BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Make Spot

The Make Spot

Cyn-athrawes yn lansio stiwdio gwnïo a chrefftau newydd sbon yng Nghas-gwent.

Wedi'i lansio ym mis Medi 2019, mae The Make Spot yn stiwdio gwnïo a gofod creadigol yng Nghas-gwent, sy'n arbenigo mewn partïon gwnïo a chrefftau, gweithdai a digwyddiadau. Mae'n cynnig amgylchedd stiwdio cynnes a chyfeillgar i addysgu ac ysbrydoli. Trodd y perchennog Lucy Adams at wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru i gael cymorth i adeiladu ei hyder a’i gwybodaeth er mwyn dechrau ei menter ei hun, ac ers hynny mae hi wedi:

  • lansio The Make Spot yn llwyddiannus
  • creu 2 swydd newydd
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes

Cyflwyniad i'r busnes

Ar ôl gadael ei gyrfa addysgu, penderfynodd Lucy Adams droi ei breuddwyd oes yn realiti a sefydlu ei stiwdio gwnïo ei hun. Wedi'i agor ym mis Medi 2019 yng Nghas-gwent, mae The Make Spot yn cynnig ystod o ddosbarthiadau gwnïo, gweithdai a digwyddiadau crefft, gan gynnwys partïon plu a chawodydd babi, sy'n addas ar gyfer pwythwyr newydd a phwythwyr profiadol o bob oed, ac yn cwmpasu popeth o brosiectau sylfaenol i arbenigedd Lucy sef brodwaith peiriant llawrydd.

Mae gan Lucy hefyd gasgliad o ddefnyddiau gyda phrint Liberty ar werth, ochr yn ochr â'i gwaith celf tecstilau ei hun.

Pam oeddech chi eisiau dechrau busnes eich hun?

Penderfynais gymryd ymddiswyddiad gwirfoddol o fy swydd flaenorol fel athrawes. Rwyf wedi bod yn athrawes Celf a Thecstilau cymwys ers 20 mlynedd, ac wedi treulio'r 18 mlynedd olaf yn dysgu Tecstilau mewn Ysgol Uwchradd ym Mryste. Roeddwn wrth fy modd â'r gwaith, ond roeddwn yn teimlo ei bod hi'n amser am newid. Roedd gadael fy swydd yn gyfle i mi wireddu fy mreuddwyd o agor fy stiwdio gwnio a gofod gweithdy fy hun.

Pa heriau a wyneboch?

Ar ôl gweithio ym myd addysg am y rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn, fy her fwyaf oedd cael yr hyder i fynd amdani. Gwnaeth mynd i'r gweithdy "Rhoi Cynnig Arni" gyda Mel [fy nghynghorydd Busnes Cymru] roi'r hyder i mi fynd amdani. Ar ôl i mi fynd i'r meddylfryd cywir, roedd yr heriau'n cynnwys dod o hyd i'r adeilad cywir, trafod prydles a oedd yn gweithio i ni, ysgrifennu cynllun busnes cwbl gynhwysfawr, sicrhau cyllid a sicrhau bod y stiwdio wedi'i sefydlu i safon uchel o fewn cyllideb dynn.

Cymorth Busnes Cymru

Er mwyn helpu i fagu ei hyder a'i sgiliau busnes ymarferol, aeth Lucy i un o weithdai dechrau busnes Busnes Cymru ac yna cafodd gymorth gan gynghorydd Busnes Cymru, Melanie Phipps. Rhoddodd Mel gymorth i Lucy gyda nifer o faterion cychwynnol gan gynnwys cynllunio busnes, marchnata, dod o hyd i eiddo, prisio, yswiriant, treth, Yswiriant Gwladol a rhagweld llif arian.

Rhoddodd Mel gymorth pellach iddi hefyd gyda'r cais llwyddiannus am fenthyciad dechrau busnes.

Ymunodd Lucy hefyd ag addewid Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru ac mae wedi ymrwymo i sicrhau lles ei staff a'r gymuned leol yn ogystal â darparu gwasanaeth hygyrch a chynhwysol i bawb.

Canlyniadau

  • lansiad llwyddiannus
  • creu 2 o swyddi
  • sicrhau Benthyciad Dechrau Busnes

Mae cymorth Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy. O'r alwad ffôn gyntaf, mae gwybodaeth a phrofiad Mel wedi bod yn berthnasol ac yn briodol. Y gweithdy "Rhoi Cynnig Arni" a gyflwynwyd gan Mel ym mis Ionawr 2019 oedd dechrau go iawn fy nhaith. Dysgais cymaint ar y diwrnod hwnnw, a gwnaeth cadarnhau fy mod yn barod i ddechrau fy musnes fy hun. Trwy gydol yr holl broses, rwyf wedi elwa o ddull digynnwrf Mel, ei gwybodaeth fanwl, ei hanogaeth barhaus a'i geiriau o gefnogaeth. Yn ystod y broses o ysgrifennu'r cynllun busnes a gwneud cais am fenthyciad, rhoddodd Mel gyngor gonest a pherthnasol i mi.

Cynlluniau a dyheadau

Fy nghynlluniau ar hyn o bryd yw tyfu The Make Spot yn fusnes hyfyw, proffidiol sydd ag enw da fel y lle i fynd am wersi gwnïo, gweithdai a phartïon. Fy nghynllun 8 mlynedd yw ehangu'r busnes ddigon i agor stiwdios eraill mewn trefi eraill.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.