerdydd, gan wneud tua £14,000 yn ystod ei chwe mis cyntaf o fasnachu wyneb yn wyneb.

Mae Jane yn gwneud y cotiau â llaw yn yr ystafell wely lle’r oedd hi’n arfer cysgu fel plentyn yn Waunarlwydd, gan ddefnyddio defnydd Ecotech gwrth-ddŵr sydd 100% yn gynaliadwy, â leinin cnu polar 320 gram.

Etifeddodd Jane ei dawn naturiol am frodwaith a gwnïo gan ei mam, a gwnaeth ei dilledyn cyntaf yn saith oed. Erbyn ei hugeiniau, roedd Jane yn byw yn Llundain ac yn gwneud dillad i’w ffrindiau. Roedd ei ffrindiau’n marchnata ei dyluniadau trwy lafar gwlad, a daethant i sylw’r Arglwydd a’r Arglwyddes Montagu o Beaulieu, a ofynnodd i Jane gynhyrchu set o wisgoedd ar gyfer gweision bach priodas.

Ynghyd â’i swydd lawn-amser, dros y blynyddoedd a ddilynodd, cynhyrchodd Jane bâr o ffrogiau pinaffor ar gyfer y Tywysogesau Eugenie a Beatrice, a sgarff arbennig ar gyfer y Dywysoges Diana. Parhaodd Jane i greu dyluniadau cyffrous â llaw, gan gynnwys dyluniadau set ar gyfer sioe boblogaidd Netflix, Sex Education, a’r gyfres deledu fyd-enwog Game of Thrones, cyn dod yn wniadyddes ar gyfer Red Dragon.

Wrth drafod ei llwyddiant, dywedodd Jane:

Pan symudais i i Gymru 24 mlynedd yn ôl, roedd hi’n naturiol iawn i mi ddechrau gweithio’n gwneud ffabrig, a dyna oedd fy mywyd i. Newidiodd hynny pan gollais i fy swydd a chefais anogaeth i chwilio am yrfa newydd trwy’r Credyd Cynhwysol. Po fwyaf yr oeddwn i’n chwilio am swydd newydd, po fwyaf y sylweddolais i fy mod i am fod yn entrepreneur, felly fe benderfynais i ofyn am gymorth Busnes Cymru. Gallaf ddweud yn hollol onest nad ydw i wedi edrych nôl ers y diwrnod yna. Rydw i mor ddiolchgar am gefnogaeth y gwasanaeth. Mae hi wedi bod yn amhrisiadwy am nad oedd gen i’r arian na’r wybodaeth i sefydlu busnes fy hun.

Cysylltodd Jane â Busnes Cymru yn Ionawr 2023 a chafodd ei chyfeirio at yr Ymgynghorydd Busnes, Eve Goldsbury. Unwaith y mis am dros flwyddyn bellach, mae Eve a Jane wedi cwrdd i drafod datblygiad SNUG. Yn ogystal â datblygu cynllun busnes, mae Eve wedi helpu Jane i gyflawni dadansoddiad SWOT o’i chystadleuwyr a’r farchnad o gwsmeriaid, archwilio cyfleoedd i ddatblygu cynnyrch, clustnodi marchnadoedd allweddol i werthu ei chynnyrch, a gwneud cais am yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Rhoddodd Eve gymorth i Jane i wneud cais am grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes Busnes Cymru hefyd, sef grant sy’n helpu pobl sy’n economaidd anweithgar neu’n ddi-waith i ddechrau busnes hunangyflogedig yng Nghymru. Ers diogelu’r cyllid ym mis Medi 2023, mae Jane wedi defnyddio rhan ohono i brynu ei pheiriant brodio ei hun. Bydd gweddill y cyllid yn helpu gyda chostau marchnata cymdeithasol a datblygu gwefan dros y misoedd nesaf.

Wrth drafod cefnogaeth Busnes Cymru, dywedodd Jane:

Pan gysylltais i â’r gwasanaeth, roedd gen i’r holl sgiliau angenrheidiol i lansio SNUG, ond doedd gen i ddim cyllid na chefnogaeth. Roedd gan Busnes Cymru ffydd ynof i a rhoesant yr offer a’r gefnogaeth roedd eu hangen arnaf i mi i adeiladu busnes llwyddiannus. Rwy’n dweud wrth bawb rwy’n dod ar eu traws am gymorth anhygoel Busnes Cymru ac rwy’n annog cyd ddarpar-entrepreneuriaid i estyn allan atynt. Wnewch chi ddim difaru.

Cyn pen-blwydd cyntaf SNUG ym mis Tachwedd 2024, nod Jane yw bod wedi sefydlu gwefan ar lein, gan wneud cotiau poblogaidd SNUG yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd ar draws y DU yn dilyn ton o negeseuon uniongyrchol yn gofyn am archebu cynnyrch unigryw gan gwsmeriaid y tu hwnt i Gymru.

Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, Eve Goldsbury:

aeth Jane atom ag angerdd am ei syniad a phortffolio trawiadol. Daeth hi’n genhadaeth i mi ei chynorthwyo i gael y wybodaeth a chwilio am lwybrau i ddiogelu’r cyllid oedd ei angen arni i wireddu ei breuddwyd busnes. Rwy’n gobeithio bod stori Jane yn taro tant gyda phobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd neu’n ansicr am eu dyfodol, ac yn eu hannog nhw i estyn allan atom. Mae entrepreneuriaeth yn llwybr llwyddiannus allan o ddiweithdra ac mae Busnes Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r llwybr yma.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru.  I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. 

Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.